Ma trefn y newyddion o ddarlledu storiau y dydd yn aml yn ymddangos yn anheg. Er engraifft, mae pethau sydd ym ymddangos yn ddibwys i mi yn cael lot fawr o sylw tra bod storiau eraill llawer pwysicach yn cael eu rhoi yn ail neu drydydd.
Engraifft amlwg o hyn ydi bod storiau dyrchafiad Howard yn cael blaenoriaeth i bethau pwysicach fel epidemic hiv yn china ac ati.
yr unig reswm ellai feddwl am hyn ydi mae'n siwr bod materion 'lleol' yn cael blaenoriaeth, ond gan mai newyddion cenedlaethol ydyn nhw, pam bod hyn yn wir? Oni ddyliai materion gwir 'bwysig' gael blaenoriaeth haeddiannol?
Un peth arall, ma'r newyddion yn gallu bod yn 'wirion' o eironig weithiau pan ddilynir storiau am newyn a thlodi gan adroddiad am gemau pel-droed enfawr lle mae chwaraewyr yn cael eu talu digon i newid y drefn mewn gwledydd tlawd.
be dachi'n feddwl?