Cymedrolwr: Chwadan
Pogon a ddywedodd:Gallaf ddadlau bod Hitler, Mussolini (ond nid Pinochet) yn fwy o bois y chwith na bois adain dde. Dwi'n gwybod lot am dwf Nasiaeth, ac yn sicr roedd ei rhetoric sosialaidd yn rhan pwysig o'i apel. Sosialwr oedd Mussolini hefyd, (fel roedd Oswald Moseley ym Mhrydain).
Pogon a ddywedodd:Siarad rhydd. Masnach rhydd. Free enterprise.
pogon_szczec a ddywedodd:Mae'r ateb i dy gwestiynau ar gael i ryw raddau yn y wefan dan sylw.
Mae'r llawer o bobl fan hyn (efallai y mwyafrif) yn dadlau yn erbyn cyfalafiaeth, globleiddio, y gorllewin ac yn y blaen, ond beth sy gyda nhw i'w rhoi yn ei le?
Mae llawer o bobl hefyd yn feirniadol iawn o ymyraeth yr UDA mewn sawl gwlad, heb feddwl am beth roeddynt yn amddiffyn y byd rhagddo (Comiwynyddiaeth). Gallaf gyfiawnhau gweithredoedd y UDA trwy ddangos pa mor ofnadwy oedd yr alternatif.
pogon_szczec a ddywedodd:O ran dy gwestiwn o fod yn adain chwith heb fod yn gomiwnydd mae mwyafrif o drigolion y maes yn disgrifo rhywun fel Blair fel boi asgell dde.
Sdim byd da fi yn erbyn sosialwyr 'cymhedrol' ond nid ynt yn 'sosialwyr' pellach.
pogon_szczec a ddywedodd:Gallaf ddadlau bod Hitler, Mussolini (ond nid Pinochet) yn fwy o bois y chwith na bois adain dde. Dwi'n gwybod lot am dwf Nasiaeth, ac yn sicr roedd ei rhetoric sosialaidd yn rhan pwysig o'i apel. Sosialwr oedd Mussolini hefyd, (fel roedd Oswald Moseley ym Mhrydain).
pogon_szczec a ddywedodd:Y fath o ryddid sy ddim yn bodoli mewn gwledydd comiwynyddol
Macsen a ddywedodd:Pogon a ddywedodd:Gallaf ddadlau bod Hitler, Mussolini (ond nid Pinochet) yn fwy o bois y chwith na bois adain dde. Dwi'n gwybod lot am dwf Nasiaeth, ac yn sicr roedd ei rhetoric sosialaidd yn rhan pwysig o'i apel. Sosialwr oedd Mussolini hefyd, (fel roedd Oswald Moseley ym Mhrydain).
Diddorol. Dos ymlaen yn bellach ar y pwnc yma, os gwelch yn dda. Os wyt ti'n iawn, dwi'n addi i fwyta fy het.
Dylan a ddywedodd:
a 'dw i ddim yn deall beth ti'n trio'i ddweud wrth ail-adrodd (hwyrach allan o'u cyd-destun ond 'dw i'n fodlon derbyn) Dan Dean a Sioni et al. Ydi, maent yn anghywir. Ond beth ddiawl sydd gan hynny i wneud efo fi, er enghraifft, a gweddill "chwith" y maes yn gyffredinol? Mae gen ti habit wael iawn o gyffredinoli. Mae barn pawb yn wahanol.
Chris Castle a ddywedodd:Er dyw Pogon ddim "gyda ni" erbyn heddiw, mae fe wedi gwneud un bwynt fy mod i'n cytuno â fe. Mae'r wefan dan sylw yn codi nifer o wrthdywediadau sydd yn meddylfryd "y chwith" yn arbennig y chwith ymylol. Dwi wedi cwrdd ag aelodau Socialist Workers Party/party of socialist workers/ workers socialist party/revolutionary workers socialist party (splittaas ) ayyb sydd jyst mor dwp ag yw Pogon yn dyfalu.
Pogon a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Dyfyniad:
2 America yw prif ffynhonnell arfau Saddam.
'does neb wedi dweud hynny hyd y gwela' i
Dan Dean (treia dallt), o leiaf tair gwaith, ac eraill
Pogon mewn edefyn arall a ddywedodd:Yn fy marn, sdim lot o dystiolaeth bod yr Americanwyr wedi rhoed Saddam mewn pwer, er fod lot fawr o conspiracy theorists i gael ar y we, a lot o bobl sy'n credu ei syniadau yn ddi-gwestiwn.
We created this monster. If you want to know who's to blame for all this, we are
Pogon, mewn edefyn arall a ddywedodd:Yr Hen Undeb Sofietaidd oedd prif ffynhonnell arfau confensiwnal Saddam hyd y saith degau.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai