A Pogon, felly y ffordd gorau o gael dy ffordd dy hunan yw trais!!! Fi'n deall nawr!
Up the IRA!
Up the FWA!
Up ETA!
Up FARC!
Up Al Qaida!
up yr Hizballah!
up yr Islamic Jihad!
up yr Ansar al-Islam!
up y Mujahidin!
ayb
dwy ochor o'r un geiniog y'n nhw pogon.
Ma rhain uchod, ac eraill, am orfodi eu ewyllys ar bobl trwy drais. Ti ddim yn cytuno a'u daliadau, ond mae sawl un yn.
Mae'n llywodraethau ni am orfodi eu ewyllys ar bobl trwy drais. Ti yn eu cefnogi, ond mae eraill ddim.
Meddyla, gall yn gywir yr un drafodaeth fod yn mynd ymlaen ar negesfwrdd Arabaidd ym Mhalesteina. Rhywun yn gofyn: Beth yw'r ffordd gorau o gael gwared ar Ariel Sharon?
i) deuseb. ii) negeseuon ar we-fan al-shamara (neu be bynnag); iii) protest yn Ramallah. iv) defnyddio grym milwrol.
beth yw'r gwahaniaeth?
Dim. a dim trais yw'r ateb. Nid yn Irac nag ym Mhalesteina, nag yng Ngogledd Iwerddon, nag yn erbyn unrhyw un wyt ti'n anghytuno a'u daliadau gwleidyddol/crefyddol ayb.
Wyt ti'n ddall i hyn?