Cymedrolwr: Chwadan
Pysgod a ddywedodd:myfi wyf
Economic Left/Right: -3.00
Social Libertarian/Authoritarian: -0.21
di hynny'n dda neu ddrwg?
jimkillock a ddywedodd:RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod pobl ar y dde eisiau cadw grym y wlad i lawr, felly cadw trethi yn isel a pheidio rhwystro pobl gymaint. Mae pobl ar y chwith eisiau codi trethi ac felly gwneud y wlad yn fwy pwerus a dod a mwy o reolau i reoli pethau.
isio cadw grym y wlad i lawr pan mae'n effeithio lefelau treth ar bobl cyfoeth, ie. Ond pan ti'n sôn am y cyfraith, neu be sy'n dderbyniol i gymdeithas, mae'n wahanol, isio cynyfngu pethau ydy'r asgell-dde.
Garnet Bowen a ddywedodd: Mae'r gosodiad yma yn dangos pam mor wan ydi'r syniad o asgell dde/asgell chwith. Edrych di ar y symudiad anarchaidd yn Ewrop, er enghraifft, a fe fysa'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynnu mai asgell chwith ydyn nhw. Ond yn America mae gen ti symudiad 'liberatarian' sy'n rhannu yr un syniadau yn union, ond sy'n gweld eu hunain fel asgell dde.
Symptom o wendid cyffredinol y system wleidyddol ydi hyn. Mae pawb yn cael eu hanog i ddewis "tim", a chefnogi'r tim hwnw doed a ddelo. Yn hytrach na gweld ein hun fel pobol asgell dde neu asgell chwith, mi ddylsa ni feddwl yn annibynol ynglyn a'r hyn 'da ni'n ei gredu am bob pwnc gwleidyddol.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai