Os wyt ti moyn teimlo yn well amdanat ti dy hun, pogon, ar hyn o bryd ti yw'r person sy'n achosi y penbleth mwya i'r pobl sy'n gyfrifol am redeg y wefan hon. Y peth hawsaf yn y byd, wrth gwrs, fyddai dy wahardd ac arbed wastraffu lot o amser yn poeni amdanat ti (a rhaid dweud taw fi yw'r un sy'n fwy o blaid wneud hynny). Wyt ti'n anwybyddu pob cais i beidio troi edeifion yn ddadlau personol. Dwyt ti ddim yn ymateb i ymatebion call gan neb, ond ti'n disgwyl i bobl eraill ymateb i dy sylwadau di, ta waith pa mor di-bwrpas ydyn nhw. (Ti dal ddim wedi esbonio sut dest ti i'r casgliad bod Nelson Mandela yn Imperialwr o'r dyfyniad ar brig yr edefyn hwn, er enghraifft.) Wyt ti'n ymdrin fel plentyn "tattle-tale" bob tro bod unrhywun yn colli ymynedd gyda ti, er bod bron popeth wyt ti'n postio yma yn anelu at greu y fath ymateb. Wyt ti wedi anwybyddu sawl negeseuon preifat oddi wrtha i yn gofyn i ti beidio bod mor blentynaidd.
Mewn gair, does dim parch 'da ti i neb ar y maes, ond wyt ti'n disgwyl i mi dy amddiffyn di rhag "ymosodiadau" bondigrybwyll. Sori, ychan, ond fel dwedodd Yr Uchel Fam:
Regret to inform Sir that credit limit was reached and breached some time ago.
Callia nawr, neu golli dy gyfrif. Dyma dy rybudd ola. Ti'n cymryd y pis a dw i wedi cael digon.
Dydy hyn rhan o "ragrith y chwith", gyda'r llaw. Jyst rhan o fy rhagrith personol i yn erbyn pobl sy ddim yn gwybod sut i ymddwyn fel oedolion.