Y ffordd gorau i gael gwared o Saddam?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth oedd y ffordd gorau i gael gwared o Saddam

Deiseb
0
Dim pleidleisiau
Rali yn Aberyswyth
4
36%
Sgrifennu i faes-e
2
18%
Rhaglen dogfen John Pilger
0
Dim pleidleisiau
gweithredu yn filwrol
5
45%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 4:01 pm

http://www.thirdworldtraveler.com/Kissi ... eshow.html

Sticia hwnna yn dy bibell hefyd. Ghad Bless Ymericrr.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 4:05 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yn amlwg dydi'r miliynau mae america wedi eu lladd ddim yn ddigon i fynd a nhw i'r big league i chdi.
Deall hyn rwan - y gwahaniaeth ydi nad ydw i'n cyfiawnhau'r natsiaid o gwbl. Rwyt ti'n cyfiawnhau America ar bob cyfrif.
12,000 o bobl sydd wedi cael eu cyfrif yn y rhyfel irac yma o drigolion diniwed. Wyt ti'n cofio'r sancsiynau a rhyfel 1991? Ydw i wedi 'nghondemnio i ddweud yr un peth drosodd a throsodd?
Cambodia - Chesws Christos...
Henry Kissinger? Rhyfel Vietnam?
news.bbc.co.uk/2/hi/in_depth/uk/ 2000/newsmakers/1952981.stm
Sori mai o'r lwnatics adain chwith y BBC mae hwn yn dyfod ond nai drio cael ffynhonell mwy balanced i chdi tro nesa os wyt ti'n gofyn yn neis.


Dwi'n cyfiawnhau America heddiw ar bob cyfrif. Dwi'n edrych ar y byd heddiw ddim yn trio ennill dadl heddiw efo enghreifftiau ddoe.

Fel dwi di deud eisioes nid yr UDA oedd o blaid sancsiynnau ond yr CU. Os dwi'n cofio mi roeddwn I yn frwd o blaid sancsiynnau yn erbyn De Affrica yn yr 80au, sancsiynau oedd heb os yn lladd rhai pobl ddiniwed - oedd hyn yn wrong. Os dim sancsiynau yna beth yw'r opsiwn oni bai am ryfel. So lle ti'n sefyll Sioni - gwneud dim?

Ac trwy'r cyfan, yr hollffug dosturi efo'r gwan ti'n dal yn ymhyfrydu yn y llad a fu yn Iwerddon. A ti'n cyhuddo fi o safonau dwbl?

Cei gei di fynd ymlaen ac ymlaen ac fe wnaf innau dy gywiro tan ti'n callio.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 4:10 pm

Unwaith eto'n gorfod ymateb i dy ddiffyg anhygoel o dalent i sticio at y pwnc, a gaf i ofyn am enghraifft o sancsiynau ar Dde Affrica yn lladd un person os gweli di'n dda?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 4:16 pm

Sioni Size a ddywedodd:Unwaith eto'n gorfod ymateb i dy ddiffyg anhygoel o dalent i sticio at y pwnc, a gaf i ofyn am enghraifft o sancsiynau ar Dde Affrica yn lladd un person os gweli di'n dda?


Mae'r pwynt yn berthnasol - ti'n honni fod sancsiynnau yn lladd. Felly yn union oedd dadl y llywodraeth yn Ne Affrica yn yr '80au oedd yn honni mai y tlawd oedd yn dioddef fwyaf o sancsiynnau.

O ran enghraifft penodol, allai ond cyfeirio chdi at Gyfarfod yn Neuadd Mandela, Prifysgol Aberystwyth lle cafwyd anerchiad gan gynrychioltdd o'r ANC. Bwrdwn ei neges oedd fod sancsiynnau yn brifo, yn arwain at dlodi, yn arwain at ddiffyg maeth mewn teuluoedd ifanc ac yn hollol angenrheidiol i'r frwydr yn erbyn cyfundren ffiaidd De Affrica.

Pam codi'r pwynt hwn? Dim ond i ddangos fod pob opsiwn yn gallu lladd, hyd yn oed pan yn foesol gywir. Fel dwi di deud y CU oedd yn gyfrifol am sancsiynnau Irac felly sut yn y byd ti'n rhoi'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau yr UDA????

Ond wrth gwrs 'in the alternative Sioni Size World facts don't get in the way of prejudice'.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Llun 22 Rhag 2003 4:27 pm

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Yn Versailles mi wnath y buddigwyr i bob pwrpas fychanu'r Almaen a gwneud ffyliaid ohonyn nhw. Canlyniad hyn oedd deunydd propoganda perffaith ar gyfer magu tyrant fel Hitler. Odi ni wedi dysgu ers hynny? Dyw e ddim yn edrych fel'ny. :(


Wel dwi ddim yn siwr os mai bychanu'r Almaen oedd y broblem.


Yn sicir. Er fod blynyddodd wedi mynd ers i fi astudio a darllen am y Rhyfeloedd Mawr, wy'n cofio fod Cytundeb Versailles wedi golygu fod yr Almaen yn colli tiroedd diwydianol a chyfoethog i Ffrainc (Alsace Lorraine), nad oedd hawl gyda nhw i gael byddin gwerth siarad am, neu awyrlu neu fflid. Fod y rheolau ar drethu allforion a mewnforion wedi eu criplo. Eu bod yn gaeth i reolau'r 'Allied forces' ym mhob-peth, fod y iawndal y bu raid i'r Almaen dalu yn amhosib i economi yr Almaen gynnal (e.e. yn nechrau 1921 20biliwn marcs aur - hynny yn arian 1921!!!!), a'i fod yna iw dalu naill ai mewn arian neu mewn adnoddau. ynny yw y bwriad oedd cosbi fel ad oedd yr Almaen yn gallu fyth eto cystadlu yn arianol, yn filwrol neu ym mha bynnag ffordd, a fod yr Almaen yn llwyr ddibynol ar y buddigwyr. Wy ddim yn gweud fod hyn yn iawn nwu'n anghywir, ond fe greodd hyn y 'breeding ground' perffaith i rywun ecsploitio. Pa mor Sosialaidd, Democrataidd neu genedlaetholgar oedd y Blaid Naziaidd? Ddim o gwbwl, ond dyna oedd y 'buzz words' oedd angen i ecsploitio'r bobl a nhwythau ar eu pwynt isa erioed. Yn yr un modd pa mor sosialaidd oedd y Ba'ath? Ddim o gwbwl. Ac felly heddiw. Mae Irac yn 'breeding ground' perffaith nawr ar gyfer Al Qaida ac eraill o ganlyniad i ymgyrch y 'cyngrheiriaid.

Sydd yn mynd a fi nol at fy mhwynt gwreiddiol - cylch saethig - trais yn arwain at drais - anghyfiawnder yn arwain at anghyfiawnder.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 4:48 pm

Cardi Bach a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Sydd yn mynd a fi nol at fy mhwynt gwreiddiol - cylch saethig - trais yn arwain at drais - anghyfiawnder yn arwain at anghyfiawnder.


Cardi - dwi ddim yn cytuno. Yn gyntaf dwi ddim yn credu fod y gyffelybiaeth yn sefyll. Yn ail ti ddim yn iawn am Versailles. Os ti'n wrong am Versailles yna mae dy ddadl re Ba'th yn syrthio - cytuno?

So here goes (eto) am Versailles.

Cymharol dlawd oedd Alsace a Lorraine, dwy dalaith hanesyddol Ffrengig a gollwyd i'r Almaen yn 1870 yn dilyn rhyfel Franco / Prwsia. Dwi ddim yn credu fod dim anhegwch mewn dychwelyd ardal Ffrengig neu Alsasce o ran iaith i Ffrainc 50 mlynedd wedi i'r wlad honno golli y ddwy dalaith mewn rhyfel - tegwch oedd hyn i'r boblogaeth leol.

Rhoddwyd tiroedd diwydiannol y Rhineland a Rhur dan ofal Cynghrair y Cenhedloedd ond lle hawliwd tir gan Ffrainc (ee Saar Land) cafwyd refferendwm lle plidleisiodd y bobl i aros yn yr Almaen - dyna ddigwyddodd. Cafwyd cytundeb i gadw y Rhineland yn ardal di-filitaraidd - pa syndod a Ffrainc a Gwlad Belg wedi dioddef ymosodiadau gan yr Almaen yn ystod y hanner can mlynedd flaenorol.

Y gwir golledion i'r Almaen oedd colli rhannau helaeth o Prwsia i Wlad Pwyl - ond ag eithrio y tir feiddianwyr mawr, Pwyliaid oedd rhelyw poblogaeth yr ardaloedd hyn - 14points Woodrow Wilson yn cael ei gweithredu a da hynny. Felly hefyd gyda chreu Siecoslofacia, Hwngari newydd, Yougoslavia ayb - ymdrech i greu gweriniaethau allan o genhedloedd hanesyddol. Perffaith - na. Malieisus - ddim o gwbl.

Collodd yr Almaen Schwelssig Holstein i Ddenmarc, ardal Danaidd fwyafrifol lle cafwyd 'Danish not' dan law llywodraeth yr Almaen Imperialaidd. Felly o ran rhannu tir ymdrech a gafwyd (heb fod yn berffaith) i roi cartref i genhedloedd coll Ewrop. Wyt ti ddim yn condemio hyn Cardi?

Yn ariannol fe gosbwyd yr Almaen yn drwm yn y cytundeb, ond yn dilyn chwyddiant mawr 1922-1924 cafwyd ad-drefnu sylweddol ar y dull o ail dalu y dyledion, cymaint felly nes i Weriniaeth Weimar fwynhau cyfnod o dwf economaidd, artistig a chymdeithasol rhwng 1924 ac 1929.

Prif reswm am ddyfodiad Hitler oedd i dirwasgiad byd eang o 1929 ymlaen. Wedi'r cyfan os mai Versailles oedd y broblem pam fod y Natsiaid mor amherthnasol rhwng 1922 ac 1929?

O weld y Natsiaid yn dod i rym fe wnaeth y byd rhyngwladol droi at bolisi o appeasment ac datgymalu Versailles. Troi llygad ddall at gynyddu bydin yr Alamen o 100,000 (oes angen mwy ar unrhyw wlad?), caniatau militareiddio y Rhineland, caniatau yr Anschulss gydag Awstria (yn heddychlon i bawb ond Iddewon a Sosialwyr) ac yna cytuno i ddinistrio Siecoslofacia.

Y gwir plaen yw y byddai cynnal cytundeb Versailles trwy rym unrhyw adeg rhwng 1935 ac 1938 wedi arwain at heddwch, hyd yn oed cwymp Hitler yn 1935 (gweler Ian Kershaw, Hitler 1999). Ond nid dyna ddaru y byd mawr rhyngwaldol, yn hytrach cyfaddawdu a derbyn y drefn er mwyn 'heddwch'.

'Rwan pe byddai gan y byd Bush yn y tridegau efallai y byddai'r stori wedi bod yn wahanol :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Llun 22 Rhag 2003 4:56 pm

Yn ateb i dy rith hynod tedious ac amherthnasol, sut oedd Saddam ddrwg am ddatblygu'n Hitler hefo Hans Blix a'r arolygwyr UN yno yn monitro popeth yn drylwyr?
Gyda'u hasesiad fod popeth oedd gan Saddam wedi ei ddinistrio ganddo yn 1998 sut mae hyn yn cydfynd a'r angen i ddal yr hitler bach ma a goresgyn Irac a hei, lot o olew neis i ni yn y broses?
Felly os ydw i'n galw chdi'n hitler y dyfodol heb unrhyw gyfiawnhad, mae rhwydd hynt i unrhyw un ymosod arnot ti felly.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 5:01 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yn ateb i dy rith hynod tedious ac amherthnasol, sut oedd Saddam ddrwg am ddatblygu'n Hitler hefo Hans Blix a'r arolygwyr UN yno yn monitro popeth yn drylwyr?
Gyda'u hasesiad fod popeth oedd gan Saddam wedi ei ddinistrio ganddo yn 1998 sut mae hyn yn cydfynd a'r angen i ddal yr hitler bach ma a goresgyn Irac a hei, lot o olew neis i ni yn y broses?
Felly os ydw i'n galw chdi'n hitler y dyfodol heb unrhyw gyfiawnhad, mae rhwydd hynt i unrhyw un ymosod arnot ti felly.


Roedd fy llith yn drafodaeth efo Cardi, trafodaeth eithaf adeiladol hefyd.

Fel dwi di deud (hyd syrffed) dadl Blair oedd WMD. Dwi'n fodlon hefo'r ddadl Regime Change.

Diolch am fod mor adeiladol unwaith eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Cardi Bach » Llun 22 Rhag 2003 5:28 pm

Boris a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Sydd yn mynd a fi nol at fy mhwynt gwreiddiol - cylch saethig - trais yn arwain at drais - anghyfiawnder yn arwain at anghyfiawnder.


Cardi - dwi ddim yn cytuno. Yn gyntaf dwi ddim yn credu fod y gyffelybiaeth yn sefyll. Yn ail ti ddim yn iawn am Versailles. Os ti'n wrong am Versailles yna mae dy ddadl re Ba'th yn syrthio - cytuno?

So here goes (eto) am Versailles.

Cymharol dlawd oedd Alsace a Lorraine, dwy dalaith hanesyddol Ffrengig a gollwyd i'r Almaen yn 1870 yn dilyn rhyfel Franco / Prwsia. Dwi ddim yn credu fod dim anhegwch mewn dychwelyd ardal Ffrengig neu Alsasce o ran iaith i Ffrainc 50 mlynedd wedi i'r wlad honno golli y ddwy dalaith mewn rhyfel - tegwch oedd hyn i'r boblogaeth leol.

Rhoddwyd tiroedd diwydiannol y Rhineland a Rhur dan ofal Cynghrair y Cenhedloedd ond lle hawliwd tir gan Ffrainc (ee Saar Land) cafwyd refferendwm lle plidleisiodd y bobl i aros yn yr Almaen - dyna ddigwyddodd. Cafwyd cytundeb i gadw y Rhineland yn ardal di-filitaraidd - pa syndod a Ffrainc a Gwlad Belg wedi dioddef ymosodiadau gan yr Almaen yn ystod y hanner can mlynedd flaenorol.

Y gwir golledion i'r Almaen oedd colli rhannau helaeth o Prwsia i Wlad Pwyl - ond ag eithrio y tir feiddianwyr mawr, Pwyliaid oedd rhelyw poblogaeth yr ardaloedd hyn - 14points Woodrow Wilson yn cael ei gweithredu a da hynny. Felly hefyd gyda chreu Siecoslofacia, Hwngari newydd, Yougoslavia ayb - ymdrech i greu gweriniaethau allan o genhedloedd hanesyddol. Perffaith - na. Malieisus - ddim o gwbl.

Collodd yr Almaen Schwelssig Holstein i Ddenmarc, ardal Danaidd fwyafrifol lle cafwyd 'Danish not' dan law llywodraeth yr Almaen Imperialaidd. Felly o ran rhannu tir ymdrech a gafwyd (heb fod yn berffaith) i roi cartref i genhedloedd coll Ewrop. Wyt ti ddim yn condemio hyn Cardi?

Yn ariannol fe gosbwyd yr Almaen yn drwm yn y cytundeb, ond yn dilyn chwyddiant mawr 1922-1924 cafwyd ad-drefnu sylweddol ar y dull o ail dalu y dyledion, cymaint felly nes i Weriniaeth Weimar fwynhau cyfnod o dwf economaidd, artistig a chymdeithasol rhwng 1924 ac 1929.

Prif reswm am ddyfodiad Hitler oedd i dirwasgiad byd eang o 1929 ymlaen. Wedi'r cyfan os mai Versailles oedd y broblem pam fod y Natsiaid mor amherthnasol rhwng 1922 ac 1929?

O weld y Natsiaid yn dod i rym fe wnaeth y byd rhyngwladol droi at bolisi o appeasment ac datgymalu Versailles. Troi llygad ddall at gynyddu bydin yr Alamen o 100,000 (oes angen mwy ar unrhyw wlad?), caniatau militareiddio y Rhineland, caniatau yr Anschulss gydag Awstria (yn heddychlon i bawb ond Iddewon a Sosialwyr) ac yna cytuno i ddinistrio Siecoslofacia.

Y gwir plaen yw y byddai cynnal cytundeb Versailles trwy rym unrhyw adeg rhwng 1935 ac 1938 wedi arwain at heddwch, hyd yn oed cwymp Hitler yn 1935 (gweler Ian Kershaw, Hitler 1999). Ond nid dyna ddaru y byd mawr rhyngwaldol, yn hytrach cyfaddawdu a derbyn y drefn er mwyn 'heddwch'.

'Rwan pe byddai gan y byd Bush yn y tridegau efallai y byddai'r stori wedi bod yn wahanol :winc:

Wy ddim o reidrwydd yn anghyd-fynd gyda dychwelyd tiroedd ynol, ac wy ddim chwaith, ma rhaid cyfadde, yn galler dadlau a thi ar bwyntiau hanesyddol penodol dy lith - wedi'r cwbwl, fel wedes i , ma blynyddodd wedi mynd ers i fi daro golwg ar lyfr neu lun am y cyfnod.

Ond y pwynt penodol o'n i am roi oedd yr ergyd seicolegol ddaeth i Bobl yr Almaen yn sgil Versailles.

Yr Almaen oedd grym milwrol mawr y cyfnod ar dir Ewrop. Nethon nhw fwynhau goruchafiaeth am ddegawdau. Datblygwyd seic imperialaidd (tebyg i Lloegr a America heddiw) o 'superiority'. Rodd Versailles felly yn ergyd andwyol i'r hunan-gred yma a ddatblygodd cenedl, cymdeithas ac yn sgil hynny pobl yr Almaen. Ar ben hyn oll wedyn, fel y soniaist, y daeth y gweddill - ond hynny yn sgil y clowt gwreiddiol yma.

Mae fy mhwynt am y Ba'ath (a'r Natsiaid) arwahan braidd i weddill y neges, ac felly yn dal i sefyll. Defnyddio y term Sosialaidd ar gyfer dibenion eraill oedd y ddau (er yn wreiddiol dyna oedd eu credoau) - ac i raddau yn yr un modd Llafur Newydd heddiw :crechwen: , er falle nad yw'n deg cymharu Llafur gyda'r Ba'ath...eto!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Ifan Saer » Llun 22 Rhag 2003 5:32 pm

Sioni Size a ddywedodd:Yn ateb i dy rith hynod tedious ac amherthnasol....


Pen bach. Mor amherthnasol dy fod wedi ymateb iddo?

:rolio:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron