Y ffordd gorau i gael gwared o Saddam?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth oedd y ffordd gorau i gael gwared o Saddam

Deiseb
0
Dim pleidleisiau
Rali yn Aberyswyth
4
36%
Sgrifennu i faes-e
2
18%
Rhaglen dogfen John Pilger
0
Dim pleidleisiau
gweithredu yn filwrol
5
45%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Postiogan Cardi Bach » Llun 22 Rhag 2003 1:43 pm

Boris a ddywedodd:
Chdi sy'n ddall. Dyma'r datganiad mwyaf simplistic a thwp eto o fewn maes e. Mae yna gyfiawnhad i drais weithiau. Roedd yna gyfiawnhad i'r Ail Ryfel Byd, roedd cyfiawnhad clir i weithredu yn Bosnia er mwyn amddiffyn y mwslemiaid ac i'm meddwl i roedd cyfiawnhad dros ryfel yn erbyn Irac.

Mae gweithredu yn foesol yn gywir. Peidio gweithredu weithiau sy'n anfoesol.

Dwi'n parchu heddychwyr, ond dwi ddim yn cytuno gyda nhw, yn enwedig pan mae nhw'n cyflwyno dadl mewn ffordd sarhaus ac hunan gyfiawn.


Boris, ma'n flin gyda fi dy fod ti'n timlo rheidrwydd i sarhau a siarad ar dy gyfer.

On wyt ti wedi colli pwynt fy neges? Fi'n ame hynny.

Mae beth sy'n gyfiawn i ti, a dy syniadaeth Orllewinol am gyfiawnder a beth sy'n iawn ac yn gywir yn hollol wahanol i syniadaeth y ffwndamentaliad Mwslemaidd o beth sy'n iawn a chyfiawn.

Felly am Saddam wele Bush, neu am Arafat wele Sharon ayb.

Wy ddim yn gweud fan hyn fod un ochr yn fwy iawn na'r llal, gweud ydw i fod pob un ohonyn nhw yn defnyddio eu ffug-'superiority' crefyddol/gwleidyddol fel rheswm dros ladd.

Fel wedodd Gandhi, y drafferth gyda'r gred o lyagd am lygad yw y bydd pawb yn y pendraw yn ddall.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 2:10 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Mae beth sy'n gyfiawn i ti, a dy syniadaeth Orllewinol am gyfiawnder a beth sy'n iawn ac yn gywir yn hollol wahanol i syniadaeth y ffwndamentaliad Mwslemaidd o beth sy'n iawn a chyfiawn.

Felly am Saddam wele Bush, neu am Arafat wele Sharon ayb.

Wy ddim yn gweud fan hyn fod un ochr yn fwy iawn na'r llal, gweud ydw i fod pob un ohonyn nhw yn defnyddio eu ffug-'superiority' crefyddol/gwleidyddol fel rheswm dros ladd.

Fel wedodd Gandhi, y drafferth gyda'r gred o lyagd am lygad yw y bydd pawb yn y pendraw yn ddall.


Fi'n colli pwynt dy ddadl? Mae'n anodd peidio os mai gibberish mumbo jumbo o'r math hwn sy'n cael eu gynnig.

Nes di datgan fod trais yn wrong - nes i ddadlau 'dim bob amser.

A bollocks llwyr yw datgan fod safonau y byd mor wahanol nes na all neb byth gytuno. Os dyna'r gwir be di pwynt dy ffydd di mewn Cenhedloedd Unedig? Onid amhosib fyddai uno os yw syniadaeth gynhenid mor wahanol a ti'n dweud?

Dwi mond yn ymosodol os di dadleuon eraill yn crap. Lle mae na drafodaeth gall dwi'n trio bod yn adeiladol. Ond mae dweud fod trais yn wrong full stop yn simplistic.

Dwi'n cytuno efo dyfyniad Gandhi, dyna pam ti'n gorfod bod yn fodlon ennill o fynd i'r afael a dy fel Saddam. O wneud hynny does dim 'comeback'.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 3:15 pm

A phaham fod y rhai sy'n mynd i'r afael a byddin america, lloegr ac israel yn iawn hefyd felly. Gan mai nhw sy'n dechrau'r trwbwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Cardi Bach » Llun 22 Rhag 2003 3:25 pm

Boris a ddywedodd:
Fi'n colli pwynt dy ddadl? Mae'n anodd peidio os mai gibberish mumbo jumbo o'r math hwn sy'n cael eu gynnig.


:rolio: ti ddim yn dwp, so paid ymddwyn yn dwp. Tyf lan wir Dduw.

Boris a ddywedodd:Nes di datgan fod trais yn wrong - nes i ddadlau 'dim bob amser.

A bollocks llwyr yw datgan fod safonau y byd mor wahanol nes na all neb byth gytuno. Os dyna'r gwir be di pwynt dy ffydd di mewn Cenhedloedd Unedig? Onid amhosib fyddai uno os yw syniadaeth gynhenid mor wahanol a ti'n dweud?
.


Wy ddim yn credu hynny o gwbwl. Y cyfan wy'n weud yw mai nid trwy drais y mae cyrraedd cytundeb.

A does dim lot o ffydd gyda fi yn y Cenhedloedd Unedig fel ag y mae hi. Pan fo criw dethol o wledydd mwyaf pwerud y byd yn cael 'veto' ar benderfyniadau rhyngwladol, sut all hi fod yn gorff effeithiol? Sgwrs arall yw honna beth bynnag.
Mae'n bosob i bawb ddod i gytundeb. Wy'n hollol hyderus o hynny. Ond os yw pobl yn dewis anwybyddu pryderon yr ochr arall, ac yn crdu mae pobl di-bwys un-civilised ydyn nhw, ac mae'n ffordd ni sydd o mor iawn, ac ar ben agwedd mor uffernol o haerllug yn penderfynnu eu bomio er mwyn iddyn nhw ddeall...yna mae'n anodd gweld sut mae posib ennill cefnogaeth yr ochr arall gyda thechneg o'r fath.

Ni heb dysgu dim.

Yn Versailles mi wnath y buddigwyr i bob pwrpas fychanu'r Almaen a gwneud ffyliaid ohonyn nhw. Canlyniad hyn oedd deunydd propoganda perffaith ar gyfer magu tyrant fel Hitler. Odi ni wedi dysgu ers hynny? Dyw e ddim yn edrych fel'ny. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 3:34 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Yn Versailles mi wnath y buddigwyr i bob pwrpas fychanu'r Almaen a gwneud ffyliaid ohonyn nhw. Canlyniad hyn oedd deunydd propoganda perffaith ar gyfer magu tyrant fel Hitler. Odi ni wedi dysgu ers hynny? Dyw e ddim yn edrych fel'ny. :(


Wel dwi ddim yn siwr os mai bychanu'r Almaen oedd y broblem. Onid diffyg ewyllys y Gymuned Ryngwladol i sicrhau fod Versailles yn cael ei gynnal daru arwain at dwf Hitler?

Wedi'r cyfan (a chdi gododd y tangent yma) bwriad Versailles oedd trio rhoi cartref i'r Pwyliaid (peth da) y Czecs, Gwledydd Dwyrai Ewrop oedd wedi bod yn ymerodraeth Awstria, a dychwelyd poblogaeth Danaidd i ddenmarc a thir Alsace a Lorraine i Ffraince yn ôl dymuniad y mwyafrif.

Dim ond wedi i Hitler ddod i rym y cafod Versailles i chwalu a hynny oherwydd fod 'appeasers' yn credu fod modd prynu heddwch efo cyfundren ffiaidd - rhywbeth tebyg i gred y 'not in my name' crowd heddiw ddywedwn i.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 3:38 pm

A America yw'r tebycaf i'r Natsiaid heddiw, nid Saddam Hussein oedd heb ymosod ar neb ers 92. Chdi yw'r 'appeaser'. Dy ddadl wyneb i waered.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 3:41 pm

Sioni Size a ddywedodd:A America yw'r tebycaf i'r Natsiaid heddiw, nid Saddam Hussein oedd heb ymosod ar neb ers 92. Chdi yw'r 'appeaser'. Dy ddadl wyneb i waered.


Plentynaidd ta be. Dyma enghraifft berffaith arall o gasineb dall Sioni yn arwain at ddadl sy'n hurt o anaeddfed. Fel un sydd wedi astudio cyfnod y Natsiaid mae'n gywilydd bod y fath gymhariaeth yn cael ei gwneud a hynny mor ddifeddwl. Ond dyna fo - oes disgwyl gwell gan Sioni?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 3:45 pm

3 miliwn Vietnam, 1.5 miliwn Irac, 600,000 Cambodia a degau ar ddegau o enghreifftiau 'plentynaidd' eraill.
Ond roedd o i gyd i'r greater good yn doedd Boris.
Wehei! Gair arall heblaw anaeddfed! Llongyfarchiadau!
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 3:50 pm

Sioni Size a ddywedodd:3 miliwn Vietnam, 1.5 miliwn Irac, 600,000 Cambodia a degau ar ddegau o enghreifftiau 'plentynaidd' eraill.
Ond roedd o i gyd i'r greater good yn doedd Boris.
Wehei! Gair arall heblaw anaeddfed! Llongyfarchiadau!


Hynod anaeddfed.

Be di dy bwynt fan yma?

Vietnam - proxy rhyfel cartref rhwng China a UDA - gwarthus.

Irac - ehh, lle mae dy ystadegau yn dwad, top dy ben? 12,000 laddwyd yn ôl Cymorth Cristnogol. So ddwedwn ni 15,000 rhag ofn, be ti di wneud multiply by 100?

Cambodia ??????????????

Natsiaid - tua 60,000,000. O lieaf 6,000,000 mewn Concentration Camps. Chwarter poblogaeth Gwlad Pwyl. 30,000,000 yn Rwsia. be di'r gymhariaeth Sioni? I ddefnyddio fy hoff air - dadl arall anaeddfed a di sail - ond dim gwaeth na'r disgwyl gan fachgen bach rhagfarnllyd o Ben Llyn.

Dolig Llawen.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 4:00 pm

Yn amlwg dydi'r miliynau mae america wedi eu lladd ddim yn ddigon i fynd a nhw i'r big league i chdi.
Deall hyn rwan - y gwahaniaeth ydi nad ydw i'n cyfiawnhau'r natsiaid o gwbl. Rwyt ti'n cyfiawnhau America ar bob cyfrif.
12,000 o bobl sydd wedi cael eu cyfrif yn y rhyfel irac yma o drigolion diniwed. Wyt ti'n cofio'r sancsiynau a rhyfel 1991? Ydw i wedi 'nghondemnio i ddweud yr un peth drosodd a throsodd?
Cambodia - Chesws Christos...
Henry Kissinger? Rhyfel Vietnam?
news.bbc.co.uk/2/hi/in_depth/uk/ 2000/newsmakers/1952981.stm
Sori mai o'r lwnatics adain chwith y BBC mae hwn yn dyfod ond nai drio cael ffynhonell mwy balanced i chdi tro nesa os wyt ti'n gofyn yn neis.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron