Milwyr-rhan o'r sefydliad ai peidio?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sbesh » Gwe 26 Rhag 2003 11:38 pm

sai'n credu fedri di RET gweud bod y chwith yn dueddol o feirniadu'r llywodraeth yn unig am y ffaith bod pobl yn dewis mynd i rhyfel ac wedyn yn gwarafun hynny. wrth gwrs bod bai ar y llywodraeth am ddechre'r rhyfel yn y lle cyntaf, neu cymryd rhan mewn rhyfel ond nagyw pawb sy'n filwr yn chwarae gem y llywodraeth. ma cymaint o filwyr a phlismyn yn gweud bod nhw'n 'an-wleidyddol', ond mae hyn yn amhosib gan bod nhw'n cynrychioli'r holl strwythur gwleidyddol ac yn gorfod cymryd goblygiadau eu gweithredoedd a'r hyn mae'r swydd yn gofyn.
fi'n credu bod y dadl am yr alps jyst braidd yn aneglur. wi yn dod o ardal lle odd lot o bois rili 'caled' odd jyst yn casau trefn ysgol a stwff yn penderfynnu ymaelodi a'r fyddin ar ol gadael ysgol yn 16. dim bo nhw wedi erdrych am swyddi lleol(er nad oes llawer ar gael) , dim ond bod nhw'n meddwl fydden nhw'n gallu gweld y byd trwy ymuno da'r fyddin. eironig iawn weda i.
'Don't be in a hurry to condemn because he doesn't do what you do or think as you think or as fast. There was a time when you didn't know what you know today.'
Malcolm X
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Postiogan garynysmon » Sad 27 Rhag 2003 3:51 am

Roedd fy nhad yn y Welsh Guards am rai blynyddoedd. Darllenais yr edefyn yma gyda chryn ddiddordeb, gan fod y pwnc yma wedi cychwyn sawl dadl rhyngthym (ddim yn rhy waedlyd :D ). Yr unig beth a allaf ddweud gyda sicrwydd, yw oedd ymuno a'r fyddin yn beth poblogaidd a threndi i'w wneud yn ne Sir Fon yn y 70au mae'n rhaid, gan fod tua 6 wedi mynd mewn un criw, o'r un pentref, i ymuno. Eto, yr atyniad oedd arian da, swydd saff a'r siawns i deithio'r byd (ac fe wnaed llawer iawn o hynny yn ol y straeon di-ddiwedd rwyf wedi'i clywed ers yn blentyn!). Diolch i'r drefn, ni fu i'r un ohonynt orfod ymladd go iawn (fe adawodd fy nhad rhai misoedd cyn trwbl y falklands).
Er fod hanes eithaf militaraidd yn perthyn i'n teulu felly, nid yw hyn wedi rhwystro meddylfryd neb, ac rwyf yn tyfu i fynny yn genedlaetholwr brwd, (gwrth-brydeinig os liciwch chi). Yn bersonnol, mae'n cael ei edrych arno mwy na 'Roedd dad yn gweithio i'r army am 7 mlynedd' yn hytrach na 'fe ddaru dad dreulio 7 mlynedd yn gweithio dros frenhines Lloegr'.
Er hynny, ni allaf gredu ei fod yn bosib bod yn genedlaetholwr, tra'n rhoi eich bywyd i fynnu am frenhines Prydain, a rwyf yn sicr yn coelio hynny hyd heddiw . Tra yn y fyddin, rydych yn sicr yn ran o'r sefydliad. Dwi'n ddiolchgar fod gen i feddwl fy hun, a ni allwn byth weithio a dim fel yr R.A.F na'r lluoedd arfog debyg. Mae na hogia yn cael eu taflu i'r front line fel wyn i'r lladd-du, yn cael eu twyllo i farw dros achos dydynt yn deall dim amdanno. 'Brainwashing' yw'r term sy'n dod i'm meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Conyn » Sad 03 Ion 2004 4:23 pm

Ie. Brainwashing. Cof gen i glywed dadl rhwng cwpwl o fechgyn gweriniaethol o Felffast, a chwpwl o filwyr oedd wedi bod mas yna, nol yn nechrau nawdegau'r ganrif ddiwetha (nagyw hwnna'n neud i fi swnio'n hynafol?). Doedd gan y milwyr ddim ateb i ddadleuon y gweriniaethwyr o gwbl - rhaffu rhyw hen gelwydd roedden nhw'n amlwg wedi cael ei bwydo gan y fyddin oedden nhw. Gwaeth byth, roedd yn amlwg fod y milwyr yn ysu am gyfle i ymateb gyda'u dyrnau - fel'na roedden nhw wedi cael eu hyfforddi, wedi'r cwbl. Roedd llawer mwy ohonyn ni na nhw, neu fe allai wedi troi'n gorfforol.

Pe bai'r werin bobl (pwy bynnag ydyn nhw), neu unrhyw garfan mwyafrifol, yn bygwth ennill grym go iawn a gwrthsefyll grym Sefydliad y wlad hon fe fyddai'r milwyr ar y strydoedd cyn bod amser 'da ni gnecu. Meddyliwch am ymateb y Swyddogion Milwrol i ddatblygiadau yn Iwerddon ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Does dim dwywaith nad yw'r lluoedd arfog yn hanfodol geidwadol. 'Dyn nhw ddim yn llwyddo i brainwasho pawb sy'n ymuno, diolch i'r drefn, ond maen nhw'n gwneud eu gorau.

Rhaid cofio hefyd fod llawer o bonbl ifanc yn troi at y fyddin oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld ffordd arall o wella eu bywydau. Dyna'r un hen gân, yr un hen dacteg ar ran y Sefydliad. Bosib iawn nad yw pawb yn llawn sylweddoli goblygiadu dod yn filwr cyn iddyn nhw ymuno. Bosib iawn y celir safbwyntiau eraill wrthyn nhw wedi hynny.
Tri pheth sy'n anodd 'nabod
Dyn, derwen a diwarnod...
Rhithffurf defnyddiwr
Conyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 87
Ymunwyd: Sul 19 Hyd 2003 9:07 pm
Lleoliad: Dyfnderoedd y De

Postiogan Huw T » Llun 05 Ion 2004 12:18 am

Pe bai'r werin bobl (pwy bynnag ydyn nhw), neu unrhyw garfan mwyafrifol, yn bygwth ennill grym go iawn a gwrthsefyll grym Sefydliad y wlad hon fe fyddai'r milwyr ar y strydoedd cyn bod amser 'da ni gnecu



Ond os oedd yna "fwyafrif" yna byddai dim lle i'r fyddin wneud dim, gan y gellid ennill pwer drwy ddulliau democrataidd. Hefyd mae Gogledd Iwerddon yn sefyllfa lle na allai'r Heddlu weithredu yn ddiogel, felly rhaid oedd galw ar y fyddin.

Rwy'n derbyn y pwynt fodd bynnag y gellid (ac y gwnaethpwyd yn y gorffenol) defnyddio'r fyddin fel arf y llywodraeth yn erbyn y bobl. Mae hyn wrth gwrs yn annerbyniol, a dylid deddfu yn erbyn defnyddio'r fyddin mewn cythrwfwl sifil.

Hefyd, mae pawb yr ydwi'n adnabod sy'n aelod o'r fyddin yn perthyn i un o ddau ddosbarth. Unai yr 'officer class' sy'n ddyddio nol i oes Victoria, neu dropouts ysgol sydd a dim lle arall i fynd. Gyda strwythur mor anarchaidd a hyn, ni wnaiff y fyddin oroesu am lawer mwy beth bynnag!1
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan sbesh » Llun 05 Ion 2004 1:58 pm

''ond os oedd yna "fwyafrif" yna byddai dim lle i'r fyddin wneud dim, gan y gellid ennill pwer drwy ddulliau democrataidd. Hefyd mae Gogledd Iwerddon yn sefyllfa lle na allai'r Heddlu weithredu yn ddiogel, felly rhaid oedd galw ar y fyddin.''

ma hyn yn anodd i ti ddatgan oherwydd er i filwyr cael ei ddanfon i Iwerddon i amddiffyn cyfraith a threfn yn wreiddiol, nid felly y bu o gwbl. I weriniaethwyr roedd/ ag mae'r Fyddin o hyd yn symbol o'r wladwriaeth Prydeinig, sef yr union peth roeddynt yn ceisio torri'n rhydd ohoni. Yn bersonol, wi'n credu odd angen corff annibynnol, allanol i ddelio gyda Gogledd Iwerddon er mwyn gwthio am newid radical yn y system fel oedd hi. O feddwl mai'r protestaniaid oedd yn domiwnyddu'r RUC ac sydd yn o hyd, yna roedd dod a'r fyddin i mewn yn mynd i ychwanegu at densiynau oedd yn bodoli'n barod.
'Don't be in a hurry to condemn because he doesn't do what you do or think as you think or as fast. There was a time when you didn't know what you know today.'
Malcolm X
sbesh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 81
Ymunwyd: Sad 20 Medi 2003 9:39 am
Lleoliad: Tir Na Nog

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron