sai'n credu fedri di RET gweud bod y chwith yn dueddol o feirniadu'r llywodraeth yn unig am y ffaith bod pobl yn dewis mynd i rhyfel ac wedyn yn gwarafun hynny. wrth gwrs bod bai ar y llywodraeth am ddechre'r rhyfel yn y lle cyntaf, neu cymryd rhan mewn rhyfel ond nagyw pawb sy'n filwr yn chwarae gem y llywodraeth. ma cymaint o filwyr a phlismyn yn gweud bod nhw'n 'an-wleidyddol', ond mae hyn yn amhosib gan bod nhw'n cynrychioli'r holl strwythur gwleidyddol ac yn gorfod cymryd goblygiadau eu gweithredoedd a'r hyn mae'r swydd yn gofyn.
fi'n credu bod y dadl am yr alps jyst braidd yn aneglur. wi yn dod o ardal lle odd lot o bois rili 'caled' odd jyst yn casau trefn ysgol a stwff yn penderfynnu ymaelodi a'r fyddin ar ol gadael ysgol yn 16. dim bo nhw wedi erdrych am swyddi lleol(er nad oes llawer ar gael) , dim ond bod nhw'n meddwl fydden nhw'n gallu gweld y byd trwy ymuno da'r fyddin. eironig iawn weda i.