Pam fod Blair mor siwr?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Sioni Size » Gwe 20 Chw 2004 12:29 pm

Chris, am be gebyst wyt ti'n son?
Wyt ti'n trio dweud fod yr ymchwilwyr UN, Denis Halliday, Hans Blix yno i stopio Saddam rhag gormesu pobl Irac?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Dan Dean » Mer 25 Chw 2004 2:49 am

Chris Castle a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:[Dwi ddim yn gwbod lle tin cael dy ffeithia de Chris. Be ffwc oedd gan yr ymchwiliada i wneud efo "gormes Saddam ar ei bobl". A pa "gormes" ydi hyn felly??


Ar y newyddion, yn y papurau, cylchgronau a'r radio.


Ac engraifft o hyn?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Chris Castle » Mer 25 Chw 2004 8:54 am

Sioni Size a ddywedodd:Chris, am be gebyst wyt ti'n son?
Wyt ti'n trio dweud fod yr ymchwilwyr UN, Denis Halliday, Hans Blix yno i stopio Saddam rhag gormesu pobl Irac?


Dweud ydw i, roedd gormes Sadam yn rhwystro'r ymchwiliad.
DOEDD DIM MODD I WYDDONYDD IRAQ DWEUD Y GWIR WRTH YR YNCHWILWYR GYDA LABWST PLAID BA'ATH YN GWRANDO AR BOB GAIR AC YN GWYBOD BETH OEDD Y WYDDONYDD GAN GANIATAD I DDWEUD OS OEDD E'N MOYN EI DEULU I FYW.
Pwynt eithaf syml yw e. Petaech chi wedi colli'r newyddion wnaeth sôn amdani, nid fy mai i yw e.

Dyna oedd sail i'r deadline rhoddwyd ar Sadam gan yr UN roedd rhaid iddo fe "cydweithio'n llwyr gyda'r ymchwiliad". Torrodd dros y deadline yna gan Sadam. Dechreuodd y proses mynd i ryfel gyda "REFUSAL TO CO-OPERATE FULLY WITH UN INSPECTORS" gan Iraq.

Wedi'r deadline mynd heibio dwedodd Sadam "o gorau cewch chi cael eich ffordd nawr" dwedodd Bush a Blair "rhy hwyr bachan". Roedden nhw'n moyn cael gwared ohono fe a chodon nhw achos yn ei erbyn ef. Roedd tystiolaeth (dadleuol) roedd WMDau 'da fe o hyd yn rhan o'r achos yma. Roedd Ffrainc yr Almaen, Dan Dean, Sioni Size, Socialist Workers Party ayyb o blaid rhoi un siawns arall i Sadam. Dyna linell amser y bethau ddigwyddodd cyn i'r Protestiadau dechrau o ddifri.

Cofiwch roeddwn i yn erbyn y rhyfel. Dwi'n dweud roedd Blair yn anghywir. Ond dwi'n wir credu wnaeth e argyhoeddi ei hun roedd WMDau yna yn hytrach 'na dweud celwyddau noeth.

Dwi'n jyst pwyntio mas sut mae'r Socialist Workers/Militant, sori "Stop The War Coalition leadership" yn fodlon "Sex up" eu dosier nhw roedd blair gan "weapons of mass distraction". Nhw sy'n cam arwain Protestwyr egwyddorol am resymau gwleidyddol plediol o sectariaidd, gan wybod yn iawn beth maen nhw'n gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Dan Dean » Iau 26 Chw 2004 11:29 am

Chris Castle a ddywedodd:DOEDD DIM MODD I WYDDONYDD IRAQ DWEUD Y GWIR WRTH YR YNCHWILWYR GYDA LABWST PLAID BA'ATH YN GWRANDO AR BOB GAIR AC YN GWYBOD BETH OEDD Y WYDDONYDD GAN GANIATAD I DDWEUD OS OEDD E'N MOYN EI DEULU I FYW.


Ond mi oeddynt yn deud y gwir wrth yr ymchwiliwyr, yn dweud nad oes WMD yn irac. Mae'r ffaith eu fod nhw'n cario mlaen i ddweud hyn, ac hefyd doedd dim WMD yn y lle cynta, yn profi eu bod wedi deud y gwir drwy'r adeg.

Chris Castle a ddywedodd:Wedi'r deadline mynd heibio dwedodd Sadam "o gorau cewch chi cael eich ffordd nawr" dwedodd Bush a Blair "rhy hwyr bachan".


Y rheswm dywedodd Bush a Blair "rhy hwyr bachan" oedd nid oeddynt eisiau i Saddam brofi nad oedd ganddo WMD, wedyn ni fuasent yn cael mynd i ryfel.

