Irac - dyma yw rhyddid.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 15 Rhag 2003 12:37 pm

Ni chaiff Prydain ddim ohoni, chwaith. Cwmniau Americanaidd yn unig fydd yn cael y cytundebau i ailadeiladu Irac, o beth wn i. Mae America wedi defnyddio Prydain yn hynod effeithiol, ac mae Prydain fel ci bach wedi dilyn America'n hollol ddall (fel pob tro).

Bydd economi Irac yn cael ei reoli gan America. Bydd rheolwr yr Irac newydd 'rydd' o blaid America; i'r diawl â democratiaeth a rhyddid! Fy ofn i yw mai dim ond y dechrau yw hyn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan huwwaters » Maw 16 Rhag 2003 6:52 pm

Dylai'r UDA troi ail-adeiladu'r wlad yn rwbeth apprentiship, i bobl y wlad.

$18.4 biliwn sydd yn sownd yn y cytundebau, byse fo ddim yn well fod pobl Irac yn cael rhanfwyaf o'r pres yn lle gwleydd y tu allan? Gallai pobl o tu allan cynnig deunyddiau a hyfforddi.

Y peth dwi'm yn hapus ohono, yw fod democratiaeth yn seiliedig ar system yr UDA yn cael ei sefydlu. Rhag ofn fod neb wedi sylweddoli, ma gwledydd fel Prydain, Norwy ac India efo systemau llawer gwell, wrth lywodraethu.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Rhag 2003 9:13 am

huwwaters a ddywedodd:Dylai'r UDA troi ail-adeiladu'r wlad yn rwbeth apprentiship, i bobl y wlad.
$18.4 biliwn sydd yn sownd yn y cytundebau, byse fo ddim yn well fod pobl Irac yn cael rhanfwyaf o'r pres yn lle gwleydd y tu allan? Gallai pobl o tu allan cynnig deunyddiau a hyfforddi.


Syniad neis iawn, ond ydi hyn yn ymarferol? Be sy bwysica, gwneud yn siwr fod y gwaith o ail-adeiladu yn cael ei wneud i'r safon ucha posib, 'ta rhoi cytundebau i gwmniau lleol? Yn y tymor hir, mi fydd infrasturcture dibynnol yn llawer mwy defnyddiol i bobl Irac.

Ond, o ddeud hynny, mi ddylia'r cwmniau ddefnyddio is-gontractwyr lleol pan fo hynny'n bosib.

huwwaters a ddywedodd:Y peth dwi'm yn hapus ohono, yw fod democratiaeth yn seiliedig ar system yr UDA yn cael ei sefydlu. Rhag ofn fod neb wedi sylweddoli, ma gwledydd fel Prydain, Norwy ac India efo systemau llawer gwell, wrth lywodraethu.


Toes 'na ddim penderfynniad wedi ei wneud eto ynlgyn a beth fydd union ffurf llywodraeth barhaol Irac. Ond mae deud bod gan Prydain well system na America yn ffwlbri llwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Owain Llwyd » Mer 17 Rhag 2003 11:29 pm

Ac yn y cyfamser, mae rhyddid yn dal i flaguro ar gyfer pobl Irac.

Reuters a ddywedodd:"Any demonstration against the government or coalition forces will be fired upon," [Hussein al-]Jaburi's voice said, according to an army interpreter. "This is a fair warning."


Rhag ofn bod RET yn amau dilysrwydd y dyfyniad, dyma fersiwn arall yn arbennig iddo fo.

Fox News a ddywedodd:"Any demonstration against the government or the coalition forces will be fired upon," the governor [yn ardal Tikrit], Hussein al-Jaburi, said on a loudspeaker mounted on a U.S. military vehicle.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Cardi Bach » Iau 18 Rhag 2003 10:16 am

[Wedi dechrau edefyn arall ar Gynrychiolaeth Gyfrannol yn y Seiat Cell Cymysg Gwleidyddol yn dilyn y ffaith fod trafodaeth ddifyr yn datblygu yma y tu hwnt i Irac.]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Newt Gingrich » Sad 20 Rhag 2003 1:25 am

Sioni Size a ddywedodd:http://pilger.carlton.com/iraq

Mae'r gwir wedi ei ddarganfod yn barod gan Pilger, uchod, gan George Monbiot, isod, a nifer o newyddiadurwyr doeth a dewr eraill, ond fod na nifer helaeth o unigolion ddim yn rhoi ffliwjan am y gwir neu yn dewis peidio gwrando. Ac yndw, mi ydw in pwyntio'r bys Ret.

http://www.monbiot.com/dsp_thiscat.cfm? ... _cat_id=30


Arglwydd mawr ai Iesu ydyw Pilger i chdi?

Dewr? - falle

Doeth? - wel os ti'n llyncu holl gachu y chwith yna ffein, ond os ti'n gallu meddwl drostot dy hun yna dwi ddim yn meddwl.

Gyda llaw, trosedd America yn y fan yma yw dweud na all cwmniau o'r gwledydd oedd yn gwrthwynebu y rhyfel dendro am waith sy'n cael ei ariannu gan drethdalwr yr UDA. Beth sy'n rhyfedd am hyn?

Os di Daimler Benz neu Peugeot am fuddsoddi mewn ffactri geir yn Irac yna doesw dim yn stopio nhw, ond pam ddylai arain trethdalwyr UDA dalu am waith i gwmniau o ffrainc neu'r Almaen oedd yn gwrthwynebu y rhyfel oherwydd fod ganddynt gytundebau gyda llywodraeth Irac?

Sioni bach, dwi di bod yn yr Eidal am dair wythnos, ond wrth ddychwelyd da yw gweld dy fod mor ragfranllyd, un llygeidiog a thwp ac erioed :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Newt Gingrich » Sad 20 Rhag 2003 1:28 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ni chaiff Prydain ddim ohoni, chwaith. Cwmniau Americanaidd yn unig fydd yn cael y cytundebau i ailadeiladu Irac, o beth wn i. Mae America wedi defnyddio Prydain yn hynod effeithiol, ac mae Prydain fel ci bach wedi dilyn America'n hollol ddall (fel pob tro).

Bydd economi Irac yn cael ei reoli gan America. Bydd rheolwr yr Irac newydd 'rydd' o blaid America; i'r diawl â democratiaeth a rhyddid! Fy ofn i yw mai dim ond y dechrau yw hyn.


Llawer gwell fyddai cael Saddam yn rhoi cytundebau i Ffrainc neu Rwsia ynde gyfaill bach dwl o Rachub :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan mred » Sad 20 Rhag 2003 1:48 am

Newt Gingrich a ddywedodd:Gyda llaw, trosedd America yn y fan yma yw dweud na all cwmniau o'r gwledydd oedd yn gwrthwynebu y rhyfel dendro am waith sy'n cael ei ariannu gan drethdalwr yr UDA. Beth sy'n rhyfedd am hyn?

Felly dydi hi ddim yn fwriad defnyddio arian o werthiant olew Irac i gyllido'r 'feeding frenzy' corfforaethol yma? Mae dy ffeithia di'n anghywir yma Newt.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Newt Gingrich » Sad 20 Rhag 2003 1:53 am

mred a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Gyda llaw, trosedd America yn y fan yma yw dweud na all cwmniau o'r gwledydd oedd yn gwrthwynebu y rhyfel dendro am waith sy'n cael ei ariannu gan drethdalwr yr UDA. Beth sy'n rhyfedd am hyn?

Felly dydi hi ddim yn fwriad defnyddio arian o werthiant olew Irac i gyllido'r 'feeding frenzy' corfforaethol yma? Mae dy ffeithia di'n anghywir yma Newt.


Ti'n wrong was bach.

Mae'r cytundebau hyn yn ganlyniad i GRANT llywodraeth America o 87.5biliwn o ddoleri i Irac (sef swm sy'n cyfateb i gyllideb y Cynulliad am tua pedair blynedd) Sylwer mred, GRANT. Yn wahanol i Hilary Clinton a chyfeillion eraill y chwith rhyngwladol, GRANT oedd dymuniad Bush a GRANT a gafwyd. Dadla efo fi a chroeso, ond dylet gael dy ffeithiau yn iawn yn gyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan mred » Sad 20 Rhag 2003 2:00 am

Newt Gingrich a ddywedodd:
mred a ddywedodd:
Newt Gingrich a ddywedodd:Gyda llaw, trosedd America yn y fan yma yw dweud na all cwmniau o'r gwledydd oedd yn gwrthwynebu y rhyfel dendro am waith sy'n cael ei ariannu gan drethdalwr yr UDA. Beth sy'n rhyfedd am hyn?

Felly dydi hi ddim yn fwriad defnyddio arian o werthiant olew Irac i gyllido'r 'feeding frenzy' corfforaethol yma? Mae dy ffeithia di'n anghywir yma Newt.


Ti'n wrong was bach.

Mae'r cytundebau hyn yn ganlyniad i GRANT llywodraeth America o 87.5biliwn o ddoleri i Irac (sef swm sy'n cyfateb i gyllideb y Cynulliad am tua pedair blynedd) Sylwer mred, GRANT. Yn wahanol i Hilary Clinton a chyfeillion eraill y chwith rhyngwladol, GRANT oedd dymuniad Bush a GRANT a gafwyd. Dadla efo fi a chroeso, ond dylet gael dy ffeithiau yn iawn yn gyntaf.

Dwi'n ailadrodd fy nghwestiwn (gyda ffurf y dyfodol ar y ferf sylwer). Fydd arian o werthiant olew Irac yn cael ei ddefnyddio i ariannu ailadeiladu strwythurau'r wlad? Fydd neu na fydd?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai