Sud ti' n diffinio be ydi adain chwith a adain dde

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan GT » Mer 25 Chw 2004 6:26 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Efallai mai nid "effeithlonrwydd" ydi'r gair cywir, gan fod hwn yn derm economaidd gyda ystyr pendant. Ond ti'n anghywir pan ti'n deud nad ydi cyfalafiaeth yn cael ei reoli. Be arall ydi rheolau iechyd a diogelwch, y Minimum Wage, neu'r Monopolies and Mergers Board? Problem cyfalafiaeth ydi ei fod yn cael ei reoli yn wael ar lefel fyd-eang, gyda system o reolau sy'n ffafrio'r cyfoethog.


Na, na. Mae cyfalafiaeth yn dilyn cyfreithiau digon syml, fedri di ddim 'rheoli'r' rhain. Son am ymyryd wyt ti, a RET79 yntau am wn i. Ychydig o bobl (yn y Gorllewin) sydd bellach yn dadlau na ddylid ymyryd o gwbl ar brosesau'r farchnad, ac ychydig sy'n dadlau na ddylid caniatau i'r farchnad weithredu o gwbl. Mae'r rhan fwyaf ohonom (o ddigon) rhywle rhwng y ddau begwn yma.

Daw hyn a ni at gwestiwn gwreiddiol Lowri Larsen. Mae pobl sy'n hoffi llawer o ymyraeth yn bobl 'adain chwith' (mewn materion economaidd), ac mae rhai nad ydynt am weld llawer o ymyraeth yn adain dde.

Dweud oedd RET79 am wn i bod ymyraeth yn gwneud cyfalafiaeth yn llai effeithiol. Nid oedd yn gwneud y pwynt hwn mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr - felly fy 'nryswch'.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai