Scots

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Treforian » Iau 23 Rhag 2004 11:44 am

Mae yna awdl ddifyr iawn mewn scots yma

Er 'mod i yn medru sarad peth saesneg, maehi'n hollol annealladwy i mi! :ofn: :?
All rhywun gynnig cyfieithiad? :winc:
Treforian
 

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 23 Rhag 2004 2:19 pm

Dw i ddim wedi f'argyhoeddi am Scots o gwbl. Yn bersonol dw i wirioneddol yn meddwl mai jyst rhywbeth eitha ffals ydi hi er mwyn i'r Albanwyr cael gwahaniaethu eu hunain rhag y Saeson; mae hynny'n iawn, rydym ni'r Cymry'n gwneud hynny o hyd OND y gwir amdani ydi dim ond rhyw Saesneg wedi'i hagruo er mwyn ei hagruo ydi Scots.

Beth ydi ei hanes? Wedi i'r Aeleg gilio (mae hi wedi bod yn iaith y lleiafrif yn yr Alban ers 500 mlynedd), Saesnaeg cymrodd ei lle, sydd wedi hanner datblygu fewn i Scots.

Dydi'r Alban ddim angen 'creu' ei hiaith ei hun; mae ganddi un a Gaeleg yw'r enw ar honno.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cardi Bach » Iau 23 Rhag 2004 2:32 pm

Er tegwch dyw Gaeleg erioed wedi bod yn iaith i'r Alban gyfan.
Mae hi wedi ei chyfyngu erioed i ardal y Gogledd Orllewin ac ambell ardal arall.
Cofia mai Brythoniaid oedd yn byw yn Ne'r Alban ar un adeg ac mae Brythoneg oedd yr iaith yno.
Pictiaid oedd yn byw yn ardal y Canolbarth-Gorllewin.
Mae posib i genedl gael mwy nag un iaith.
"The Dragon has two tongues" - Gwyn Alff.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan sanddef » Iau 23 Rhag 2004 4:21 pm

Cronicl ieithoedd yr Alban:

1A.Picteg* yn y Gogledd
B.Brythoneg yn y De
*nid oes prawf (hyd y gwn i) mai iaith geltaidd oedd.efallai oedd o darddiad Basg.

2A.Picteg yn y Gogledd
B.Hen Wyddeleg yn y Gorllewin (Gwladychfa y Dalriada o Ulster;roedd y Rhufeiniaid yn eu galw scotii)
C.Brythoneg yn y De-Orllewin
D.Eingl-Saesneg yn y De-Ddwyrain.

3A.Gaeleg (>Hen Wyddeleg) yn y Gogledd,y Gorllewin,a'r De-Orllewin (Gaeleg yn iaith swyddogol am dro ar yr Alban gyfan)
B.Eingl-Saesneg (<Scots) yn y De-Ddwyrain
C.Hen Norseg yn ynysoedd yr Hebrides (wedyn ymunodd a diwylliant ac iaith yr Aeleg).
D.Hen Norseg ar ynysoedd yr Eirch a'r Shetland

4A.Ffrangeg yn y llys
B.Gaeleg yn yr Ucheldiroedd
C.Scots yn y De a'r Dwyrain
D.Norneg (>Hen Norseg) ar ynysoedd Eirch a Shetland.(Roeddynt yn rhan o Deyrnas Denmarc)

5A.Scots yn iaith swyddogol
B.Gaeleg yn yr Ucheldiroedd
C.Norneg ar ynysoedd y Gogledd

6.Saesneg yn iaith swyddogol,Scots yn cael ei gwawdio a'i diystyru,Yr Aeleg a'i diwylliant dan ymosodiad,Y Norneg yn troi'n dafodiaith...

7.Y sefyllfa fel y mae heddiw


4A.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan nicdafis » Iau 23 Rhag 2004 5:00 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i ddim wedi f'argyhoeddi am Scots o gwbl. Yn bersonol dw i wirioneddol yn meddwl mai jyst rhywbeth eitha ffals ydi hi er mwyn i'r Albanwyr cael gwahaniaethu eu hunain rhag y Saeson; mae hynny'n iawn, rydym ni'r Cymry'n gwneud hynny o hyd OND y gwir amdani ydi dim ond rhyw Saesneg wedi'i hagruo er mwyn ei hagruo ydi Scots.


'Sai rhywun yn dweud rhywbeth fel hyn am y Gymraeg byddi di am losgi ei dy i lawr! "They're just making it up - they can all speak English really!"

Aeth plant yr Alban trwy yn union yr un profiad a dy hen deidiau di, cael eu gorfodi siarad "Saesneg go iawn", ond yn wahanol i Gymru, dydy'r sefyllfa ddim wedi gwella lot yn yr Alban. Mae siaradwyr Albaneg dal yn wynebu yr un fath o ragfarn ag mae Cymry yn hen gyfarwydd â fe, ond dydyn nhw ddim wedi ennill yr ucherderau moesol eto, fel dyn ni wedi i ryw raddau, felly mae'n dal yn iawn i ddisgrifio Albaneg fel "Saesneg wedi'i hagruo", hyd yn oed yn yr Alban.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 23 Rhag 2004 7:32 pm

Y problem 'sgen i efo hwnnw ydi dydi Scots ddim yn hollol annhebyg i Saesnaeg, yn y ffordd y mae ieithoedd fel Cymraeg, Gaeleg neu Chernyweg. Mae o'n ymdebygy i dafodiaith o Saesneg na iaith hollol arwahan. Mae o fel Americanwyr yn troi dweud eu bod nhw'n siarad Americaneg yn hytrach na Saesneg (er fod Scots efo mwy o hawl i gael y tag o fod yn iaith wahanol nag Americaneg). 'Run peth a dweud bod y Cymry di-Gymraeg yn siarad iaith nad Saesneg mohoni ('Wenglish'). Dydi o'm yn iaith wahanol, eithr tafodiaith.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan S.W. » Sad 25 Rhag 2004 5:57 pm

I fod yn deg Horach roeddwn in meddwl yr un peth ond pan ti'n mynd i fyny i'r Alban ac yn gweld sefyllfa'r iaith Scots ar y ddaear ti'n fuan yn cael dy srgyhoeddi y ffordd arall! Mae'n wendid gan y iaith Aeleg nad yw hi erioed wedi bod yn iaith dros yr Alban i gyd, a dwin credu'n gryf bod y iaith Scots bellach yn iaith yn hytrach nag tafodiaith ar y rhannau deheuol a dwyreiniol o'r Alban. Edrycha ar rhai darnau lenyddol o'r iaith - maent yn hynnod anodd iw deallt hyd yn oed i pobl sydd yn medru'r iaith yn rhugl. Mae'r ffaith ei fod hefo geiriau tebyg i'r iaith Saesneg yn golygu dim - ydy'r Gymraeg yn iaith ynte tafodiaith Celtaidd? Ydy Saesneg yn iaith ynte tafodiaith Almaneg?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Cawslyd » Sul 26 Rhag 2004 4:01 pm

Ydi'r iaith yma yn cael ei dysgu yn yr ysgolion?
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan S.W. » Sul 26 Rhag 2004 4:07 pm

Cawslyd a ddywedodd:Ydi'r iaith yma yn cael ei dysgu yn yr ysgolion?


Dwin amau ei fod o. Dydy'r Alban erioed wedi bod yn dda iawn am hybu ieithoedd eraill yn yr ysgolion oni bai am Saesneg, maen gwella gyda'r Gaeleg ond mae llawer o pobl yn rhannu'r un barn a Horach mae iaith ffug yw'r iaith Scots.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 26 Rhag 2004 7:08 pm

Nid iaith ffug, eithr tafodiaith ond rwyt ti ac ambell i un arall yma wedi newid fy marn i rhywfaint arni (a fedrwn i ddim hawlio fod dw i'n gwybod digon i fedru cynnal dadl da arni).

Beth ydi hanes Scots, bethbynnag, wyt ti'n gwybod rhywfaint ohoni? Fyddwn i'n hoffi cael dysgu mwy amdani.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai