Scots

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan nicdafis » Llun 27 Rhag 2004 10:21 am

Dw i wedi blogo am hyn sawl gwaith yn y gorffennol, a fel dwedais i o'r balen mae sefyllfa yr iaith Albaneg yn yr ysgolion yr un mor bregus ag oedd sefyllfa yr iaith Gymraeg ers talwm.

Canolfan Adnoddau yr Iaith Albaneg.

Geiriadur ar-lein.

Cymdeithas yr Iaith Albaneg.

Albaneg yn Senedd yr Alban.

Falle nad oes byddin 'da'r iaith Albaneg, ond os ydy'r bobl sy'n ei siarad yn dweud taw iaith yw hi, wedyn iaith yw hi. (Yn enwedig os ydy ieithyddwyr hanesyddol y byd yn cytuno a nhw.)

Hefyd o ddiddordeb: trafodaeth diweddar ar languagehat.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan S.W. » Llun 27 Rhag 2004 11:01 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Nid iaith ffug, eithr tafodiaith ond rwyt ti ac ambell i un arall yma wedi newid fy marn i rhywfaint arni (a fedrwn i ddim hawlio fod dw i'n gwybod digon i fedru cynnal dadl da arni).

Beth ydi hanes Scots, bethbynnag, wyt ti'n gwybod rhywfaint ohoni? Fyddwn i'n hoffi cael dysgu mwy amdani.

Digon teg Horach ymddiheuriadau am gamddeallt rhywfaint ar be oeddet ti'n ei ddweud. Na dydw i methu ei siarad.I'r Ucheldiroedd y Gorllewin dwin mynd sef ardal traddodiadol Gaeleg ac yn ceisio dysgu'r iaith honno ond wedi dysgu rhywfaint am helyntion yr iaith trwy teulu fy nghariad.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan 7ennyn » Sad 02 Medi 2006 1:23 am

Tafodiaith ydi Sgots. Mae'r rhan fwyaf o lenyddiaeth 'Sgots' wedi cael eu sgwenu mewn oes pan nad oedd gan yr iaith Saesneg system sillafu safonol. Roedd pobl yr oes honno yn gorfod addasu y system sillafu Lladin clasurol ar gyfer eu hiaith cynhenid eu hunain.

Ond mae rhai pobl wedi camddehongli ymdrech pobl iseldir yr Alban yn y bymthegfed ganrif i fynegi eu hiaith mewn ysgrifen fel tystiolaeth bod Sgots yn iaith arwahan.

Ond pan ymddangosodd tafodiaith y Geordie yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn y bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg, roedd y Saesneg wedi hen ddatblygu system sillafu safonol. O ganlyniad roedd unrhyw lenor Geordie yn sgwennu mewn Saesneg 'safonol' - ac felly ddim yn sgwennu mewn Geordie. Yn fy marn i, does gan Sgots ddim mwy o hawl ar y statws o 'iaith' na sydd gan Geordie.

Ond i fod yn siriys hefyd, mae cydnabod 'Sgots' fel iaith arwahan yn fygythiad i ieithoedd bychain 'go iawn' fel yr Aeleg a'r Gymraeg. Yr unig beth sydd yn rhaid i Albanwyr (sydd a chywilydd eu bod yn siarad iaith eu concwerwyr) wneud ydi cryfhau eu hacen a dysgu llond dwrn o eiriau newydd a, hei presto, mae nhw'n siarad Sgots. Mae hynny'n arbed punnoedd ar flynyddoedd o ddosbarthiadau nos Gaeleg.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan 7ennyn » Sad 02 Medi 2006 1:35 am

Byddwch yn onest! Oes yna unrhyw un ohonoch na fedar ddallt r'un gair o'r canlynol?
Sgots a ddywedodd:Wales is a kintra in north-wast Europe. It is ane o the sax Celtic kintras (alang wi Cornwall, Brittany, Ireland, Scotland and the Isle o Man) an ane o the fower muckle pairts o the Unitit Kinrick. The laund is in the sooth-wast o Graet Breetain an haes til its aest the laund o Ingland, an is bund bi sea on its ither sides.

The laund o Wales wis taen ower bi Ingland in the 13t century an makkit part o the Kinrick o Ingland bi the Act o Union 1536. In 1997 the Welsh fowk voted tae hae a new pairlament, which wis estaiblisht in 1999 an haes the pouer to govern the laund o Wales on hits ain maiters only.

The Welsh leid (Cymraeg) is ane o the Brythonic brainch o the Celtic leids an is sib til Cornish an Breton. It is spak by aroun 20% o the fowk o Wales.

Saesneg ydi o, wedi ei sillafu yn wahanol!

Ac i unrhywun sydd yn honni mai tafodiaith o'r Gymraeg ydi'r Gernyweg, cyfieithwch hwn:
Cernyweg a ddywedodd:Kembra yw unn a'n powyow a'n Rywvaneth Unys. Pow Sows yw y gentrevek unnik, mes yn ogas yma Ynys Iwerdhon, Kernow, an Alban, hag Ynys Manow (powyow keltek erell) a-dreus Mor Iwerdhon, an Mor Keltek, po Mor Havren.

Kembra yw konna-tir menydhek yn Howlsedhes Breten Veur. Glow hag owr o poesek yn erbysieth Pow Kembra seulajydh, mes yma an balyow ow nagha a-dhia an blydhynyow 1970.

Hanow usys lieskweyth rag an pow yw Prynseth Kembra (Tywysogaeth Cymru yn Kembrek, Principality of Wales yn Sowsnek), mes nyns eus gans Pryns Kembra gweythres marnas arwoedhek yn governans an pow.

Yma omrewl finwedhys dhe'n pow a-dhia 1999, pan omguntellas Kuntelles Kenedhlek Kembra yn Kardydh wostalleth.

Abertawe ha Kasnowydh yw an trevow chyf wosa an bennsita. Trevek ha diwysyansek yw glynnow Deghow Kembra, mes nyns eus poblans meur yn menydhyow Kres ha Gogledh Kembra.

An Normanyon a dryghas Kembra dre nebes tonnow, ha'n diwettha yn 1282. Rebellyans Owain Glyndŵr a-dhia 1400 bys 1409 a dhaswrug prynseth anserghek dres termyn. Yn 1536, Kembra a dheuth ha bos rann a Rywvaneth Pow Sows.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 02 Medi 2006 11:22 am

Fel wedodd Nic gynt yn edefyn 'ma, os ydy nifer o siaradwyr unrhyw iaith/tafodiaith yn ystyried bod nhw'n siarad iaith ar wahan, felly iaith ydy e. A well byth os yw arbennigwyr academaidd yn cytuno.
Ma'r sefyllfa Scots yn eitha tebyg i'r ieithoedd Scandinafia yn fy mharn i. Ma nhw gyd wedi datblygu o'r hen Almaeneg-Gogleddol, ac yn eitha tebyg, ond ieithoedd yw nhw gyd.
Hefyd, fi'n siwr os oedd darn am Gymru yn y iaith Ffriseg, bydde'n edrych yn eitha debyg i'r Scots a Saesneg. Wrth gwrs, bydd e dim mor daealladwy, oherwydd y wahanol dylanwadau ieithyddol - yr Almaeneg a'r Holandeg (beth yw iaith yr Iseldiroedd yn Gymraeg?) ar Ffriseg, Gaeleg ar Scots, a Ffraneg, Groeg, Lladin a popeth arall ar Saesneg. Ond bydd y gwreddiau yn tebyg iawn.
O rhan y pwynt ma'r iaith Scots yn bythygiad i Gaeleg - y problem yw ma Gaeleg erioed di bod iaith yr Alban cyfan, hollol wahanol i ni yma wrth gwrs.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Horwth ap Ffrwchnedd » Sad 02 Medi 2006 2:59 pm

Cofiwch hefyd am Ulster-Scotch [Sgoteg Ulster]!

Tha Noarth-Sooth Boord ò Leid is cum aboot frae tha Bilfawst Greeance as yin o tha Noarth-Sooth boords. Tha Boord o Leid taks in twa faictòries, Tha Boord o Ulstèr-Scotch an Tha Boord o Gaelick (Foras na Gaeilge). Ilka yin o thir twa faictòries haes its ain boord quhilk thegither maks tha Noarth-Sooth Boord o Leid. The preses o ilka Boord is baith Claucht-Preses o tha Boord o Leid.

Am ragor, gan gynnwys cyfle i glywed yr iaith gw. http://www.ulsterscotsagency.com/home.asp
Ydw i'n bovvered tho?

Rhithffurf defnyddiwr
Horwth ap Ffrwchnedd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 138
Ymunwyd: Sul 16 Gor 2006 9:46 am

Postiogan Geraint » Maw 05 Medi 2006 11:47 am

Pan o ni'n grwt ifanc, ges i fel anrheg o ffrindiau yn yr Alban, annual o gomic a sgrifennwyd yn Scots, sef Oor Wullie. Yr unig beth cofiaf yw ei fod yn hoff iawn o 'fitba'.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan HBK25 » Maw 05 Medi 2006 11:55 am

Dwi'm yn cyd weld a'r rhai sy'n dweud mai iaith arwahan i;r Saesneg yw Scots. Mae'n edrych fel sillafiadau ffonetig o'r ffordd mae'r Albanwyr yn siarad Saesneg.

Dydi'r peth jest ddim yn ddigon gwhanol i Saesneg i ddweud mai iaith gwhanol ydi o.
Rhithffurf defnyddiwr
HBK25
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1876
Ymunwyd: Llun 18 Ebr 2005 2:42 am

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Maw 05 Medi 2006 12:24 pm

HBK25 a ddywedodd:Dydi'r peth jest ddim yn ddigon gwhanol i Saesneg i ddweud mai iaith gwhanol ydi o.

Ond ydy Catalaneg a Sbaeneg yn edrych ddigon gwahanol i cyfri fel ieithoedd wahanol?
Co rhein:
Catalaneg a ddywedodd:Gal·les (en gal·lès Cymru, en anglès Wales) és una de les nacions que conformen el Regne Unit. Està situat a l'oest de l'illa de Gran Bretanya i té una població total de 3,1 milions de persones.

Sbaeneg a ddywedodd:El País de Gales (en inglés: Wales; en galés: Cymru) es una de las naciones que conforman el Reino Unido. Se ubica al oeste de la isla de Gran Bretaña y tiene una población total de 3,1 millones de personas

Dim mor wahanol i ni, dw e, ond trial gweitho unrhyw catalan bod nhw'n siarad tafodiaith o Sbaeneg. A Occitaneg o Ffrangeg 'fyd. Gyd ieithoedd o gwreiddiau Rhufeineg, fel Scots a Saesneg o Eingl-Sacsonaidd.
Oce fydd y dadl dim mor gruf da rhywun o'r Alban - fydde nhw'n tueddol o derbyn bod Scots yn debyg i Saesneg mewn rhai ffyrdd. Ond be dwi'n ceisio ddangos yw smo'r wahanieithau rhwng ieithoedd gorfod bod yn gwbl glir i bobol astyried nhw fel ieithoedd ar wahan.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan sanddef » Mer 06 Medi 2006 2:36 pm

HBK25 a ddywedodd:Dwi'm yn cyd weld a'r rhai sy'n dweud mai iaith arwahan i;r Saesneg yw Scots. Mae'n edrych fel sillafiadau ffonetig o'r ffordd mae'r Albanwyr yn siarad Saesneg.

Dydi'r peth jest ddim yn ddigon gwhanol i Saesneg i ddweud mai iaith gwhanol ydi o.

Gallwn hefyd honni nad ydy'r Saesneg yn ddigon gwahanol o'r Scots i alw ei hun yn iaith! Dydy diffyg dealltwriaeth ddim yr unig peth sy'n gwahanu ieithoedd! Siwr, gallwn ni ddeall y rhan fwyaf o Scots ar bapur, ac o leia cymaint a 50% ar lafar, ond dydan ni ddim yn gallu ei siarad. Am yr un rheswm mae ieithoedd Slafig yn cael eu gwahanu, ac (fel dan ni eisoes wedi pwyntio allan yn yr edefyn yma) am acenau hefyd mae ieithoedd y Llychlyn yn cael eu categorio fel ieithoedd yn lle iaith.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron