Tudalen 2 o 2

Re: Venezuela

PostioPostiwyd: Iau 07 Maw 2013 5:08 pm
gan Sioni Size
Dwi ddim am ymuno fo Twitter

Seimon Brooks yn siarad drw'i din eto am Hugo Chavez ar Twitter. "Enghraifft anffodus arall fod sosialaeth bob tro yn dibennu mewn unbennaeth". Ga'i adael i rywun arall sortio hyn caf? Clasuron grand eraill o fyd y bwlshit fel "Pe bai Sosialaeth o unrhyw werth fel ideoleg, byddai hi'n gwrthwynebu gwladychiaeth yn ein gwlad ni. Ond dydi hi ddim"... a "Mae gwrthwladychiaeth di tueddu mabwysiadu ideoleg gwrthwynebol i un y grym trefedigaethol." Waw.

Efallai fydda fo'n hoffi esbonio yma sut mae etholiadau yna mewn 29 diwrnod os mai unbenniaeth ydi'r drefn. A sut mae pob un o'r cyfrngau preifat sy'n cael eu rheoli gan y lleiafrif gwyn yn cael llonydd yn yr unbenniaeth shit ma i fod yn hollol yn ei erbyn ers 12 mlynedd. Yn ol y son ma'i agwedd o at y cyfryngau rhydd yn ofnadwy ac yn profi ei unbeniaeth. Gawn ni restr, neu un hyd yn oed, o'r gorsafoedd neu bapur yma?