huwwaters a ddywedodd:Dylai'r UDA troi ail-adeiladu'r wlad yn rwbeth apprentiship, i bobl y wlad.
$18.4 biliwn sydd yn sownd yn y cytundebau, byse fo ddim yn well fod pobl Irac yn cael rhanfwyaf o'r pres yn lle gwleydd y tu allan? Gallai pobl o tu allan cynnig deunyddiau a hyfforddi.
Syniad neis iawn, ond ydi hyn yn ymarferol? Be sy bwysica, gwneud yn siwr fod y gwaith o ail-adeiladu yn cael ei wneud i'r safon ucha posib, 'ta rhoi cytundebau i gwmniau lleol? Yn y tymor hir, mi fydd
infrasturcture dibynnol yn llawer mwy defnyddiol i bobl Irac.
Ond, o ddeud hynny, mi ddylia'r cwmniau ddefnyddio is-gontractwyr lleol pan fo hynny'n bosib.
huwwaters a ddywedodd:Y peth dwi'm yn hapus ohono, yw fod democratiaeth yn seiliedig ar system yr UDA yn cael ei sefydlu. Rhag ofn fod neb wedi sylweddoli, ma gwledydd fel Prydain, Norwy ac India efo systemau llawer gwell, wrth lywodraethu.
Toes 'na ddim penderfynniad wedi ei wneud eto ynlgyn a beth fydd union ffurf llywodraeth barhaol Irac. Ond mae deud bod gan Prydain well system na America yn ffwlbri llwyr.