Mel ar fysedd y ffwl sanctaidd Cardi Bach

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan pogon_szczec » Llun 26 Ion 2004 12:18 am

nicdafis a ddywedodd:
Mewn gair, does dim parch 'da ti i neb ar y maes, ond wyt ti'n disgwyl i mi dy amddiffyn di rhag "ymosodiadau" bondigrybwyll.


Dyw hynny ddim yn wir. Dwi ddim erioed wedi gofyn i ti na neb arall i'm amddiffyn. Gallaf edrych ar ol fy hunan. Wedi gwneud hynny trwy gydol fy oes.

Callia nawr, neu golli dy gyfrif. Dyma dy rybudd ola. Ti'n cymryd y pis a dw i wedi cael digon.


Felly, nei di gau fy ngyfrif plis.

Er mwyn gwneud dy benderfyniad yn haws, gallaf newid teitl yr edefyn i rwbeth mwy ymosodiadol.

DA BOCH BYD CREULON
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Aran » Llun 26 Ion 2004 9:06 am

pogon_szczecin a ddywedodd:Felly, nei di gau fy ngyfrif plis.


wedi gwneud... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Macsen » Llun 26 Ion 2004 9:57 am

Piti garw gweld Pogon yn mynd. Tyd nol, Pogon! :o

Roedd dy winjan yn codi gwen bob tro!

Dylan a ddywedodd:Beth ddigwyddodd ar ôl y rhyfel cyntaf? 'Cosbiwyd' yr Almaen yn llym iawn. Y bwriad oedd er mwyn eu hatal rhag ail-arfogi, ond y cwbl a gyflawnwyd oedd y sefyllfa gymdeithasol-economaidd druenus a adawodd Hitler mewn i rym.


We wil squeeze them til the pips pop, metha nhw. Roedd Lloyd George yn dweud wedyn ei fod o'n erbyn y peth, ond mae'n hawdd dweud 'wedyn' wrth gwrs.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan eusebio » Llun 26 Ion 2004 11:24 am

Aran a ddywedodd:
pogon_szczecin a ddywedodd:Felly, nei di gau fy ngyfrif plis.


wedi gwneud... :rolio:


Wow :ofn: roedd hynna'n ymateb sydyn i'r cais.

Dwi'n cymryd fod Pogon wedi cael cyfle i gadarnhau ei benderfyniad trwy neges breifat neu e-bost yn hytrach na bod rhywun wedi defnyddio'r cais uchod fel rheswm i gau ei gyfrif yn syth ...

Mae'n hawdd dweud pethau nad yw rhywun yn wir olygu wrth bwyso ANFON heb feddwl - a dyna, dwi'n credu yw problem yr hen Pogon.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cardi Bach » Llun 26 Ion 2004 11:48 am

:ofn:

:wps:

:lol:

Ffwl sanctaidd!!
waw, na'r peth neisa ma rhywun eriod wedi weud amdana i -
Pogon, gymrawd annwyl, os wyt ti'n gallu darllen hwn, ma'n ego i bellach yn anioddefol o fawr :D

Ar nodyn difrifol, mae'n amlwg fod Pogon yn ddiffiant iawn yn beth odd e'n weud. Fi'n anghytuno'n llwyr a fe - ar bopeth wy'n credu.

Treni fod e'n edrych ar bethau fel brwydyr drw'r amser ac yn pigo ffeits.

Heddwch iw 'lwch'.

Mae'n siwr ddaw e nol gyda enw a rhithffurf arall - ri-incarneshon, fel petai.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Macsen » Llun 26 Ion 2004 3:53 pm

Mae'n siwr ddaw e nol gyda enw a rhithffurf arall - ri-incarneshon, fel petai.


Roeddwn i'n meddwl ei fod o'n amlwg mai Nicdafis oedd Pogon drain. Gwlad Pwyl wir! :D
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Llun 26 Ion 2004 3:57 pm

Mae cyfrif pogon ar gau, ond heb gael ei ddileu.

Dw i'n eitha lico "ffwl sanctaidd" - mae'n fel rhywbeth mas o Dostoiefsci. Pam mae Cardi Bach yn cael pethau fel 'na a dw i'n cael dim byd ond "ffasgydd" a "sensor"? Ddim yn deg o gwbl.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Llun 26 Ion 2004 4:22 pm

'Ffwl Sanctaidd' yn swnio fel ryebeth o'r rhaglen Monkey! yn y 70au hwyr.

Pam mae Cardi Bach yn cael pethau fel 'na a dw i'n cael dim byd ond "ffasgydd" a "sensor"? Ddim yn deg o gwbl.


Iawn, ti'n Sensor Sanctaidd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Sioni Size » Llun 26 Ion 2004 4:59 pm

Rhyfedd o fyd - er mor aruthrol o anghywir ac annifyr ydi/oedd pogon ym mhopeth hebddo fo a'i deip a fyddai'r lle ma'n gymaint o sbort?

Wedi'r cyfan, mae nhw'n darparu gwasanaeth, sef miniogi meddwl (i raddau) a dadleuon y rhai call. Heb neb i'w hateb a'u gwrthbrofi fyddai Maes-E ddim y ffynhonell anferth o wybodaeth yr ydi o rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dylan » Llun 26 Ion 2004 5:18 pm

cweit

'Dw i'n reit siomedig
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai