gan fisyngyrruadre » Gwe 09 Ion 2004 11:13 am
Ygrifennodd Jonathan Schell thesis arbennig o dda ar y bwnc, o'r enw 'The Fate of the Earth' ac hefyd ail lyfr. 'The Aboloition' (1984). Os mae gynnoch ddiddordeb, ddylech chi drio ffeindio copi. Mae'n son am hanes strategaeth niwclear; cafodd 'MAD' ei greu gan Bernard Brodie ym 1946. Gwerthfawrogodd o bod o'n drychinebus i ddefnyddio arfau niwclear yn erbyn gwrthwynebwyr gyda'r un arfau, ond wnaeth o weithio allan bod o'n bosib i ddefnyddio'r ffaith yma at ein mantais: '"Multilateral possession of the bomb"... will discourage, not encourage, aggression, provided that it is"as nearly certain as possible that the aggressor who uses the bomb will have it used against him."'
Ar y llaw eraill, yn ol Albert Einstein roedd llywodraeth rhyngwladol yr unig ffordd i achub y byd o ryfel niwclear. Credodd Brodie bod hyn yn rhesymol hefyd, a ddaru fo weld 'deterrence' ac 'MAD' fel ffyrdd o 'brynu amser' er mwyn rhoi cyfle at y gwleidyddwyr y byd. Dyn ni'n dal byw mewn byd "sy' wedi cael ei rhwystro"; mae gan y UDA a Rwsia miloedd o rocedi niwclear.