John Kerry

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

John Kerry

Postiogan Bol Cwrw » Mer 03 Maw 2004 11:06 am

Hwn sydd wedi ennill y ras enwebiad ar gyfer y Democratiaid i wrthwynebu George "Dubya" Bush yn yr etholiad nesaf. Ai hwn yw'r gwr i ddisodli Bush? Beth yw'r teimlad ynglyn a Bush yn yr U. D. A? Pa argraff mae John Kerry yn rhoi i'r Americanwr cyffredin a'r byd?
Rhithffurf defnyddiwr
Bol Cwrw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 187
Ymunwyd: Maw 17 Chw 2004 11:27 am

Postiogan huwwaters » Mer 03 Maw 2004 9:40 pm

Democrats o hyd yn well na'r Republicans, yn y modd bod Republicans yn achosi problemau i'r economi ac yn creu rhyfeloedd.

Stwff fel hyn yw:

Herbert Hoover yn gwaethygu'r Wall Street Crash, ddim wedi clywed yr athroniaeth o fuddsoi pres yn yr economi pan mae'n arafu, a tynnu pres gyda trethi pan mae'r economi'n lewyrchus. Gwnaeth y deocrat Franklin D. Roosevelt hyn, gan gychwyn gwella'r sefyllfa.

Richard Nixon yn euog o dwyllo gyda'r sgandal Watergate.

JF Kennedy yn ceisio gwellla pethau gyda gwrthwynebu Bay of Oigs yn bersonol a sefydlu Peace Corps.

Y llywodraeth Gweriniaethol oedd mewn pwer yn ystod rhyfeloedd Vietnam, Gwlff I, II.

Ond i enwi rhai pethau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Garnet Bowen » Iau 04 Maw 2004 9:31 am

huwwaters a ddywedodd:
Y llywodraeth Gweriniaethol oedd mewn pwer yn ystod rhyfeloedd Vietnam, Gwlff I, II.


Mae Fietnam yn achos eithaf cymleth. Er fod 'na "gynghorwyr" Americanaidd yno ers y 1950au, Johnson, arlwydd Democrataidd yrrodd y fyddin Americanaidd i mewn yn swyddogol.

Adlewyrchiad o gymlethdod y system bleidiol yn America ydi hyn. Caiff Johnson ei gofio fel llofrudd Fietnam heddiw, gyda llawer iawn ar y chwith yn dewis anwybyddu'r ffaith mai Johnson oedd hefyd yn bersonol gyfrifol am wthio'r deddfau hawliau cyfartal drwy'r senedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan huwwaters » Iau 04 Maw 2004 6:10 pm

Y rheswm yr oedd Johnson yn cymaint o gymeriad wan, oedd ei fod eisiau byw fyny i ddiswgyliadau pobl yr UDA. Nid oedd eisiau cael ei gofio fel Arlywydd cyntaf yr UDA i golli rhyfel. Rhaid cofio na nid fod oedd yn gyfrifol bennaf am hawliau cyfartol. Gwthiodd nifer o bolisiau JFK trwadd, ond hefyd rhai ei hun.

Ni all rhyfel Vietnam cael ei feio ar unrhyw unigolyn neu grwp penodol, oherwydd mai'r cenedl yn gyfan oedd yn cefnogi'r catholigion cyfoethog yn y de.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Iau 04 Maw 2004 7:42 pm

Un ychwanegiad bach ella oddi ar y testyn. Y peth wnaeth fy nghorddi i tro diwethaf oedd
1.) Cafodd Al Gore mwy o bleidleisiau na Bush ond ma Bush yn y ty Gwyn
2.) Os na fyddai tad Bush wedi bod yn arlywydd byddai junior bush heb fynd yn agos at y ty gwyn!
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Madrwyddygryf » Iau 04 Maw 2004 9:45 pm

Wel mae'n digon hawdd i rai fel ni ym mhrydain i weld mai John Kerry fydd yn disodli Bush. Ond tydio ddim mor hawdd hynny.

Ar y funud mae'r ddau yn rhedeg 'neck and neck' yn y polls. Roedd Bush gyda'i ymosodiad yn erbyn y priodasau hoyw wedi codi cryn cefnogaeth gyda llawer o'i cefnogwyr traddodiadol yr Gwerinaethwyr.

Mae o hefyd gyda tunnelli o arian. Felly cawn gweld
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Iau 04 Maw 2004 10:10 pm

Ail enw gwraig Kerry yw Heinz. Mae o, hefyd, a tunelli o arian.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan bartiddu » Gwe 05 Maw 2004 12:22 am

Gobeithio bod fi wedi deall sut i gael y cysylltiad 'ma i weithio!

http://pilger.carlton.com/print
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai