Newyddion

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Newyddion

Postiogan Leusa » Iau 13 Tach 2003 9:25 pm

Ma trefn y newyddion o ddarlledu storiau y dydd yn aml yn ymddangos yn anheg. Er engraifft, mae pethau sydd ym ymddangos yn ddibwys i mi yn cael lot fawr o sylw tra bod storiau eraill llawer pwysicach yn cael eu rhoi yn ail neu drydydd.
Engraifft amlwg o hyn ydi bod storiau dyrchafiad Howard yn cael blaenoriaeth i bethau pwysicach fel epidemic hiv yn china ac ati.
yr unig reswm ellai feddwl am hyn ydi mae'n siwr bod materion 'lleol' yn cael blaenoriaeth, ond gan mai newyddion cenedlaethol ydyn nhw, pam bod hyn yn wir? Oni ddyliai materion gwir 'bwysig' gael blaenoriaeth haeddiannol?
Un peth arall, ma'r newyddion yn gallu bod yn 'wirion' o eironig weithiau pan ddilynir storiau am newyn a thlodi gan adroddiad am gemau pel-droed enfawr lle mae chwaraewyr yn cael eu talu digon i newid y drefn mewn gwledydd tlawd.
be dachi'n feddwl?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Macsen » Iau 13 Tach 2003 9:43 pm

Fel wyt ti'n ei ddweud, mai newyddion lleol yn cael mwy o sylw. Pam ddylsen ni boeni os mae pobl melyn yn dal HIV?

Am storiau 'gwirion', mae newyddion y dyddiau yma yn gweld pethau 'entertaining' i fod yn fwy pwysig na newyddion gan amlaf.

Hefyd cofia fod press-baron adain dde yn rheoli nifer mawr o'r newyddion, a tydyn nhw ddim eisiau i ni wybod sut mae nhw a'i ffrindiau cyfoethog yn camdrin gwledydd tlawd y byd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 9:51 pm

Leusa does dim o'i le hefo pobl a mwy o ddiddordeb mewn newyddion yn agosach adref fwy na newyddion o bell.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 14 Tach 2003 9:29 am

Dwi'n yn meddwl bod 'na bwynt trio rhoi'r bai ar "press barons adain dde". Y broblem ganolog ydi fod gan pobl Prydain ddim llawer o ddiddordeb mewn newyddion rhyngwladol. Mae astudiaethau wedi dangos hyn dro ar ol tro. Er fod gan y BBC gyfrifoldeb i addysgu, mae'n rhaid i ni fod yn realistic am y peth - toes 'na'm pwynt i'r BBC gynhyrchu newyddion os ydi pawb yn mynd i ddewis gwylio ITN yn ei le.

Os oes gen ti ddiddordeb gwirioneddol mewn newyddion rhyngwladol, yna mae'n bosib i chdi gael gafael arno. Mae'r Guardian yn flaengar iawn gyda newyddion tramor, neu mi fedri di brynnu'r papur rhyngwladol, yr International Herald Tribune. Neu os wyt ti ishio newyddion teledu, prynna offer digidol - mae gan BBC 4 raglen newyddion ryngwladol wych am 8 o'r gloch bob nos.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Gwe 14 Tach 2003 10:51 am

ych chhi'n cofio'r Arlywydd Llwyn cyn ei fod e'n arlywydd. Roedd y Guardian ayyb yn ei ddirmygu am wybod e ddim pwy oedd arlywydd Pacistan?

Fydd y fath ffwl byth fod yn arlywydd dwedon nhw. Ond anghofio taw BALCH yw pobl dyn nhw ddim yn gwbod am wledydd ESTRON.

ER fy mod i'n cytuno â RET does dim byd o'i le mewn cael MWY o ddiddordeb mewn pethau leol na pethau o bell, maen ofnadw bod rhyfeloedd, newyn, ayyb yn cael eu hanwybyddu o achos rhyw sothach am y teulu brenhinol neu wallt £3000 peldroedwr.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Leusa » Gwe 14 Tach 2003 2:17 pm

Digon gwir. Efallai bod mwy o ddiddordeb gan bobl mewn materion lleol. Mae o jyst yn ymddangos yn anwaraidd weithiau pan gaiff gwleidyddiaeth, enwogion a chwaraeon fwy o sylw na trychinebau tramor. Onid pwrpas yr newyddion ydi i adael i bawb wybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y Byd yn hytrach nac i diddori? [Dydw i ddim ar unrhyw gyfrif yn awgrymu bod newyddion am wleidyddiaeth ac ati yno i ddiddori] Ond mae'r ffiniau rhwng y newyddion ar y teledu a magasins llawn storiau i gyffroi'r dyfroedd ac i ddiddanu'r darllenwyr heddiw yn ffin denau iawn.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Gwe 14 Tach 2003 5:15 pm

Chris Castle a ddywedodd:ych chhi'n cofio'r Arlywydd Llwyn cyn ei fod e'n arlywydd. Roedd y Guardian ayyb yn ei ddirmygu am wybod e ddim pwy oedd arlywydd Pacistan?


Dwi erioed wedi clywed gymaint o lol wirion na'r ymosodiad yna ar Bush. Trivia yw enw y boi yna. Dyw ei enw ddim yn bwysig i Bush, mae'r ffordd mae y boi a'i wlad yn byhafio yn y byd yn lawer pwysicach.

Hefo'r logic yna dylai pencapwr pub quiz gael ei ethol yn arlywydd.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Gwe 14 Tach 2003 5:18 pm

Leusa a ddywedodd:Digon gwir. Efallai bod mwy o ddiddordeb gan bobl mewn materion lleol. Mae o jyst yn ymddangos yn anwaraidd weithiau pan gaiff gwleidyddiaeth, enwogion a chwaraeon fwy o sylw na trychinebau tramor. Onid pwrpas yr newyddion ydi i adael i bawb wybod beth sydd yn mynd ymlaen yn y Byd yn hytrach nac i diddori? [Dydw i ddim ar unrhyw gyfrif yn awgrymu bod newyddion am wleidyddiaeth ac ati yno i ddiddori] Ond mae'r ffiniau rhwng y newyddion ar y teledu a magasins llawn storiau i gyffroi'r dyfroedd ac i ddiddanu'r darllenwyr heddiw yn ffin denau iawn.


Wel Leusa beth am i ti feddwl am y peth fel hyn: os na fuasen nhw'n speisio fyny'r newyddion hefo sex scandals, celebs, chwaraeon yna efallai fuasai neb yn gwylio'r sioe yn y lle cyntaf felly buasai gen bobl lai o ddeallusrwydd am beth sy'n mynd mlaen yn y byd.

Cofia hefyd mae pawb eisiau byw (fel mae DI yn ei ddweud) felly mae'n gwneud synnwyr fod nhw eisiau denu mwy o wylwyr o achos yr hysbysebwyr.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chris Castle » Sad 15 Tach 2003 3:47 pm

Wel Leusa beth am i ti feddwl am y peth fel hyn: os na fuasen nhw'n speisio fyny'r newyddion hefo sex scandals, celebs, chwaraeon yna efallai fuasai neb yn gwylio'r sioe yn y lle cyntaf felly buasai gen bobl lai o ddeallusrwydd am beth sy'n mynd mlaen yn y byd.


Trist ond lygad dy le RET.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Leusa » Sul 16 Tach 2003 7:42 pm

Wel Leusa beth am i ti feddwl am y peth fel hyn: os na fuasen nhw'n speisio fyny'r newyddion hefo sex scandals, celebs, chwaraeon yna efallai fuasai neb yn gwylio'r sioe yn y lle cyntaf felly buasai gen bobl lai o ddeallusrwydd am beth sy'n mynd mlaen yn y byd.

Cofia hefyd mae pawb eisiau byw (fel mae DI yn ei ddweud) felly mae'n gwneud synnwyr fod nhw eisiau denu mwy o wylwyr o achos yr hysbysebwyr.

Na, dwi'n anghytuno efo hyna. Ceith bawb sydd isho gwbod am sex scandals, selebs a chwaraeon brynu'r sun neu bethbynag, wedyn bydd pawb sydd wir yn poeni am wir faterion cyfoes y byd yn cael gwylio'r newyddion cenedlaethol.
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron