Tudalen 1 o 2

Venezuela

PostioPostiwyd: Sul 15 Awst 2004 8:50 pm
gan dave drych
Beth yw eich barn am y refferendwm ynglyn â arlywyddiaeth Hugo Chavez?

Be 'dach chi'n ei feddwl amdan y boi fel yr Arlywydd?

Dwi'n meddwl o be dwi'di ddarllen ei fod yn neud yn reit dda.

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 8:29 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Ymddengys fod y boi'n gwneud gwaith da o gadw trefn ar y wlad, cadw'r economi dan reolaeth, perthynas dda gyda'r undebau, gwrthod plygu i'r cwmniau olew dieflig... dim ryfedd bod America'n ceisio tanseilio ei arlywyddiaeth a chael gwared arno fe.

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 10:24 am
gan Sioni Size
Mae na lot fawr iawn o adnoddau yn cael eu darparu gan America er mwyn pardduo Chavez a chynorthwyo ei elynion asgell dde yn y wlad i ddisodli arweiniwr democrataidd. Hefyd mae propaganda 'balanced' yn cael ei daenu yn newyddion prydain yn nodi fod venezuela'n shambls dan Chavez, fod yr economi ar ei lawr ayyb. Mae'r economi ar 'ei lawr' oherwydd nad ydi cwmniau America a Lloegr yn cael gwneud eu helwau anferth yn y wlad ar draul y boblogaeth.

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 10:27 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Sioni Size a ddywedodd:Hefyd mae propaganda 'balanced' yn cael ei daenu yn newyddion prydain yn nodi fod venezuela'n shambls dan Chavez, fod yr economi ar ei lawr ayyb.


Enghraifft berffaith: Newyddion y BBC y bore 'ma.

"His opponents called for the referendum because of the shambles they believe Chavez is making of the economy."

Y ddadl i wrthbwyso hyn... (tawelwch llethol)

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 3:44 pm
gan dave drych
Mae'n ymddengos bod adroddiadau cynnar yn rhoi buddugoliaeth i Chavez. (Neu dylwn ni ei alw'n Hugo yn unig, achos os dydi gwlad ni ddim yn hoff o rywun yr enw cyntaf sydd cael ei ddefnyddio'n unig?). Mae o wedi derbyn tua 60% o'r bleidlais

Reit da 'wan. Siwr bod yr hen Dic Cheney wedi llyncu mûl!

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 3:49 pm
gan Sioni Size
Dylai pawb sy'n cefnogi rhyddid alw am refferendwm arall wythnos nesa i geisio darbwyllo y Fenesweliad dwl i sylweddoli fod y byd modern yn anochel a'u bod yn atal progress.

PostioPostiwyd: Llun 16 Awst 2004 8:22 pm
gan Rhys
Diolch i chi gyd am y geiriau caredig

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 8:41 am
gan Madrwyddygryf
Roedd y newyddiadurwr ar Today Radio 4 yn siarad gyda rhai o'i wrthwynebwyr. Beth oedd yn syfrdannu fi oedd bod gyd ohonynt yn siarad saesneg perfaith ac acen americannaidd.

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 8:45 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Madrwyddygryf a ddywedodd:Roedd y newyddiadurwr ar Today Radio 4 yn siarad gyda rhai o'i wrthwynebwyr. Beth oedd yn syfrdannu fi oedd bod gyd ohonynt yn siarad saesneg perfaith ac acen americannaidd.


I gyd wedi'u hyfforddi yn Ysgol America Ladin falle? :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 17 Awst 2004 11:35 am
gan Sioni Size
Dwi di bod yn conffiwsd am dy eiriau ers oes, Rhys - y llun wrth gwrs, y llun. Craidd-caled.

A wele yma.
http://www.vheadline.com/readnews.asp?id=22356
Asu mai'n heddychlon ar yr edefyn hwn. Mae'r linc uchod yn ddarn arall o brawf i ddangos mai bastard yw'r Unol Daleithiau.