Rhaid meddwl sut fuasai rhywyn mor glyfar(Blair) yn meddwl bod yr holl nonsens am WMD yn wir. Rhaid ei fod yn gwybod yn iawn bod na rhywbeth o'i le yn rhywle, ond doedd o ddim isio cytuno a hynnu yn gyhoeddus.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Chris Castle » Gwe 05 Maw 2004 9:47 am

Dyna dy ddadansoddiad. Mae'n, erbyn hyn, amlwg roedd Sadam yn moyn creu'r argraff roedd yn gryfach nag oedd e. Roeddwn i dadlau cyn y rhyfel dylen ni sicrhau ymchwiliad llawn a mynd yn ôl a'r ymchwilwyr. Doeddwn i ddim credu roedd yr achos yn erbyn regime Sadam yn ddigon cryf i gyfiwnhau rhyfel ar y pryd am fyddai'r rhyfel yn achosi mwy o broblemau na fyddai'n datrys.
Erbyn hyn dwi'n dal ystyried petaswn i iawn.

Dwi'n cytuno roedd Blair yn anghywir. Ond dwi ddim yn credu wnaeth e ddweud celwyddau noeth. Jyst gwneud achos cyfeithiwr oedd e. Sef defnyddio popeth POSIB i gyfiawnhau ei safbwynt.

Mae'n arwydd o naifrwydd a llwythyddiaeth y disgwrs wleidyddol yn y Wlad yma, does fawr neb yn deall be' ddigwyddodd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Sioni Size » Gwe 05 Maw 2004 11:55 am

Chris Castle a ddywedodd:Dyna dy ddadansoddiad. Mae'n, erbyn hyn, amlwg roedd Sadam yn moyn creu'r argraff roedd yn gryfach nag oedd e. Roeddwn i dadlau cyn y rhyfel dylen ni sicrhau ymchwiliad llawn a mynd yn ôl a'r ymchwilwyr. Doeddwn i ddim credu roedd yr achos yn erbyn regime Sadam yn ddigon cryf i gyfiwnhau rhyfel ar y pryd am fyddai'r rhyfel yn achosi mwy o broblemau na fyddai'n datrys.
Erbyn hyn dwi'n dal ystyried petaswn i iawn.

Dwi'n cytuno roedd Blair yn anghywir. Ond dwi ddim yn credu wnaeth e ddweud celwyddau noeth. Jyst gwneud achos cyfeithiwr oedd e. Sef defnyddio popeth POSIB i gyfiawnhau ei safbwynt.

Mae'n arwydd o naifrwydd a llwythyddiaeth y disgwrs wleidyddol yn y Wlad yma, does fawr neb yn deall be' ddigwyddodd.


Ahaha... yndi, tydi'r cyhoedd oedd yn erbyn y rhyfel yn naif. Y cam naturiol ydi beio Saddam am smalio fod ganddo arfau - mi dwyllodd ni oll! Mae'n honiad handi i guddio cymhellion. Wyt ti'n cofio'r cyflwyniad Colin Powell i'r CU? "Y lori yna sy'n cario nwyon... yr adeilad yna sy'n cadw'r cemegau...blablabla." Wyt ti'n trio dweud wrthai fod Irac wedi dweud hynna wrth yr Americans? Neu wedi actio pethau allan yn gwybod fod y satellites yn sbio arnyn nhw? Pwy sy'n naif yn fama?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Chris Castle » Llun 08 Maw 2004 1:19 pm

Mae'r ddisgwrs gwleidyddol sy'n naif nid y pobl. Sound bites yw popeth. Dyna pam mae Blair ayyb yn gallu dylanwadu ar bobl mor hawdd. Mae pawb yn gwbod beth mae'n nhw'n meddwl ac yn edrych ar gyfer ffeithiau i'w profi. Ti'n sôn am cymryd sylw ar y newyddion, ond y tric yw bod yn beirniadol o beth mae sgwenwyr yn trio dweud wrthot ti.

Does gwahaniaeth rhesymegol rhwng Bler yn credu mewn WMDau a'r mudiadau yn ei erbyn yn credu fod Celwyddgi yw e. Mae digon o "dystiolaeth" 'da nhw i gyd. Jyst eu bod nhw'n anwybyddu popeth sy'n anghytuno a'u safbwyntiau.

Sdim digon o bwyso a mesuro yn digwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Cwlcymro » Maw 09 Maw 2004 10:22 am

Ond ma Blix ei hyn wedi deud fod o wedi stopio darllen papura a gwylio'r newyddion erbyn y misoedd ola cyn y rhyfel, am ei fod o wedi diflasu o ddarllen am lywodraeth Prydain a America yn trio gwneud iddo swnio fel ffwl a'i 'dis-creditio'.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai