Gyda Bush a Blair nawr yn cyfiawnhau'r rhyfel yn Irac ar sail rhyddhau'r bobl gyffredin o erchyllderau Saddam (gan bod dim arfau dinistriol yno).
Pwy felly sydd am ddisodli Mugabe yn Zimbabwe?
Roedd rhaglen Panorama y BBC nos Sul am Mugabe yn erchyll.
Roedd yn son am ferched mor ifanc a 11 oed yn cael eu treisio'n rywiol yn y "training camps" gan ei filwyr, fel dull o'i disgyblu.
Hefyd, roedd pobl a oedd wedi cael eu gorfodi i fynychu'r "training camps" yn gorfod ymosod ar aelodau o'i teulu oedd yn gwrthwynebu Mugabe, neu derbyn cosb llym eu hunnain. Dywedodd un merch ei bod hi a eraill wedi torri cefn ei "Uncle", a nid oedd bellach yn medru cerdded, a gweld eraill yn cael eu lladd.
Olew oedd yr unig beth oedd yn gwahannu Saddam a Mugabe.