Sioni Size a ddywedodd:Mae rhan fwyaf o bobl yn cymryd yn ganiataol fod gweithredau llywodraethau yn ddaionus a gwir fel mater o arfer, hyd nes caent eu profi'n anghywir (a dim hyd yn oed yr adeg hynny yn aml).
Ti'n siarad yn benaf am bobl Americanaidd? Mae pobl yn Prydain yn tueddu i beidio trystio ei gwleidyddwyr am fod y newyddiadurwyr dal yn yr
Age of Contempt. Dwi'n credu bod newyddiaduraeth yn America yn mynd trwy oes arall erbyn hyn, oes rhu ddiweddar i gael ei astudio gan academics, ond a geith ei 'ddarganfod' cyn hir dwi'n siwr:
The Age of the Carrot on a Stick. Mae'r newyddiadurwyr yn gorfod dweud pethau neis am y gwleidyddwyr neu tydi nhw ddim yn cael y gwybodaeth mae nhw angen i roi neges at ei gilydd. Tydi'r oes yma ddim yn wahanol iawn i'n
Age of Journalistic Disdain ni, gyda Thatcher. Testun traethawd, efallai: 'I ba raddau Bush yw Thatcher America, yn nhermau Newyddiaduraeth?'
Beth bynnag, dwi'n meddwl bod yr Age of Contempt yma'n beryglus i wleidyddwyr yn y pendraw, am ei fod o'n atal lot o bobl 'da' rhag dod yn wleidyddywr yn y lle cyntaf, pam bo nhw'n gweld y lefel o gasineb mae pobl Prydain yn dangos tuag atynt. Bechod bod Boris wedi ei gadael ni; dwi'n siwr fysa fo a rywbeth diddorol iw ddweud am hyn.
Sioni Size a ddywedodd:Ta wyt ti'n credu mai conspiracy theory ydyw'r Project for the New American Century hefyd?
Na, mae'r 'project' yn realiti heddiw. Ond dwin meddwl bod lledu diwylliant Americanaidd a cwmniau americanaidd mewn i wledydd eraill mwy iw wneud a cwmniau mawr America eisiau mwy o bres na teimlad y bysai y gwledydd yma rywsut yn well off gyda'r diwylliant yna yn ei mysg.
Y New American Century dan glogyn y War on Terror? Boisb, ond mae y War on Terror i weld mwy i wneud a America yn cilio rhag weddill y byd na mae o am America yn estyn allan a breichiau mawr a rhoi hug mawr i ni gyd (tra yn gwthio cyllell finiog mewn i gefn ein diwylliant ni, wrth gwrs).
Cwestiwn diddorol ydi 'pa mor Americanised ydi America?'. Dwi'n siarad am yr American 'ideal sy'n ceisio cael ei ledu gan y New American Centure 'ma. Ffigwr diddorol yw bod 77% o americanwyr dan 18 ddim yn wyn. A bod globaleiddio India wedi dilyn i gymaint o ddiwylliant Indiaidd yn ymddangos yn America a mae o diwylliant Americanaidd yn ffeindio'i ffordd mewn i India.
Cwestiwn hollol ddim-dadleuol, jyst i weld dy farn di, Sioni: Os mae'r New American Century dan glogyn yw y War on Terror, wyt ti'n meddwl bod Tony Blair eisiau Americaneiddio y byd hefyd, ta ydi o wir yn credu ei bod nhw'n gwneud y peth iawn?
Sori, dwi di ramblo'n ddiddiwedd am unrhywbeth aeth trwy fy mhen i. Apologis. Dwi'n mynd i nol ysgytlaeth o'r ffrij i gael cwlio lawr fy menydd ryw dipyn.