Boris a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Gwir. Ond eto, dim ond eu condemnio wnaeth Kilroy. Mae Paulin o blaid eu 'lladd yn farw'. Peth twp iawn i'w ddweud a fawr gwell na sylwadau Kilroy yn y bôn.
Wrth gwrs, mae Kilroy a Paulin ill dau yn dwats sy'n mynd ar fy nerfau i felly 'dw i o blaid cael eu gwared oddi ar y awyr. Unrhyw esgus yn iawn gen i.
Cytun a cytuno eto, ond..... Mae sylwadau Paulin yn fwy peryglus na sylwdadau Kilroy tra fod sylwadau Kilroy yn fwy tebygol o fod yn hiliol (barnu pawb fel entity)
Serch hynny, y peryg yw ein bod yn anghofio am yr angen i gael BBC yn agored i bob math o farn oherwydd nad ydym yn hoff o'r unigolion dan sylw. Yr hyn sy'n dangos ymroddiad i'r syniad o ryddid barn yw bodlonrwydd i ddadlau dros hawliau unigolion sy'n amhoblogaidd hefyd.
Mi oedd sylwadau Tom Paulin yn annoeth ond go brin bod nhw'n berig iawn. Mae Paulin yn annhebygol o fod wedi dylanwadu ar ei gynulleidfa arferol (gwylwyr Newsnight Review,
anoraks barddoniaeth Saesneg - criw o seicos, mae'n siwr) i fynd allan i ymosod ar wladychwyr Americanaidd-Iddewig anghyfreithlon.
Mi fyswn i'n rhoi datganiad cyhoeddus John Malkovich bysai fo'n licio lladd Robert Fisk mewn categori tebyg i hyn, o bosib - minnau'n trio bod yn gytbwys, er bod sylwadau Malkovich wedi troi arna i dipyn mwy na sylwadau Paulin?
Ar y llaw arall, er nad oedd erthygl Kilroy wedi annog trais fel y cyfryw, mae o wedi plygio mewn i ryw feddylfryd gwrth-Arabaidd sydd eisoes yn arwain at drais hiliol ym Mhrydain. Dw i'n gweld yr ymateb gwresog sydd wedi bod mewn rhai mannau i'w
demagoguery ceiniog-a-dimai yn frawychus iawn.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.