Mae nifer o gwmniau'n mynd i wrthod teithio gyda'r 'Air Marshalls' ar eu hawyrennau gan y byddai'n niweidiol i'w helw. Ydyn ni'n mynd i weld llongau ar draws yr Iwerydd yn dychwelyd yn lle'r awyrennau?
Pam, pe bai bygythiad i ddiogelwch, y byddai cwmni'n mynd ymlaen a'r daith beth bynnag? Pe bai bygythiad i ddiogelwch, y peth gorau i'w wneud fyddai canslo'r daith, nid rhoi rhyw gwlffyn o foi (neu fenyw) ar yr awyren gyda dryll bwledi cyflymder isel.