wi newydd bod yn edrych ar y newyddion ac mae'r cwin yn rhoi ei neges flynyddol o camp milwrol( wedi ei ffilmio'n barod- o'n i wastad yn meddwl fod e'n fyw, bod hi'n neud rhwybeth werth cweil ar ddydd Nadolig yn lle llenwi ei bocsys tupperware! )
jyst moyn gweld beth yw barn pobl am y fyddin yn gyffredinol.
mae rhai yn gweud bo nhw mond yn neud ei swydd....
rhai yn gweud na ddylen ni eu clodforio gan eu bont yn cynrychioli'r llywodraeth, eraill yn dadlau y dylen ni 'cefnogi'r bois' mewn rhyfel hyd yn oed os nag ydym ni'n cytuno a'r rhyfel hynny......
trafodaeth diddorol wi wedi cael amryw o weithiau. pobl yn cyhuddo fi o bod yn di-deimlad ayb. diddordeb da fi wbod am eich barn chi bobl maes-e....