eusebio a ddywedodd:Am yr eildro:
eusebio a ddywedodd:Pogon, oes rhaid troi pob dadl yn erbyn y chwith yn ddadl yn erbyn comiwnyddiaeth?
Alli di ddim deall y concept o gael daliadau adain chwith heb fod o blaid comiwnyddiaeth?
Rwyt ti'n berson â daliadau adain dde, ond tydw i erioed wedi clywed unrhyw aelod o'r maes yn dy alw yn ffasgydd nac yn gefnogwr o Hitler, Mussolini neu Pinochet.
Mae'r ateb i dy gwestiynau ar gael i ryw raddau yn y wefan dan sylw.
Mae llawer o bobl fan hyn (efallai y mwyafrif) yn dadlau yn erbyn cyfalafiaeth, globleiddio, y gorllewin ac yn y blaen, ond beth sy gyda nhw i'w rhoi yn ei le?
Mae llawer o bobl hefyd yn feirniadol iawn o ymyraeth yr UDA mewn sawl gwlad, heb feddwl am beth roeddynt yn amddiffyn y byd rhagddo (Comiwynyddiaeth). Gallaf gyfiawnhau gweithredoedd y UDA trwy ddangos pa mor ofnadwy oedd yr alternatif.
O ran dy gwestiwn o fod yn adain chwith heb fod yn gomiwnydd mae mwyafrif o drigolion y maes yn disgrifo rhywun fel Blair fel boi asgell dde.
Sdim byd da fi yn erbyn sosialwyr 'cymhedrol' ond nid ynt yn 'sosialwyr' pellach.
Rhaid cofio hefyd bod lot fawr o bobl (e.e. ar y maes) o blaid sosialaeth ddychmygol, (y theories) ond yn erbyn Staliniaeth, (beth sy'n digwydd yn y byd real).
Gallaf ddadlau bod Hitler, Mussolini (ond nid Pinochet) yn fwy o bois y chwith na bois adain dde. Dwi'n gwybod lot am dwf Nasiaeth, ac yn sicr roedd ei rhetoric sosialaidd yn rhan pwysig o'i apel. Sosialwr oedd Mussolini hefyd, (fel roedd Oswald Moseley ym Mhrydain).
Yn bersonol libertarian ydwi. Dwi'n credu mewn rhyddid i bawb. Siarad rhydd. Masnach rhydd.
Free enterprise. "Get the government off the back of the people" (Reagan). Rhyddid i wrwgydwyr gwneud pethau annifyr i'w gilydd, a rhyddid i RET weud eu bod yn annifyr, rhyddid i Janet Street Walker a Sioni Spart siarad bollocks, rhyddid i bobl siarad a pheidio a siarad y Gymraeg, rhyddid i'r Urdd Oren marcho (a phobl protestio yn eu herbyn) ac yn y blaen.
Y fath o ryddid sy ddim yn bodoli mewn gwledydd comiwynyddol