Macsen a ddywedodd:Ifan Saer a ddywedodd:Ti'n nitpicio llawn gymaint a chwadan. A falla fod chwadan yn anghywir am y dathlu, ond mae hi'n reit agos at y gwir efo'i hail gosodiad, yn fy marn i. Mae yna agwedd reit hyll i'w gael weithia' o rai yn meddwl eu bod rywsut yn well, neu eu barn rywsut yn fwy dilys.
Waw. Ifan Saer yn ceisio pigo ffeit hefo fi. Dyna olygfa drawiadol ac anhebygol. Sdim diddordeb da fi, Saer.
Iesu Grist Macsen, paid a meddwl fod yr haul yn troi o dy amgylch. Mi roeddwn i'n cytuno efo pwynt chwadan, ac yn anghytuno efo dy ymateb di. Gai ddweud hynny heb ei droi'n 'ffeit' os gwelwch yn dda? Fel arall, gawn ni alw'r safle yma'n 'Maes Macsen'...