Owain Llwyd a ddywedodd:Felly mae datganiad Julie Burchill yn y Guardian ryw fis yn ol bysai hi'n ddigon balch o weld Dresden yn cael ei bomio eto 'er mwyn gorffen y gwaith yn iawn' yn berig? 'Mond i bwysau gwaed rhai darllenwyr. Unigolion cymharol ddi-nod yn cega ydi'r tri.
Mae hi'n sicr yn bwydo mewn i ddaliadau gwrth Almaenig digon afiach - noder ymddygiad cefnogwyr pel droed Lloegr. Ac dwi yn cofio y wasg ryddfrydol gan gynnwys y Guardian yn mynd yn wallgo pan froliodd y diweddar Alan Clark ymddygiad cefnogwyr pel droed Lloegr yn yr Almaen.
Owain Lwyd a ddywedodd:Y gwahaniaeth ydi bod sylwadau Seimon Glyn wedi'u bwriadu i fwrw goleuni ar sefyllfa, am wn i, a sylwadau Kilroy-Silk yn rant anwybodus yn apelio at anwybodaeth. Tasa fo wedi ei gyfyngu ei hun i holi beth oedd yr Arabiaid erioed wedi'i wneud o werth i 'ni', er enghraifft, mi fyswn i'n cyd-fynd efo chdi. Croeso i'r ffwl ddangos ei liwiau. Ond mae dweud fatha
What do they think we feel about them? That we adore them for the way they murdered more than 3,000 civilians on September 11 and then danced in the hot, dusty streets to celebrate the murders? That we admire them for the cold-blooded killings in Mombasa, Yemen and elsewhere? That we admire them for being suicide bombers, limb amputators, women repressors?
Ai mater o ddewis gweld gwahaniaeth yw hyn? Wedi'r cyfan, mae na elfen o wirionedd yn sylwadau (hyll) Kilroy. Mi all rhywun ddewis dehongli sylwadau Seimon Glyn mewn ffordd wirion ac fe all rhywun hefyd or ymateb i 'rant' Kilroy.
Owain Lwyd a ddywedodd: Hoddle, gyda llaw? Os wyt ti'n son am y record 'na efo Chris Waddle, dyna fyddai wedi bod yn achos haeddiannol o sensoriaeth os buo'na un erioed.
Na ddim y record, er mi oedd honno yn ddiawledig. Na fe gafodd y sac am ei sylwadau fod yr anabl yn cael eu cosbi am yr hyn oeddynt wedi wneud mewn bywyd blaenorol. Twp? Oedd ond achos sac? Dwi'n cytuno efo ti re. Liddle. Diolch i'r drefn fod y Spectator wedi rhoi swydd dirprwy olygydd iddo fo.