Mae 'na bobl ar y bwrdd 'ma sydd yn bendant yn wrth-Americanaidd. Pobl sy'n mynnu deud fod America yn waeth 'na Irac, eu bod nhw wedi lladd mwy o bobl na Hitler a.y.y.b
Ond eto son am wleidyddiaeth America ma nhw dal. Efallai dy fod di'n credu fod nhw'n hollol anghywir i feddwl hynnu (ac os wti, dwi'n cytuno!) ond ma'r lein dal yna rhwng gwrthod polisiau gwleidyddol a casau gwlad.
Ma na lot mwy i wlad na'i gwleidyddiaeth, ma 'gwlad' yn sefyll dros wleidyddiaeth, hanes, chwareuon, diwilliant, bwyd, popeth.
Dwi dal ddim yn confinsd fod gwrthod gwleidyddiaeth gwlad yn eich gwneud chi'n wrth-y wlad honno.
Meddylia am Americanwr sy'n heddychwr llwyr, sosialydd ac yn casau gynnau. Dydi hynnu ddim yn angenrheidiol ei wneud o'n wrth-America nadi.