Bush yn Defnyddio Darluniau o 9/11 yn ei Hysbysebion

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bush yn Defnyddio Darluniau o 9/11 yn ei Hysbysebion

Postiogan Macsen » Llun 08 Maw 2004 2:24 am

Ydio'n iawn i Bush ddefnyddio llyniau o 9/11 yn ei hysbysebion? Ta ydio'n defnyddio y marw fel dull o ddal gafael ar ei job? :?

Steddwch lawr gyda ysgytlaeth oer wrth law a darllen hwn: [url=http://news.bbc.co.uk/2/hi/talking_point/3535703.stm]Was Bush right to use 9/11 images in ads?
[/url]
Nath hwn wneud i ysgytlaeth ddod mas o'm trwyn i:

Henry, Barrow a ddywedodd:No. Many people who lost their life in WTC were Democrat voters - using their death for Republican vote its a dirty trick.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan DAN JERUS » Llun 08 Maw 2004 10:12 am

Mmmm, dwi' cofio ar ol 9/11 y teimlad cyffredinnol yn yr amerig ar ol sbel, yn ol rhywbeth nes i wylio ar y newyddion oedd yr holl fusnes 'ma o symud mlaen.Doedd yr unaidydsdates ddim yn mynd i alaru am eiliad hiraf na'r angen gan eu bod a dinas a breuddwyd i ail-adeiladu etc. Od felly fod Bush yn dod ar darluniau yn ol adeg lecshiwn.Does gan Bush fuck all i wneud a'r modd nath pobl ymgymryd a 9/11 mewn gwirinoedd-pobl gyffredin gath eu lladd, pobl o pob rhan o'r byd ac o pob tras gwleidyddol.Ysbryd pobl gyffredin y wlad ydi'r unig beth dwi'n edmygu wrth wylio clips 'ma, ddim rhyw fwnci mewn siwt yn creu geiriau newydd sbon.Mae dangos y darluniau yn gwneud dim ond atgoffa pobl faint o ffwl mae Bush ai gronies wedi bod yn ystod y rhyfel, sydd yn counter-productive-ond peidiwch a dweud wrtho, siawns da neith o golli'r electiwn! :winc:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Evz » Llun 08 Maw 2004 10:40 am

Does dim hawl da Bush o gwbl i ddefnyddio'r delweddau echrydus yma er mwyn achub ei din ei hunan! Ma tystiolaeth wedi dod i'r amlwg mai efallai secret service America hedfanodd y ddwy awyren er mwyn dechrau rhyfel yn erbyn Irac. Mae Bush yn ofn y bydd y dyn sydd yn ei erbyn yn mynd i chwipio'i din, felly rhaid iddo achub ei "image" ac ni fyddai'n gwneud lles o gwbl iddo i ymddangos yn wan ar ol, gwneud yr holl pethau dewr allan yn Irac! (Sarcastig!)
T moin v gachu smarties??!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Evz
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 3:02 pm
Lleoliad: Drefach, Sir Gaerfyrddin

Postiogan Macsen » Llun 08 Maw 2004 2:28 pm

Evz a ddywedodd:Ma tystiolaeth wedi dod i'r amlwg mai efallai secret service America hedfanodd y ddwy awyren er mwyn dechrau rhyfel yn erbyn Irac.


Gobeithio roedd y brawddeg yma'n rhan o'r sarcasm, achos mi wnaeth o wneud i mi boeri allan ysgytlaeth dros y PC gyfan. Ti'n gwybod hefyd bod y Moon sets dal yn Area 51, lle cafon nhw ei adeiladu gan y Dyn ar y Grassy Knoll? :rolio:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Sioni Size » Llun 08 Maw 2004 4:41 pm

Macsen, mae unrhyw un sy'n ystyried nad ydi ein llywodraethau ni (yn wahanol i arabs a comis) yn dweud celwydd yn fwy o ffwl na neb.

If you believe they put a man on the moon.

Oes na rywun wirioneddol yn synnu fod Bush yn gwneud hyn? Mae'n arddangos cymdeithas wirioneddol sal- ddiwrnod ar ol 9/11 roedd t-shirts o'r gyflafan ar werth ar y strydoedd gerllaw, ac yn fwy arwyddocaol roeddent yn mynd fatha slecs.
Ac yn ol Garnet a'i deip, mae'n warthus cyhuddo Americanwyr o fod yn thic, er fod 60% yn dweud mai Saddam Hussein oedd wedi trefnu 9/11.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Chwadan » Llun 08 Maw 2004 6:13 pm

Ffynhonnell?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Macsen » Llun 08 Maw 2004 6:50 pm

Sioni Size a ddywedodd:Ac yn ol Garnet a'i deip, mae'n warthus cyhuddo Americanwyr o fod yn thic, er fod 60% yn dweud mai Saddam Hussein oedd wedi trefnu 9/11.


Anwybodaeth ydi hyn, dim 'thicrwydd'. A pwy all ei beio nhw, gyda safon y newyddion draw fan yna (ac yn gyflym iawn draw fan hyn)?

Sioni a ddywedodd:Macsen, mae unrhyw un sy'n ystyried nad ydi ein llywodraethau ni (yn wahanol i arabs a comis) yn dweud celwydd yn fwy o ffwl na neb.


Sioni, gwrs hanes bach i ti. 4 Oes Newyddiaduraeth yn y Wlad Yma:

1940 i 1963: The Age of Defence. Newyddiadurwyr yn brown drwynio y gwleidyddwyr.
1964 i 1979: The Age of Equal Engagement. Newyddiadurwyr yn barod i gwestiynnu gwleidyddwyr, a trafod a nhw.
1980au: The Age of Journalistic Disdain. Newyddiadurwyr yn teimlo fel 'tool' y gwleidyddwr. Be ydi dy ateb i fy nghwestiwn cyntaf? Oes gan unrhyw un gwestiynnau i fy atebion? Ayyb.
Nawr: The Age of Contempt. Newyddiadurwyr yn mynd am wddf gwleidyddwyr fel plentyn am ysgytlaeth melys. Mynd heibio scepticism a tuag at ridicule hollol.

Sioni, ti yw babi y Age of Contempt. Dwyt ti ddim yn gallu credu bod unrhyw dda o gwbwl mewn unrhyw wleiyddion. I ti, os mae conspiracy theory bod Bush wedi bod yn gyfrifol am 9/11 fel ei fod o'n cael ymosod ar Afganistan i roi peipiau olew lawr, mae'n debygol o fod yn wir. Nawr dwi'm yn dweud bod gwleidyddion y byd yn berffaith, ond mae ceisio dweud ei bod nhw'n bobl hollol ddrwg yn y galon sy'n gweithio i gachu ar pawb oddi tanynt yn ffol iawn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Sioni Size » Maw 09 Maw 2004 1:25 pm

Macsen a ddywedodd:Sioni, ti yw babi y Age of Contempt. Dwyt ti ddim yn gallu credu bod unrhyw dda o gwbwl mewn unrhyw wleiyddion. I ti, os mae conspiracy theory bod Bush wedi bod yn gyfrifol am 9/11 fel ei fod o'n cael ymosod ar Afganistan i roi peipiau olew lawr, mae'n debygol o fod yn wir. Nawr dwi'm yn dweud bod gwleidyddion y byd yn berffaith, ond mae ceisio dweud ei bod nhw'n bobl hollol ddrwg yn y galon sy'n gweithio i gachu ar pawb oddi tanynt yn ffol iawn.


Wel, mae o'n llawer mwy tebygol na mai Saddam Hussein oedd yn gyfrifol. Nid dweud yn blwmp ei fod yn wir yr ydwyf, dweud na ddylid diystyrru'r posibilrwydd fod elfennau o'r llywodraeth wedi gobeithio am ddigwyddiad mawr, y 'Pearl Harbour' newydd, er mwyn medru dechrau gydag arddeliad ar y Project For The New American Century dan glogyn rhywbeth arall megis 'War against Terror, neu 'War against Drugs' neu 'War for Democracy'.
Mae rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol fod gweithredau llywodraethau yn ddaionus a gwir fel mater o arfer, hyd nes caent eu profi'n anghywir (a dim hyd yn oed yr adeg hynny yn aml). Mae hynny'n ffordd naif iawn o feddwl, a ni fyddai dim byd yn cael ei ddarganfod gan y sceptics newyddiadurol sy'n hanfodol i wybodaeth agored - megis, Chomsky, Pilger, Monbiot - petai pawb yn teimlo'n saff a chyffyrddus yn nwylo ein llywodraethau gonest.
Mae'r 'age of contempt' yn codi oherwydd mai dirmyg mae'r bobl yma'n eu haeddu Macsen. Mae dirmyg at imperialaeth wedi bodoli lawer cyn Fietnam hyd yn oed.
Ta wyt ti'n credu mai conspiracy theory ydyw'r Project for the New American Century hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Macsen » Maw 09 Maw 2004 1:51 pm

Sioni Size a ddywedodd:Mae rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol fod gweithredau llywodraethau yn ddaionus a gwir fel mater o arfer, hyd nes caent eu profi'n anghywir (a dim hyd yn oed yr adeg hynny yn aml).


Ti'n siarad yn benaf am bobl Americanaidd? Mae pobl yn Prydain yn tueddu i beidio trystio ei gwleidyddwyr am fod y newyddiadurwyr dal yn yr Age of Contempt. Dwi'n credu bod newyddiaduraeth yn America yn mynd trwy oes arall erbyn hyn, oes rhu ddiweddar i gael ei astudio gan academics, ond a geith ei 'ddarganfod' cyn hir dwi'n siwr: The Age of the Carrot on a Stick. Mae'r newyddiadurwyr yn gorfod dweud pethau neis am y gwleidyddwyr neu tydi nhw ddim yn cael y gwybodaeth mae nhw angen i roi neges at ei gilydd. Tydi'r oes yma ddim yn wahanol iawn i'n Age of Journalistic Disdain ni, gyda Thatcher. Testun traethawd, efallai: 'I ba raddau Bush yw Thatcher America, yn nhermau Newyddiaduraeth?'
Beth bynnag, dwi'n meddwl bod yr Age of Contempt yma'n beryglus i wleidyddwyr yn y pendraw, am ei fod o'n atal lot o bobl 'da' rhag dod yn wleidyddywr yn y lle cyntaf, pam bo nhw'n gweld y lefel o gasineb mae pobl Prydain yn dangos tuag atynt. Bechod bod Boris wedi ei gadael ni; dwi'n siwr fysa fo a rywbeth diddorol iw ddweud am hyn.

Sioni Size a ddywedodd:Ta wyt ti'n credu mai conspiracy theory ydyw'r Project for the New American Century hefyd?


Na, mae'r 'project' yn realiti heddiw. Ond dwin meddwl bod lledu diwylliant Americanaidd a cwmniau americanaidd mewn i wledydd eraill mwy iw wneud a cwmniau mawr America eisiau mwy o bres na teimlad y bysai y gwledydd yma rywsut yn well off gyda'r diwylliant yna yn ei mysg.
Y New American Century dan glogyn y War on Terror? Boisb, ond mae y War on Terror i weld mwy i wneud a America yn cilio rhag weddill y byd na mae o am America yn estyn allan a breichiau mawr a rhoi hug mawr i ni gyd (tra yn gwthio cyllell finiog mewn i gefn ein diwylliant ni, wrth gwrs).
Cwestiwn diddorol ydi 'pa mor Americanised ydi America?'. Dwi'n siarad am yr American 'ideal sy'n ceisio cael ei ledu gan y New American Centure 'ma. Ffigwr diddorol yw bod 77% o americanwyr dan 18 ddim yn wyn. A bod globaleiddio India wedi dilyn i gymaint o ddiwylliant Indiaidd yn ymddangos yn America a mae o diwylliant Americanaidd yn ffeindio'i ffordd mewn i India.
Cwestiwn hollol ddim-dadleuol, jyst i weld dy farn di, Sioni: Os mae'r New American Century dan glogyn yw y War on Terror, wyt ti'n meddwl bod Tony Blair eisiau Americaneiddio y byd hefyd, ta ydi o wir yn credu ei bod nhw'n gwneud y peth iawn?
Sori, dwi di ramblo'n ddiddiwedd am unrhywbeth aeth trwy fy mhen i. Apologis. Dwi'n mynd i nol ysgytlaeth o'r ffrij i gael cwlio lawr fy menydd ryw dipyn.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Sioni Size » Mer 10 Maw 2004 2:45 pm

Oes yna lawer o wahaniaeth rhwng americaneiddio a Saesnigeiddio'r byd? Mae Blair yn sicir yn rhannu'r un ideoleg neo-liberal a'r americanwyr, ond a fyddai o'r un mor gefnogol i ymuno hefo Ffrainc er enghraifft yn eu rhyfeloedd pe bai Ffrainc yn gwthio'r agenda byd eang ymlaen? Ynteu a yw iaith yn y pendraw yn fwy o ffactor na mae pawb yn feddwl?

Mae beio newyddiaduraeth oherwydd y diffyg hygrededd sydd gan wleidyddion yn rhoi'r ceffyl o flaen y drol, yn wyneb i waered, yn trin y symptom nid yr afiechyd.
Does na neb heblaw ffyliaid o doris yn cwestiynu hygrededd Tony Benn, er enghraifft, tra mae ei fab Hilary yn enghraifft perffaith o'r pryfaid genwair twyllodrus gyrfa-obsesd sy'n rhemp yn San Steffan heddiw.
Mae'n gwestian da am Blair. Ydi o'n fwy naif na byddai rywun yn tybio ac yn coelio'n wirioneddol yn yr hyn mae'n ddweud, yntau a yw'n ham actor o'r radd flaenaf sy'n gwybod yn iawn be mae'n neud ond yn ceisio ymddangos yn neis.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai