mred a ddywedodd:Dwi'n ailadrodd fy nghwestiwn (gyda ffurf y dyfodol ar y ferf sylwer). Fydd arian o werthiant olew Irac yn cael ei ddefnyddio i ariannu ailadeiladu strwythurau'r wlad? Fydd neu na fydd?
Wel bydd siwr maes o law - be arall fydde ti'n ddisgwyl?
O greu cyfundren Iracaidd bydd angen i'r wlad dalu ei ffordd yn y byd mawr eang ac fe fydd ail adeiladu Irac wedi deng mlynedd ar hugain o fuddsoddi mewn arfau i Saddam a phlasau i'r dyn ai deulu yn broses hir.
Ond yn naturiol, gyda chyfoeth y wlad fe fydd y broses yn un gymharol fyr os bydd y gwariant ar adfywio y wlad yn htrach nag arfau ac urddas y teulu llywodraethol.
Fodd bynnga, yn ol at y pwynt gwreiddiol, ti, Sioni ac eraill wedi honni fod y cytundebau presennol sydd ddim argael i gwmniau o Ffrainc, yr Almean ayb yn dwad o arian Irac - wel ti'n anghywir.
Felly dwi di ateb dy gwestiwn di, pam na nei di rwan gyfaddef fod dy sylwadau gwreiddiol yn ffeithiol anghywir?