Mel ar fysedd y ffwl sanctaidd Cardi Bach

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan brenin alltud » Maw 27 Ion 2004 4:21 pm

nicdafis a ddywedodd:Dw i'n eitha lico "ffwl sanctaidd" ...


Dw i'n lled amau nad 'sanctaidd' o'dd e'n ei olygu, ond 'sanctimonious'. Felly mae e wedi galw Cardi Bach yn 'holy fool' - swnio fel enw fase BA o'r A-team yn rhoi i ryw bregethwr meddw, dydi...

(Sori am dorri ar draws edefyn nad o'n i'n deall dim amdano - neith e'm digwydd eto. Ond dw i YN dilyn eich sgyrsie weithie - yn eich gweld yn pigo ar eich gilydd fel plant braidd ar brydie! Pam gwylltio da rhywun 'dach chi ddim yn cytuno ag e? Os yw e'n agor edefyn fel hyn, pam ymateb o gwbwl? Pam ddim ei anwybyddu? Mae'n amhosib i bawb gytuno, dydi? Sori, na'i adael chi fod nawr :D )
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Sioni Size » Maw 27 Ion 2004 4:29 pm

Mae unrhyw un sy'n meddwl fod America'n gyfiawn a theg yn ddiarwybod o'r ffeithiau. Dydi neb sy'n parhau i weiddi hynny ar ol i lond trol o dystiolaeth i'r gwrthwyneb gael ei roi ger eu bron yn haeddu dim ond dirmyg.
A'r rheswm am hynny? Nid ydyn nhw'n dangos dim math o barch tuag at eu cyd-ddyn. Maent yn fodlon anwybyddu dinistr miliynau o fywydau er mwyn y glori o Americarr. Cwestiwn o foesoldeb, chwadan.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan DAN JERUS » Maw 27 Ion 2004 4:38 pm

Wel beth bynnag eich barn o Pogon, a oes wir reswm dros trafod ei ymadawiaeth ar ddau negesfwrdd gwahanol? mae trafodaeth identical iw gael ar y pwnc "croeso ir maes hefyd"
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ifan Saer » Maw 27 Ion 2004 5:09 pm

Macsen a ddywedodd:Ti'n nitpicio. Beth bynnag, dwi'm yn licio sut ti'n mynegi hwn:

Chwadan a ddywedodd:Dwi'n cytuno fod Pogon yn deud petha hurt ond dwi'm yn meddwl fod angen yr holl ddathlu ma a'r holl feddwl bo chi'n well na fo am bo chi di cael aros.


Lle yn union mae'r dathlu yma?? O be dwi'n gweld, mae pawb yn reit drist bod Pogon wedi mynd, Chwadan.


Ti'n nitpicio llawn gymaint a chwadan. A falla fod chwadan yn anghywir am y dathlu, ond mae hi'n reit agos at y gwir efo'i hail gosodiad, yn fy marn i. Mae yna agwedd reit hyll i'w gael weithia' o rai yn meddwl eu bod rywsut yn well, neu eu barn rywsut yn fwy dilys.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Sioni Size » Maw 27 Ion 2004 5:32 pm

Mae barn fod y ddaear yn mynd rownd yr haul yn fwy dilys na barn fod yr haul yn mynd rownd y ddaear.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Macsen » Maw 27 Ion 2004 5:51 pm

Ifan Saer a ddywedodd:Ti'n nitpicio llawn gymaint a chwadan. A falla fod chwadan yn anghywir am y dathlu, ond mae hi'n reit agos at y gwir efo'i hail gosodiad, yn fy marn i. Mae yna agwedd reit hyll i'w gael weithia' o rai yn meddwl eu bod rywsut yn well, neu eu barn rywsut yn fwy dilys.


Waw. Ifan Saer yn ceisio pigo ffeit hefo fi. Dyna olygfa drawiadol ac anhebygol. Sdim diddordeb da fi, Saer.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dan Dean » Maw 27 Ion 2004 6:23 pm

Ifan Saer a ddywedodd:]Mae yna agwedd reit hyll i'w gael weithia' o rai yn meddwl eu bod rywsut yn well, neu eu barn rywsut yn fwy dilys.


Os fuasai rhywyn ddim yn meddwl bod ei farn yn fwy dilys, sa fo ddim yn boddran dadla yn y lle cynta.

Sioni Size a ddywedodd:Mae barn fod y ddaear yn mynd rownd yr haul yn fwy dilys na barn fod yr haul yn mynd rownd y ddaear.


Hefyd mae'r FFAITH mai America oedd y gwlad a helpodd fwyaf i roi Saddam mewn grym yn fwy dilys na'r barn "sdim lot o dystiolaeth bod yr Americanwyr wedi rhoed Saddam mewn pwer".(Pogon)

A mae'r FFAITH bod y Twrciaid wedi bod yn bomio Kurdistan yn ystod amser y "no fly zones" yn fwy dilys na'r barn "oeddynt o les i bobl Kurdistan".(Pogon)
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Boris » Maw 27 Ion 2004 6:36 pm

Sioni Size a ddywedodd:Mae barn fod y ddaear yn mynd rownd yr haul yn fwy dilys na barn fod yr haul yn mynd rownd y ddaear.


Yn union Sioni. Ac sdim ots faint ti'n gweiddi, llofruddio y diniwed oedd prif gyfraniad yr IRA ac er gwaetha'r holl dystiolaeth wnest ti ddim newid dim ar dy agwedd. Casau dy gyd-ddyn yn wir.

Ar bron pob pwnc o fewn maes e dwi wedi peidio a thrafod efo ti gan fod darllen y Guardian yn rhoi yr un dadleuon i mi ond hefo ychydig mwy o resymoldeb.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Maw 27 Ion 2004 6:37 pm

Dan Dean a ddywedodd:Hefyd mae'r FFAITH mai America oedd y gwlad a helpodd fwyaf i roi Saddam mewn grym yn fwy dilys na'r barn "sdim lot o dystiolaeth bod yr Americanwyr wedi rhoed Saddam mewn pwer".(Pogon)

A mae'r FFAITH bod y Twrciaid wedi bod yn bomio Kurdistan yn ystod amser y "no fly zones" yn fwy dilys na'r barn "oeddynt o les i bobl Kurdistan".(Pogon)


Beth am Ffrainc?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Boris » Maw 27 Ion 2004 6:37 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:Heb Pogon ac eraill fydd maes -e yn ddim mwy na lle i fobl un llygeidiog gyd drafod a chytuno am ei rhagfarnau eu hunain - siwtio Sioni falle, ond pawb arall? :crio:


Mae'n dda o beth bod Boris, yr hen law fydol-ddoeth, ddau-lygeidiog, yn dal yma i ddangos yn glên ac yn dadol wrthon ni'r idealwyr bach gwirion lle dan ni'n mynd ar gyfeiliorn, tydi. :)


Ydi wir :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai