Dwi'm yn cyd weld a'r rhai sy'n dweud mai iaith arwahan i;r Saesneg yw Scots. Mae'n edrych fel sillafiadau ffonetig o'r ffordd mae'r Albanwyr yn siarad Saesneg.
Cofiwch bod rhai pobl yn disgrifio Fflemeg fel iaith wahanol, er fod o'n swnio jest fel Iseldireg 'da acen od. Mae 'na hyd yn oed Ffrancwyr sy'n credu taw tafodiaith ydy Llydaweg, dim ond rhyw fath o Ffrangeg (!!!), felly dwedwn i fod 'na gwahaniaeth sketchy iawn rhwng "iaith" a "tafodiaith" yn rhai gwledydd. Dwi newydd wrando ar gan fach yn Scots heddiw a deallais i tua 2/10 gair pan roedd o'n canu'n gyflym), dwi'n gallu deall mwy o Walwneg (
http://en.wikipedia.org/wiki/Walloon_language) diolch i fy Ffrangeg, ond iaith wahanol o Ffrangeg ydy hi.
Jest fel enghraifft, dyma syniad ddiddorol. Mae Scots yn ogystal â Saesneg fodern yn dod o Saesneg Ganol, ar ôl fy llyfrau o leiaf. Mae Gaeleg yr Alban yn ogystal â Manaweg yn dod o Hen Wyddeleg (tua mor hen 'na Saesneg Ganol). Yn achos Manaweg/Gaeleg, fel Scots/English, mae'r ddwy iaith yn debyg (eng:
Ta mee cloie ball-coshey er yn raad (Man)/tha mi a'cliuch ball-coise air an rathad (Ga) = dwi'n chwarae pel-droed ar y stryd), mae'r ddwy iaith wedi cael eu creu mewn yr un ffordd oddi wrth un iaith, ond sut bynnag ieithoedd
wahanol ydyn nhw. Od.
Dwi dal yn meddwl mai 'cop out' ydi'r 'iaith' Sgots i Albanwyr sydd yn despret am unrhywbeth i'w gwahaniaethu oddiwrth eu cymdogion i'r de. Saeson mewn cilts ydyn nhw.
Dwi'n cytuno yn hollol am bwys ddiwylliannol yr iaith i ddeud y gwir. Cop-out mawr ydy hi, i bobl sydd eisiau bob yn Albanaidd iawn heb siarad Gaeleg, ond sut bynnag, iaith ydy hi hefyd. Ac o leiaf maen nhw'n llai Saeson 'na'r "Albanwyr" sy'n siarad dim ond Saesneg yn y lle cyntaf.