Darganfyddiad Saddam Hussein

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Darganfyddiad Saddam Hussein

Postiogan sbesh » Mer 17 Rhag 2003 12:31 pm

Sai'n siwr os yw rhywun wedi cychwyn y drafodaeth hyn yn barod, ond beth yw barn pobl am ddarganfyddiad Saddam?
Ydy e'n cael ei drin yn deg neu a yw'r ffordd y mae'n cael ei harddangos ar y teledu nawr yn tanseilio ei hawliau dynol fel y mae nifer o ohebwyr yn honi?
beth yw hyn yn golygu i ddyfodol Irac?
dyle fe gael ei lofruddio fel y mae Bush yn honi??
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Postiogan sbesh » Mer 17 Rhag 2003 12:36 pm

sori, y pwnc dyle fod darganfyddiad saddam...odd rhywun wedi torri ar draws difrifoldeb fy mhwnc trafod sori!

[wedi golygu - gweinydd]
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 4:38 pm

Alla i ddeall pam 'roedd rhaid ei ddangos ar y teledu a ballu. Fyddai pawb jyst yn amau eu bod wedi cael y boi anghywir neu hyd yn oed wneud y stori i fyny fel arall.

'Dw i'n gobeithio ei fod yn cael ei drin yn iawn ac y bydd yn derbyn treial deg.

Ei lofruddio 'fel y mae Bush wedi honni'? Elli di ymhelaethu? Beth yn union ddywedodd o?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Chwadan » Mer 17 Rhag 2003 4:53 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dylan » Mer 17 Rhag 2003 6:50 pm

lyfli

Mae hwnna'n codi cwestiwn arall: ble ddylai Saddam wynebu treial? Yn Irac ynteu mewn llys rhyngwladol? 'Dw i'n gogwyddo tuag at Irac, er gwaethaf y peryg eu bod yn bwriadu defnyddio'r gosb eithaf. Mae ceisio sefydlu sofraniaeth yn Irac yn bwysicach na fy egwyddorion pitw innau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan gronw » Mer 17 Rhag 2003 9:14 pm

Wy'n deall pam bod rhaid dangos llun o Saddam er mwyn profi eu bod nhw wedi i ddal e, ond wy'n credu bod y ffordd nethon nhw ddangos ei brawf meddygol e ar y teledu yn mynd yn erbyn ei hawliau dynol. Bydde llun llonydd yn ddigon. Wrth gwrs, dyw hyn yn ddim byd newydd gan yr Unol Daleithiau.

Yn fy marn i dylai Saddam fynd o flaen llys rhyngwladol er mwyn tegwch iddo fe. Does dim cydymdeimlad gyda fi tuag ato fe, ond rhaid i ninnau hefyd arddel cyfiawnder. Byddai'n amhosib cael prawf teg yn Irac: mae Saddam Hussein wedi bod yn rheoli yno ers degawdau, ac mae America'n sicr o ymyrryd, beth bynnag eu honiadau nhw.

Mae geiriau George Bush yn galw am farwolaeth un o'i gyd-ddyn yn fy ngwneud i'n sâl. Ddylse fe orfod mynd o flaen llys rhyngwladol hefyd am beth mae e wedi'i wneud.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan mred » Mer 17 Rhag 2003 9:34 pm

Mae i Blair ar un llaw wrthwynebu dienyddio o ran egwyddor ('Blair' ac 'egwyddor' yn yr un frawddeg...), ond bod yn bleidiol i broses fyddai'n anorfod yn arwain at ddienyddiad, pan fo dewis arall, yn profi eto pa mor anfoesol a di-asgwrn-cefn ydi o.

Putain gwleidyddol.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Leusa » Mer 17 Rhag 2003 11:03 pm

Llun da ohono fo'n fama
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Chwadan » Mer 17 Rhag 2003 11:23 pm

Oes na'm cyfreithiau yn deud pryd y dylai rhywun cael ei brofi mewn llys rhyngwladol a pryd y dylai ei wlad gael gneud? Pam, er enghraifft, fod Milosovic yn cael ei brofi mewn llys rhyngwladol ac nid gan ei bobl ei hun? Dwi'm cweit yn dallt y petha ma, fedar rhywun egluro plis?

Fel ma Gronw yn deud, fedar rhywun yn safle Bush (Dai "lladdwch nhw gyd" Tecsas :drwg:) ddim jyst deud fod o isho dienyddio rhywun - ddylsa Bush (a Blair) fod yn niwtral ar y mater achos ma be bynnag ma nhw'n ddeud yn siwr o wyro barn barnwyr neu reithgor.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Huw T » Mer 17 Rhag 2003 11:24 pm

Ges i sioc ma'n rhaid cyfadde. O ni ddim yn disgwyl y bydde fe'n cael ei ddal. Bydd hi'n ddiddorol gweld beth fyddan nhw'n neud a fe. Ma na risg creu merthyr wrth ei ladd, ond mae ei gadw mewn hotel o garchar hefyd yn pointless.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron