Er fod pawb yn y byd, hyd yn oed Bush, yn gwybod nad oes Wepynz of Maiz Izzrucshyn yn Irac, mae Bler dal i honni ffordd arall. Be mae o'n wybod?
Gan fod Prydain rwan yn rheoli rhannau helaeth o'r de, oni fyddai hi yn achub llawer o drafferth petai hi'n bosibl 'ffendio' rhyw ffatri danddaearol hefo llond y lle o gemegau a thanciau nwy a bicer neu ddau o gwmpas yr ardal honno?
A oes na rywun o fewn y gwasanaethau cudd neu'r fyddin fedr Bler ddibynnu arno ddigon i gario'r ffafr fach handi yma allan iddo? Wedi'r cyfan, byddai'n gweithedu dros ei wlad - yn achub enw da Lloegr drwy'r byd. A byddai Tony yn hynod ddiolchgar. Ond mae'n debyg fod hyn yn cymryd mwy o amser nac y dylai.