Oes angen prawf o ddatblygu arfau ar gyfer ymosod ar y wlad ta nag oes? Ydi'r cwestiwn yma yn rhy anodd?
A ddyliai UDA a Phrydain feddianu pob gwlad yn y byd rhag ofn?
Cymedrolwr: Chwadan
Sioni Size a ddywedodd:Oes angen prawf o ddatblygu arfau ar gyfer ymosod ar y wlad ta nag oes? Ydi'r cwestiwn yma yn rhy anodd?
A ddyliai UDA a Phrydain feddianu pob gwlad yn y byd rhag ofn?
Sioni Size a ddywedodd:Ces dismisd ior onor.
Gwelem mai dadl Boris yw fod gan America rhwydd hynt i wneud hynny mae hi eisiau yn y byd waeth faint sy'n dioddef.
Boris a ddywedodd:Sioni Size a ddywedodd:Ces dismisd ior onor.
Gwelem mai dadl Boris yw fod gan America rhwydd hynt i wneud hynny mae hi eisiau yn y byd waeth faint sy'n dioddef.
Ti'n swnio fel defence barrister Ian Huntley. Os ti'n colli'r ddadl ti'n creu ffantasi.
Yr hyn dwi di ddeud, hyd syrffed, yw fod yna hawl i weithredu os yw hynny i berwyl moesol. Felly cael gwared o Saddam - fine by me.
Tria ddallt
Cardi Bach a ddywedodd:Wel ma hwnna'n gweud cyfrole, yndyw e - 'fine by you' a'th farn orllewinol-gwybod-yn-well-na-darkies-Irac-o-sut-mae-gwneud-pethau, falle.
Cardi Bach a ddywedodd:Pam ddim gadael i dair wlad newydd ddatblygu o'r hen Irac? Na fyddai hynny o ddim lles i America.
Boris a ddywedodd:Cardi Bach a ddywedodd:Wel ma hwnna'n gweud cyfrole, yndyw e - 'fine by you' a'th farn orllewinol-gwybod-yn-well-na-darkies-Irac-o-sut-mae-gwneud-pethau, falle.
Dwi'n credu fod awgrymu fy mod yn hiliol yn mynd yn OTT braidd Cardi - dwi'n fodlon derbyn mai nid dyna dy fwriad.
Mae dy bwynt am Irac (tair gwlad) yn rhesymol, ond onid ffedraliaeth yw'r bwriad ar hyn o bryd? Onid yw cynrychiolwyr Cwrdistan yn gweithredu law yn llaw gyda'r Cyngor Iracaidd? Ta ti'n gwybod yn well.
O ran Cwrdistan unedig, ti'n llygad dy le. Dyna fyddai y canlyniad delfrydol efallai, ond fydde ti cystal ac egluro sut ddiawl mae hynny'n mynd i ddigwydd gyda Cwrdiaid yn byw yn Twrci, Syria ac Iran yn ogystal ac Irac.
Pe byddai modd creu undod o'r fath yna gwych, ond dros nos - wel cyflafan fyddai'r canlyniad, ac fel un sy'n dweud fod un marwolaeth yn ormod fyddwn i wedi disgwyl gwell.
RET79 a ddywedodd:Boris a ddywedodd:Dwi'n digaloni
Fi hefyd. Dyw'r agweddau yma'n gwneud dim synnwyr. Ond mae'n hawdd iawn cael agweddau fel hyn pan ti'n byw bywyd cyffyrddus saff yn nghefn gwlad Cymru.
Annibyniaeth RWAN a ddywedodd:Dadl wael a phlentynnaidd.
Mi fysa chdi'n gallu dadlau ei bod hi'n haws byth cael 'agweddau fel hyn' os ti'n Iraci/Affgan/Cambodian/Vietnamese (etc etc etc) diniwed sydd wedi gweld dy deulu'n cael i chwalu'n ddarnau gan fomiau o awyrennau Americanaidd...
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai