Irac - dyma yw rhyddid.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Newt Gingrich » Sad 20 Rhag 2003 2:07 am

mred a ddywedodd:Dwi'n ailadrodd fy nghwestiwn (gyda ffurf y dyfodol ar y ferf sylwer). Fydd arian o werthiant olew Irac yn cael ei ddefnyddio i ariannu ailadeiladu strwythurau'r wlad? Fydd neu na fydd?


Wel bydd siwr maes o law - be arall fydde ti'n ddisgwyl?

O greu cyfundren Iracaidd bydd angen i'r wlad dalu ei ffordd yn y byd mawr eang ac fe fydd ail adeiladu Irac wedi deng mlynedd ar hugain o fuddsoddi mewn arfau i Saddam a phlasau i'r dyn ai deulu yn broses hir.

Ond yn naturiol, gyda chyfoeth y wlad fe fydd y broses yn un gymharol fyr os bydd y gwariant ar adfywio y wlad yn htrach nag arfau ac urddas y teulu llywodraethol.

Fodd bynnga, yn ol at y pwynt gwreiddiol, ti, Sioni ac eraill wedi honni fod y cytundebau presennol sydd ddim argael i gwmniau o Ffrainc, yr Almean ayb yn dwad o arian Irac - wel ti'n anghywir.

Felly dwi di ateb dy gwestiwn di, pam na nei di rwan gyfaddef fod dy sylwadau gwreiddiol yn ffeithiol anghywir?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan mred » Sad 20 Rhag 2003 2:19 am

mred a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Gyda llaw, trosedd America yn y fan yma yw dweud na all cwmniau o'r gwledydd oedd yn gwrthwynebu y rhyfel dendro am waith sy'n cael ei ariannu gan drethdalwr yr UDA. Beth sy'n rhyfedd am hyn?

Felly dydi hi ddim yn fwriad defnyddio arian o werthiant olew Irac i gyllido'r 'feeding frenzy' corfforaethol yma? Mae dy ffeithia di'n anghywir yma Newt.

Dyma oedd fy sylwadau. Mi wyt ti newydd gadarnhau ei bod yn fwriad defnyddio arian olew i wobrwyo cyfeillion byd busnes Bush, felly beth ydi'r broblem efo'r hyn oeddwn yn ei ddeud! Mi fuaswn i'n disgwyl dipyn mwy o wyleidd-dra gan un sy'n pledio achos y corfforaethau yr wythnos y datgelwyd bod cwmni fu dan gyfarwyddyd Cheney yn destun ymchwiliad wedi cyhuddiad eu bod wedi codi $40m yn ormod am eu gwasanaethau. Elwa ar ddioddefaint eraill.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Owain Llwyd » Sad 20 Rhag 2003 11:18 am

Newt Gingrich a ddywedodd:Fe fydd ail adeiladu Irac wedi deng mlynedd ar hugain o fuddsoddi mewn arfau i Saddam a phlasau i'r dyn ai deulu yn broses hir.


A bod yn deg, mae isio i chdi son hefyd am y cyfraniad glew oedd y Cynghreiriaid wedi'i wneud yn 1991 i ddinistrio seilwaith civilian y wlad drwy fomio (a llwyddo'n o lew, yn ol dw i'n ei dallt).

Yng ngeiriau Ramsey Clark, cyn-Attorney General i'r Unol Daleithiau:

Ramsey Clark a ddywedodd:The bombing of Iraq's cities and infrastructure had nothing to do with driving Iraq from Kuwait. It was intended to cripple a developing Third World country that was a politically independent military power in the region; and that was rich in oil and committed to its own economic development.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Sioni Size » Sul 21 Rhag 2003 10:33 pm

Mae'n rhaid fod Ramsay Clark yn 'un o'r asgell chwith' naif 'ma felly tydi Newt.
Newt - "wel os ti'n llyncu holl gachu y chwith yna ffein, ond os ti'n gallu meddwl drostot dy hun yna dwi ddim yn meddwl."
:lol: :lol:
Yn wahanol i chdi felly!
Mr mae-llywodraeth-america-yn-iawn-am-bob-dim-erioed

Grant! Ahaha! Bydd y pres yma i gyd yn mynd yn ol i gwmniau America'r byffwn! 'Ailadeiladu' gan gwmniau Dick Cheney a Rumsfeld a Wolfowitz a Bush a Rice a ......
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron