Garnet Bowen a ddywedodd:Marwolaeth a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Sut ddiawl fysa America yn "sugno pres" y byd?
Dwi'n deall be mae Ifan yn drio ei ddweud, jyst ei fod o'n ei ddweud o mewn ffordd bach yn chwim, a byth bron yn esbonio'i hun. Dwi'n cymeryd bod Ifan yn cyfeirio at y ffordd mae America yn mynd yn fwy a mwy cyfoethog, tra mae gwledydd tlodach i weld yn mynd yn fwy a mwy tlawd. Wrth gwrs, mae hynny'n gor symyleiddio pethau rywfaint.
Gor-symleiddio rhywfaint? Dyma ydi economeg oes y cerrig. "Mae X yn mynd yn gyfoethog tra bo Y yn mynd yn dlawd felly mae'n rhaid fod cyfoeth X yn achosi tlodi Y. Nid felna mae'r byd yn gweithio.
Tydw i ddim yn bod yn sarhaus ar chwarae bach, ond pan dwi'n darllen sdwff Ifan fedrai ddim dal yn ol.
Ar lefel bersonol, dwi hefyd yn mynd trwy rhyw droedigaeth. Ar ol bod ar yr asgell chwith am flynyddoedd lawer, dwi'n ffeindio fod agwedd rhai pobl ar y chwith mor atgas, fel fy mod i'n meddwl troi at y gelyn traddodiadol - y toris (neu New Labour o leiaf). Ac mae Ifan yn cynrychioli'r math o asgellwr chwith dwi'n ei gasau yn fwy na'r un.
Garnet, ma dy fi dipyn o amser i beth wyt ti'n weud. Gan amla ti'n adeiladol, er nad y'n ni wastad yn cytuno - pwy sydd yn.
Ond, a deall dy fod wedi gwylltio gyda Ifan, pam na gymry di yr amser fan hyn i esbonio pam nad yw'r 'equation' uchod yn iawn?
Fel arfer mae'n ddigon teg dweud fod polisiau llywodraethau (x) yn gwneud rhai gwledydd/pobl yn gyfoethog tra fo'r mwyafrif (y), yn enwedig y tlawd a'r gwledydd trydydd byd, yn mynd yn dlotach. Nawr ma'r 'equation' yma i fod i gyfro pob dim, achos wedi'r cwbwl ma na lywodraethau gwael yn y trydydd byd, ac mae na lywodraethau da (cymharol )yn y Gorllewin, ac mae rhai pobl aruthrol o gyfoethog yn y trydydd byd (o gymharu a'r gweddill yn eu gwlad). Ond onid yw'n deg cyffredinoli i ddweud fod polisiau presenol America a Ewrop, i raddau helaeth iawn, yn gwneud eu hunen yn gyfoethocach ar drail gwledydd eraill, nifer helaeth yn wledydd y trydydd byd, ac felly mae'r tlawd yn mynd yn dlotach? Fel rheol, mae hyn i weld yn eithaf gwir i mi.