Dwi'n cytuno efo Dylan fod hyd yn oed y 'Political Compass' yn fethedig, gan ei fod yn gofyn cwestiynnau gor-syml, ac ei fod yn ceisio clymu'r atebion at eu gilydd er mwyn lleoli rhywun ar y sbectrwm gwleidyddol.
Mae gwleidyddiaeth yn fater llawer rhy gymleth i fedru cael ei blotio ar graff. Dylid pwyso a mesur pob pwnc yn unigol.
Pwynt teg. Y broblem yma yw fod gwleidyddiaeth yn cael ei drefnu mewn grwpiau. Cymer etholiad fel esiampl, mae gwleidyddion yn gofyn i ni i gefnogi un grwp neu un arall (e.e. Plaid, Llafur, Ceidwadwryr ayyb). Os yn cefnogi un o'r grwpiau yma, mae'n holl bwysig ei categoreiddio nhw er mwyn gweld a yw'n bosib uniaethu a'r grwp ai peidio, ac felly gwario'r bleidlais ar y grwp hwnnw.