Y ffordd gorau i gael gwared o Saddam?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth oedd y ffordd gorau i gael gwared o Saddam

Deiseb
0
Dim pleidleisiau
Rali yn Aberyswyth
4
36%
Sgrifennu i faes-e
2
18%
Rhaglen dogfen John Pilger
0
Dim pleidleisiau
gweithredu yn filwrol
5
45%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 11

Postiogan Boris » Llun 22 Rhag 2003 5:33 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Yr Almaen oedd grym milwrol mawr y cyfnod ar dir Ewrop. Nethon nhw fwynhau goruchafiaeth am ddegawdau. Datblygwyd seic imperialaidd (tebyg i Lloegr a America heddiw) o 'superiority'. Rodd Versailles felly yn ergyd andwyol i'r hunan-gred yma a ddatblygodd cenedl, cymdeithas ac yn sgil hynny pobl yr Almaen. Ar ben hyn oll wedyn, fel y soniaist, y daeth y gweddill - ond hynny yn sgil y clowt gwreiddiol yma.

Mae fy mhwynt am y Ba'ath (a'r Natsiaid) arwahan braidd i weddill y neges, ac felly yn dal i sefyll. Defnyddio y term Sosialaidd ar gyfer dibenion eraill oedd y ddau (er yn wreiddiol dyna oedd eu credoau) - ac i raddau yn yr un modd Llafur Newydd heddiw :crechwen: , er falle nad yw'n deg cymharu Llafur gyda'r Ba'ath...eto!


Efallai dy fod yn gor-bwysleisio Versailles. Dwi'n dal yn gryf o'r farn mae 1929 arweiniodd at dwf y Natsiaid (it's the economy, stupid) fel y dywedodd rhen Bill.

New Labour = Ba'ath? Wwwww, hogyn drwg. Fydda Tony yn awdurdodi unilateral attack ar dy Cardi bach o weld hynna.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Owain Llwyd » Llun 22 Rhag 2003 7:00 pm

Boris a ddywedodd:O weld y Natsiaid yn dod i rym fe wnaeth y byd rhyngwladol droi at bolisi o appeasment ac datgymalu Versailles. Troi llygad ddall at gynyddu bydin yr Alamen o 100,000 (oes angen mwy ar unrhyw wlad?), caniatau militareiddio y Rhineland, caniatau yr Anschulss gydag Awstria (yn heddychlon i bawb ond Iddewon a Sosialwyr) ac yna cytuno i ddinistrio Siecoslofacia.

Y gwir plaen yw y byddai cynnal cytundeb Versailles trwy rym unrhyw adeg rhwng 1935 ac 1938 wedi arwain at heddwch, hyd yn oed cwymp Hitler yn 1935 (gweler Ian Kershaw, Hitler 1999). Ond nid dyna ddaru y byd mawr rhyngwaldol, yn hytrach cyfaddawdu a derbyn y drefn er mwyn 'heddwch'.


Ar ryw lefel, hyd y gwn i, mi oedd Hitler wedi cael ei ffordd ei hun am gyhyd achos bod pobl ddylanwadol yn ei weld o'n foi gwrth-Gomiwnyddol defnyddiol iawn yng nghanol Ewrop. Rhyw fur yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a ballu.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Re: Y ffordd gorau i gael gwared o Saddam?

Postiogan Owain Llwyd » Maw 23 Rhag 2003 10:56 am

pogon_szczecin a ddywedodd:Mae pawb yn erbyn Saddam. Ond roedd y mwyafrif yn erbyn y rhyfel.

Felly dwi eisiau gofyn sut oedd y dull gorau i gael gwared ohono os oedd rhyfel yn 'anfoesol'?


Hyd y gwela i, mae gen yr Unol Daleithiau nifer o ddulliau i gael gwared ar lywodraethau dydan nhw ddim yn eu licio.

A chyffredinoli, ar y naill law, mae'r ymgyrch milwrol gogoneddus. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ddymchwel neu ddadsefydlogi unbennau a llywodraethau milwrol a gelynion rhyddid yn gyffredinol (Saddam Hussein, Ghaddafi, Milosevic, Noriega, er enghraifft). Llawer o gyhoeddusrwydd ar y pryd a chwythu trympedau a chwifio baneri hyd syrffed.

Ar y llaw arall, mae'r ymgyrch dan din. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i sefydlu a chynnal unbennau a llywodraethau milwrol a gelynion rhyddid yn gyffredinol (y Shah, Pinochet, y blaid Ba'ath, Suharto, er enghraifft). Gweithredu tawel bach tra phwrpasol a llwyddiannus. Dim cyhoeddusrwydd yn y Gorllewin ar y pryd. Fawr ddim o gyhoeddusrwydd hyd yn oed pan fydd manylion yn dechrau dod i'r amlwg.

'Sgwn i pam na fydd unbennau yn cael eu dymchwel efo dulliau pwrpasol di-ffwdan, a democratiaethau yn cael eu dymchwel efo ymgyrchoedd milwrol gogoneddus?
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Boris » Maw 23 Rhag 2003 11:27 am

Owain Llwyd a ddywedodd:Ar ryw lefel, hyd y gwn i, mi oedd Hitler wedi cael ei ffordd ei hun am gyhyd achos bod pobl ddylanwadol yn ei weld o'n foi gwrth-Gomiwnyddol defnyddiol iawn yng nghanol Ewrop. Rhyw fur yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a ballu.


Hyd y gwn i sy'n gywir fan hyn Owain. Trwy'r tridegau gydag show trials a phob math o gachu doedd yr Undeb Sofietaidd yn ddim bygythiad i neb. mae dy hanes yn wallus yn yr achos hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Owain Llwyd » Maw 23 Rhag 2003 11:36 am

Boris a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Ar ryw lefel, hyd y gwn i, mi oedd Hitler wedi cael ei ffordd ei hun am gyhyd achos bod pobl ddylanwadol yn ei weld o'n foi gwrth-Gomiwnyddol defnyddiol iawn yng nghanol Ewrop. Rhyw fur yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a ballu.


Hyd y gwn i sy'n gywir fan hyn Owain. Trwy'r tridegau gydag show trials a phob math o gachu doedd yr Undeb Sofietaidd yn ddim bygythiad i neb. mae dy hanes yn wallus yn yr achos hwn.


Iawn, mi wna i dderbyn fy nghywiro - am y tro. :winc:
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Boris » Maw 23 Rhag 2003 11:58 am

Owain Llwyd a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
Owain Llwyd a ddywedodd:Ar ryw lefel, hyd y gwn i, mi oedd Hitler wedi cael ei ffordd ei hun am gyhyd achos bod pobl ddylanwadol yn ei weld o'n foi gwrth-Gomiwnyddol defnyddiol iawn yng nghanol Ewrop. Rhyw fur yn erbyn yr Undeb Sofietaidd a ballu.


Hyd y gwn i sy'n gywir fan hyn Owain. Trwy'r tridegau gydag show trials a phob math o gachu doedd yr Undeb Sofietaidd yn ddim bygythiad i neb. mae dy hanes yn wallus yn yr achos hwn.


Iawn, mi wna i dderbyn fy nghywiro - am y tro. :winc:


Ti'n astudio Hanes? Os wyt ti mae yna ddarlithydd o Brifysgol Gaerdydd, Michael Burleigh, wedi cyhoeddi llyfr gwirioneddol wych ar dwf y Natsiaid a rhesymau dros hynny. Mae o bellach mewn clawr papur. Mae hwn, law yn llaw a stwff Ian Kershaw sef Hitler Vol 1 + Vol 2 yn taflu golwg newydd a bywiog ar dwf natsiaid. Mae 'The Coming of the Third Reich' ga Richard Evans hefyd yn dda, ond efalai yn fwy traddodiadol.

Os ti am fod yn 'German hating Brit' yna llyfr gan gyn darlithydd yn Aber, Michael Hughes yw'r un. Ei ddadl o oedd fod yr Almaen yn sicr o greu Hitler oherwydd ei hanes (dubious). Roedd o'n cyhoeddi y llyfr yn 1989 ac yn darlithio i mi ar y pryd (ia ia dwi'n hen) ac yn dadlau 'two Germany's are a small price to pay for peace in Europe' a hynny ar yr union adeg y syrthiodd Dwyrain yr Almaen a Wal Berlin - surreal.

Roedd o hefyd yn arbenigwr ar Ogledd Iwerddon - fe ddaru Gwasg Prifysgol Cymru gyhoeddi llyfr ganddoar y dalaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Sioni Size » Maw 23 Rhag 2003 1:24 pm

This is the new Mein Kampf. Only Hitler did not have nuclear weapons. It's the scariest document I've ever read in my life.

Dr. Helen Caldicott, referring to the Project for the New American Century report entitled Rebuilding America's Defenses: Strategy, Forces and Resources For a New Century, 28 April 2003. Dr. Caldicott is a Pediatrician, a Nobel Peace Prize nominee, founder of Physicians for Social Responsibility and author of The New Nuclear Danger: George W. Bush's Military-Industrial Complex.

Project for the New American Century is a neo-conservative think-tank that promotes an ideology of total U.S. world domination through the use of force. The group embraces and disseminates an ideology of faith in force, U.S. supremacy, and rejection of the rule of law in international affairs. The group's core ideas are expressed in a September 2000 report produced for Dick Cheney, Donald Rumsfeld, Paul Wolfowitz, Jeb Bush, and Lewis Libby entitled Rebuilding America's Defenses: Strategy, Forces and Resources For a New Century. The report has been compared to Adolf Hitler's Mein Kampf and has been called a "blueprint for U.S. world domination."

Mwy ar yr edefyn 'Project for the New American Century' i'r rhai a diddordeb.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron