Dylan a ddywedodd:Y broblem ydi bod llawer yn gweld sustem farchnad rydd neo-ryddfrydol fel rhan annatod o globaleiddio. 'Dydw i ddim y ffan mwyaf o'r syniadaeth arbennig hwnnw, a 'dw i'n cymryd mai dyma'r math o globaleiddio mae Sioni yn ei wrthwynebu.
Hon ydi'r broblem fwya ar y funud, dwi'n meddwl. Mae'r term "globaleiddio" wedi dod i olygu "cyfalafiaeth Americanaidd". Yn hytrach na cheisio gwrthwynebu "globeleiddio", mae angen llunio polisiau democrataidd-gymdeithasol fydd yn gwieithio ar lefel byd-eang.
Dylan a ddywedodd:Mae bod yn wrth-globaleiddio yn llwyr yn ffôl. Ond mae'r hyn sydd gennym ar y funud yn wallus uffernol, a mae sefyllfa'r trydydd byd yn waeth nag erioed.
Rwan mae hwn yn bwynt difyr. Ydi sefyllfa'r trydydd byd yn waeth nag erioed? Dwi wedi darllen sawl erthygl ar y ddwy ochr - yn mynnu fod globaleiddio wedi arwain at wella
a gwaethygu petha yn y trydydd byd. A gan nad ydw i'n economegydd academaidd, mae'n rhaid i fi gyfaddae nad ydw i wedi llwyddo i gael darlun clir yn fy mhen.
Yr unig beth dwi'n medru ei ddeud efo sicrwydd ydi fod y sefyllfa yn gymleth, ac ei bod hi'n or-syml deud fod "globaleiddio" ar ei ffurf presenol yn gwaethygu petha yn y trydydd byd.
Dylan a ddywedodd:Sut y datblygodd economiau gwledydd y gorllewin? Trwy gau eu marchnadoedd a pheidio caniatau cystadleuaeth o dramor. Unwaith 'roeddent wedi datblygu digon i allu dal eu tir yn y byd mawr, dyna ddechrau clodfori'r farchnad rydd. Mae'n anheg a rhagrithiol i beidio rhoi'r un cyfle i wledydd eraill er mwyn iddynt allu dal i fyny. Yn enwedig pan nad ydi'r sustem yn un deg beth bynnag. (tariffs ar gocoa o Ghana, a ballu)
Mae hon eto yn ddadl ddifyr. I ba raddau mae hi'n gall fod gwledydd sy'n datblygu yn cau eu marchnadoedd? Yn bersonol, dwi'n meddwl fod
protectionism yn arwain at broblemau yn y tymor hir, ac mai ceisio amddiffyn eu heconomi rhag mewnforio nwyddau o wledydd cyfagos y gwnaiff y gwledydd tlawd.
Ond, ar y funud, mae 'na frwydr llawer pwysicach sydd angen ei hymladd. Mae'n rhaid i ni gael y byd datblygiedig i ddiwygio eu marchnadoedd hwy cyn gofyn i'r byd sy'n datblygu wneud yr un fath. Unwaith y bydd hyn wedi ei gyflawni - y CAP a tariffs wedi eu diddymu, etc. - wedyn mi fedrwn ni droi at drafod
protectionism (oed 'na air Cymraeg?) yn y trydydd byd.