dwi ddim yn licio bush

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

dwi ddim yn licio bush

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 12 Rhag 2003 5:42 pm

:wps: Mae y boi jysd yn disgres. Mau o' n acdio fatha y bwli ar y iard ysgol. Neu fatha bod o' n chware computer gem jysd bomio y gwledydd sy' n mynd yn ffordd fo. Ydi y boi yn byw yn yr un byd a pawb arall? Dio' n gwybod faint o niwad mau o' n neud? Ta ydi o jysd ddim yn poeni? Dwi' m yn deall. Dydi o methu bod yn huna thic na? neu sa fo ddim yn rheoli y gwlad mwyaf pwerus yn y byd. Ella bod o jysd yn hollol thic mewn un ffordd ac yn rili clyfar pam mae o' n dod i syd i neud i pobl licio fo? Be mae pawb arall yn meddwl
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Leusa » Gwe 12 Rhag 2003 11:19 pm

hehe dachi'n cofio fo'n tagu ar pretzel?! :lol:
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 14 Rhag 2003 11:32 am

Wel mae'n dibynnu sut wyt ti'n edrych ar pethau chwaith. Fe gafodd wared a'r Saddam Hussein a oedd yn creu cryn dipyn o broblemau yn Dwyrain Canol. Un o resymau am y rhyfel yw bod America yn awyddus i dynnu allan o Dwyrain Canol yn filwrol. Ond gan fod Saddam Hussein dal yn beryglus yn yr ardal, roedd rhaid i milwyr UDA aros.

Dwi'n meddwl y gobaith UDA yn Iraq yw troi mewn i wlad democratiaeth rhydd, gan obeithio ei fod yn gallu gwthio gwledydd erail yr un ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan mred » Sul 14 Rhag 2003 11:49 am

Tynnu allan o'r Dwyrain Canol?! Ddim yn wir o gwbl.

Mae'r UD wedi bod yn sefydlu presenoldeb milwrol mewn mwy a mwy o'r gwledydd rhwng Rwsia a Môr Arabia yn ystod y cyfnod ers i'r Undeb Sofietaidd chwalu. A'r syniad oedd sefydlu presenoldeb yn Irac hefyd (nid cyfrinach oedd hyn, fe'i crybwyllwyd yn gwbl agored), er mwyn medru tynnu allan o Sawdi Arabia drws nesaf, a sicrhau'r meysydd olew. Mae eu presenoldeb yno yng Ngwlad Santaidd Islam, fel petai, wedi yn mynd yn rhy bryfoclyd i'r eithafwyr - ac i'r Mwslemiaid cyffredin o ran hynny.

Wrth gwrs ni wnaeth poblogaeth Irac ymateb yn y modd disgwyliedig i'w 'gwaredwyr' Americanaidd, a phenderfynwyd peidio â bwrw ymlaen (hyd y gwn i beth bynnag - pwy a ŵyr?) â'r cynllun i sefydlu gwersylloedd hir-dymor yn Irac.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Re: dwi ddim yn licio bush

Postiogan Newt Gingrich » Sad 20 Rhag 2003 1:12 am

lowri larsen a ddywedodd::wps: Mae y boi jysd yn disgres. Mau o' n acdio fatha y bwli ar y iard ysgol. Neu fatha bod o' n chware computer gem jysd bomio y gwledydd sy' n mynd yn ffordd fo. Ydi y boi yn byw yn yr un byd a pawb arall? Dio' n gwybod faint o niwad mau o' n neud? Ta ydi o jysd ddim yn poeni? Dwi' m yn deall. Dydi o methu bod yn huna thic na? neu sa fo ddim yn rheoli y gwlad mwyaf pwerus yn y byd. Ella bod o jysd yn hollol thic mewn un ffordd ac yn rili clyfar pam mae o' n dod i syd i neud i pobl licio fo? Be mae pawb arall yn meddwl


Falle na fydde fo'n licio chdi chwaith Lowri.

O ran galw pobl yn thick, darllena dy gyfraniad uchod a gofynna pwy sy'n thick, chdi ta Bush. No brainer ddwedwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 20 Rhag 2003 9:36 am

Leusa a ddywedodd:hehe dachi'n cofio fo'n tagu ar pretzel?! :lol:


Piti na fysa fo wedi tagu go iawn arni!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan RET79 » Sad 20 Rhag 2003 1:58 pm

Nid yw Bush yn thick o gwbl. Mae'n gwneud gwaith ardderchog. Fe fydd regime change yn Iraq. Mae'r taliban wedi mynd.

I wneud 'high level decisions' rhaid i ti edrych ar bethau yn ei gyfanrwydd i wneud penderfyniad. Felly dyw pethau fel fod Bush ddim yn gwybod beth yw enw arlywydd gwlad X ddim o bwys o gwbl.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 20 Rhag 2003 4:34 pm

O ffyc off, dw i di bwyta tatws efo mwy o frêns na'r dyn! Os ti'n arweinydd gwlad mwyaf pwerys y byd faswn i'n disgwyl i ti gallu enwi nifer helaeth o arweinwyr y byd. Dyn sy'n dweud pethau fel ...

Do not misunderestimate me

I'm a patient man. And when I say I'm a patient man, I mean I'm a patient man.

It's clearly a budget. It's got a lot of numbers in it.

There's an old saying in Tennessee—I know it's in Texas, probably in Tennessee—that says, fool me once, shame on—shame on you. Fool me—you can't get fooled again.

I promise you I will listen to what has been said here, even though I wasn't here.

I know that the human being and the fish can co-exist.


a'r anfarwol...

Reading is the basics for all learning.


Ac am fwy ewch i fama; drycha ar rheiny a wedyn deutha fi di'r boi ddim yn idiyt (a chael ffwc o laff ar y cont 'run pryd)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan RET79 » Sad 20 Rhag 2003 4:50 pm

Dyw hynna ddim yn poeni fi o gwbl. Edrych ar ei benderfyniadau ac fe weli di lwyddiant ysgubol. Mae pawb yn dweud pethau o chwith weithiau, mae'r boi yn ddyn dim robot.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 20 Rhag 2003 4:54 pm

Dyn!? Os fu angen tystiolaeth erioed am y 'lost link' rhwng y ddyniolaeth a mwnciod, dyna fo!

Penderfyniadau? Wel, heblaw am lladd miloedd o bobl ddiniwed, creu gelynion llu i'r UDA a gwanhau eu heconomi, do, dw i'n siwr fod ei benderfyniadau wedi bod yn champion!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron