Aled a ddywedodd:Diolch Pogon. Dwi erioed wedi amau dy fod yn GALLU darllen, jest dy fod yn dewis peidio A Boris, faswn i byth yn ymosod ar ddysgwyr, neu ydi hynne yn rwbeth wyt ti'n feddwl sy'n un o nodweddion 'chwith trendi maes-e' hefyd?Boris a ddywedodd:Ac yn Medi 1939 dim ond gwlad Pwyl oedd wedi bod yn destun ymosodiad gan Hitler - so ti'n wrong eto.
Rong Boris. Roedd Hitler eisioes wedi mynd mewn i Awstria a rhan helaeth o Czechoslovakia a roedd ei ddyhead i ddominyddu Ewrop yn amlwg i bawb. Dos i famma os ti am bach o addysg
http://news.bbc.co.uk/1/shared/spl/hi/e ... efault.stm
Nac ydw wir.
Ymosod oedd dy air yn dy neges wreiddiol. Trwy gytundeb y cafwy uniad gyda Awstria, trwy gytundeb (cywilyddus) y cafwyd y Sudetenland ac wedi hynny doedd gan Siecoslofacia ddim o'r gallu i amddiffyn eu hunain. Hyll neu ddim, nid ymosodiad milwrol arweiniodd at gwymp Siecoslofacia.
Gyda llaw, dwi ddim yn rhy hoff o agwedd nawddoglyd gan rhywun sy'n honni fod du yn wyn