Irac - dyma yw rhyddid.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Irac - dyma yw rhyddid.

Postiogan Sioni Size » Mer 10 Rhag 2003 12:20 pm

** Iraq tenders 'only for US allies' **
Only countries that support the military effort in Iraq will get big rebuilding
contracts there, the Pentagon says.
< http://news.bbc.co.uk/go/em/fr/-/1/hi/b ... 305501.stm >


Nadolig llawen, ysbeilwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Huw T » Gwe 12 Rhag 2003 2:35 am

Ond chware teg, mae'r syniad yn neud sens. Yr UDA yn diolch i'r rhai ai chefnogodd yn y Rhyfel. Petai ti mewn sefyllfa debyg, fydde ti'n gwneud yn wahanol?
Hefyd, petai Saddam heb gael ei topplo, byddai cwmnioedd amddiffyn Ffrainc a Rwsia yn cael gwerthu arfau iddo, felly dyna'i gambl nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Sioni Size » Gwe 12 Rhag 2003 1:01 pm

Na fysan, fyddai cwmniau Ffrainc a Rwsia ddim yn cael gwerthu arfau iddo oherwydd fod na sancsiynau ar y wlad ers deg mlynedd. Doedd na neb yn cael gwerthu dim iddynt, yn cynnwys bwyd a moddion ac offer ysbytai. Nid fel cyn y rhyfel gwlff cyntaf, lle roedd Prydain ac America'n gwerthu arfau i Saddam Hussein.

Ond yn bwysicach, ers pryd mae hi'n briodol i'r Unol Daleithau 'ddiolch' i unrhyw un? Mae'r diolch yma yn dangos yn glir mai wedi meddianu'r wlad y mae hi, nid ei rhyddhau. Nid fod unrhyw un hefo hanner syniad sut mae'r llywodraethau'n gweithio yn amau hynna o'r lle cyntaf.
Os mai 'gwlad rydd' ydi Irac bellach, Irac ddylai fod yn gwneud y diolch yma nid y Pentagon. Ysbeilio ydi hyn a dim arall. Dewch yma i ddwyn deunydd crai y wlad ac i fynd yn dew ar arian 'ailadeiladu'. Haleliwia i Breifateiddio a'r Farchnad Rydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Sleepflower » Gwe 12 Rhag 2003 1:11 pm

Trwy wrthod hyn i wledydd heddychlon, mae George Bush wedi llwyddo i ddangos mae motif economaidd oedd ganddo i fynd i rhyfel wedi'r cyfan.

Dywedodd ar y teledu neithwr ei fod yn ymddwyn dros terthdalwyr yr UDA. Ond na'r ffordd orau o warchod diddordebau dy drethdalwyr yw i beidio cychwyn rhyfel a fydd yn gosod bilynau, heb son am rhyfel hollol ddibwynt, a fydd yn gosod unben yn lle unben arall, gan gyflwyno bron dim newid i fywyd pob dydd bobl Irac na America?

Un rheswm arall dros bleidleisio Plaid. Cymru yn Ewrop, ar ben ei hunan, a geith Lloegr Daily Mail dilyn polisi America mor bell a mae e'n ddymuno. Geith Lloegr y Sun cyhoeddi cymaint o bropaganda amdan 'our boys' a mae e'n ddymuno. Gall America fod yn ffrind i Loegr os mae Lloegr eisiau hynny, ond Ewrop yw ffrind Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Sioni Size » Gwe 12 Rhag 2003 1:22 pm

Yyyyn hollol.
A mae na nifer o bobl sy'n gwrthwynebu'r rhyfel yn dod a chost yr holl beth i fewn - 'mi fysa ni'n medru adeiladu 72353 ysbyty am yr arian mae'r rhyfel yn gostio i'r wlad' - sydd, er fod eu calon yn y lle iawn, heb sylweddoli mai rhyfel i wneud arian i America a Phrydain oedd hon o'r dechrau.
A fel ti'n ddeud, y drasiedi ydi fod Cymru yn cael ei gyfri yn yr holl beth er nad oedd dim dewis ganddom. Rydym ynghlwm yng nghynffon Lloegr, a'i anfadwaith hi yw un ni hefyd.
Er medrid dadlau nad oedd gan bobl Lloegr lawer o ddewis ychwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan RET79 » Sul 14 Rhag 2003 5:49 pm

Da iawn America. Gwobrwyo y gwledydd dewr wnaeth gefnogi cael gwared a'r bwystfil yn ariannol ac yn filitaraidd. Mae gan ffrainc, yr almaen, rwsia uffar o cheek eisiau cael contracts i ail adeiladu y wlad ar ol iddyn nhw fod gymaint yn erbyn yr holl beth.

Saddam wedi ei ddal, da iawn yn wir. Rwan fe gewn ni interrogatio'r diawl ac fe ddeith gwir Iraq allan a dwi'n siwr fydd y criw anti-war yn edrych yn fwy twp byth pan ffeindia ni allan y gwir am Iraq.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan mred » Sul 14 Rhag 2003 6:11 pm

Wyt ti'n credu mewn tylwyth teg hefyd, dwad...? Ond eto, ella y gwna nhw'u canfod nhw wedi'u stwffio i lawr trwsus Saddam :rolio:
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Rhodri Nwdls » Sul 14 Rhag 2003 6:57 pm

mred a ddywedodd:Wyt ti'n credu mewn tylwyth teg hefyd, dwad...? Ond eto, ella y gwna nhw'u canfod nhw wedi'u stwffio i lawr trwsus Saddam :rolio:

...neu yn ei farf?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Jacfastard » Llun 15 Rhag 2003 10:34 am

Dwi'n rhannol gytuno a RET ar y pwnc hwn.
Jacfastard
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 238
Ymunwyd: Sad 18 Hyd 2003 6:13 pm

Postiogan Sioni Size » Llun 15 Rhag 2003 11:16 am

http://pilger.carlton.com/iraq

Mae'r gwir wedi ei ddarganfod yn barod gan Pilger, uchod, gan George Monbiot, isod, a nifer o newyddiadurwyr doeth a dewr eraill, ond fod na nifer helaeth o unigolion ddim yn rhoi ffliwjan am y gwir neu yn dewis peidio gwrando. Ac yndw, mi ydw in pwyntio'r bys Ret.

http://www.monbiot.com/dsp_thiscat.cfm? ... _cat_id=30
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai