RET79 a ddywedodd:Pogon: cytunaf. Os ti am ymuno a rhywun yna ymuna a'r gorau bob amser.
Ydi hyn yn wir am fywyd yn gyffredinol Ret?
Be ar wyneb y ddaear ydi pwynt y cwestiwn yma? Ydi'r opsiwn yma'n agored i bob gwlad? Ydi'r Unol Daleithau fel rhyw fath o glwb lle does ond angen gofyn yn neis a bahafio eich hunain a mi gewch chi ddod i mewn? Am be yda chi'n son?
P'run bynnag, mae America'n medru rheoli unrhyw wlad mae nhw eisiau heb ofyn y dyddiau yma. Felly aroswch nes y byddan nhw'n penderfynu eich goresgyn. Byddai taflu McDonalds allan o'r ynys yn gam pendant ymlaen i'r cyfeiriad yma.
A phaham fod yr UDA angen rheolaeth ar wlad os yw cyfran fawr o arian y wlad honno'n mynd i bocedi Americanwyr p'run bynnag?