Scots

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Scots

Postiogan Cardi Bach » Mer 22 Rhag 2004 11:26 am

Mae cyfaill yn gwaith wedi dod a hwn i'n sylw i.

Ar wefan Senedd yr Alban mae e, ac ma'r dudalen mewn amryw o ieithoedd - Saesneg, Gaeleg, a beth mae'n nhw'n alw'n 'Scots'.

Mae'n darllen fel tafodiaeth, ond mae Senedd yr Alban yn cyfeirio ato fel iaith.

O'n i'n ymwybodol fod yna iaith arall, sy'n tarddu o ieithoedd Scandinafia, yna dal i gael ei siarad gan ychydig yn yr Alban - ai hon yw e falle?

Beth y'ch chi'n feddwl?

Difyr de :)
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan S.W. » Mer 22 Rhag 2004 11:50 am

Maen sefyllfa ryfedd gyda'r iaith 'Scots'. Mae na gryn ffraeo wedi bod yn y wasg ynglyn a'r iaith - rhai yn dadlau nad yw hi'n iaith go iawn ond yn dafodiaith Saesneg, ond eraill yn dadlau ei fod yn iaith arwahan. Dwim yn meddwl bod modd profi'n iawn un ffordd neu'r llall. Mae'r iaith maen debyg yn fwy poblogaidd ar arfordir Dwyreiniol yr Alban (sydd yn gallu cysylltu'r ffactor Scandinafeg ti'n cyfeirio ato) rownd ardal Perth ayyb.

Mi roedd nain fy nghariad yn ei siarad fel 'iaith' gyntaf ond pan symudodd hi i Orllewin yr Alban bu'n rhaid iddi rhoi'r gorau iw siarad.

Os byddai'r mudiadau Gaeleg a Scots yn cydweithio yn hytrach nag ffraeo byddai'r ddau iaith mewn sefyllfa llawer cryfach.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan sanddef » Mer 22 Rhag 2004 12:08 pm

Nid yw Scots,a elwir hefyd Braid Scots (Broad Scots) yn tarddu o ieithoedd y Llychlyn (Scandinavia).
Mae'n tarddu,yn union fel y Saesneg,o iaith yr Eingl a'r Saeson (yn yr achos yma,yr ydym yn siarad am Eingl-Saeson a orestyngodd wlad y Gododdin,sef Lothian a hefyd yr ardal rhwng Lothian a Berwick ar lannau Mor y Gogledd),ac wedi cael wedyn dylanwadau oddi wrth y Normaniaid (Gwnaeth llawer o Normaniaid ymsefydlu yn Ne-Ddwyrain yr Alban-sef yr ardal Eingl-Seisnig.Yn wir mae'r teulu enwog De Bruce yn Normaniaid).
Datblygiad a ddigwyddodd yn gyfan gwbl tu mewn i'r Alban ydy'r iaith Scots,am y rheswm hwn y mae'n cael ei dosbarthu fel iaith ac nid fel tafodiaith.
Ychydig sydd yn ei siarad? Na,Cardi Bach,Mae mwyafrif pobl y Lallans (lowlands,ond hefyd enw arall ar yr iaith) yn ei siarad i raddau,er nad ydy pawb ohonynt yn gwybod hynny!
Scots ydy iaith Robert Burns.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Cardi Bach » Mer 22 Rhag 2004 12:54 pm

Jiawl - diddorol.
Diolch i'r ddau ohonoch chi :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Mr Gasyth » Mer 22 Rhag 2004 1:12 pm

Ddos i ar dwas hwnne ychydig yn ol, ac a phob parch i'r Sgots a'u iaith on i'n meddwl fod o'n swnio fel Albanwr meddw yn siarad Saesneg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan nicdafis » Mer 22 Rhag 2004 1:25 pm

Iaith yw hi, oni bai dy fod di'n meddwl taw tafodiaith yw Cernyweg a Llydaweg ;-)

Mae'n bosib darllen pethau fel <a href="http://www.yfinnie.demon.co.uk/contents4/thistle1.html">A Drunk Man Looks at the Thistle</a> heb ddefnyddio crib, ond prin iawn byddi di'n deall llawer ohoni:

Hugh MacDiarmid a ddywedodd:I amma fou sae muckle as tired deid dune
It's gey and hard wark coupin gless for gless
Wi Cruvie and Gilsanquar and the like,
And I'm no juist as bauld as aince I wes.


The elbuck fankles in the coorse o time,
The sheckle's no sae souple, and the thrapple
Grows deef and dour: nae langer up and doun
Gleg as a squirrel speils the Adam's apple.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sanddef » Mer 22 Rhag 2004 3:09 pm

Mae dosbarthu Scots yn iaith yn lle tafodiaith y Saesneg yn gyffelyb i sefyllfa ieithyddol y Llychlyn,lle nad oes fawr o wahaniaeth rhwng Svensk (Swedeg),Norsk (Norwyef),a Dansk (Daneg),yn enwedig rhwng Norsk a Dansk (gellir gweld Vigo Mortensen yn siarad Daneg i ffans Lord of the rings yn Oslo,Norwy,ar Appendix 2 o Return of the king special addition,heb angen cyfieithydd).

Sefyllfa arall ydy'r un yn Iwgoslafia,ond un hollol wleidyddol,sydd yn dosbarthu'r Groateg a'r Serbeg yn ieithoedd ar wahan,er mai Serbo-Croateg ydynt ill dwy!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Mr Gasyth » Mer 22 Rhag 2004 3:23 pm

sanddef rhyferys a ddywedodd:Mae dosbarthu Scots yn iaith yn lle tafodiaith y Saesneg yn gyffelyb i sefyllfa ieithyddol y Llychlyn,lle nad oes fawr o wahaniaeth rhwng Svensk (Swedeg),Norsk (Norwyef),a Dansk (Daneg),yn enwedig rhwng Norsk a Dansk (gellir gweld Vigo Mortensen yn siarad Daneg i ffans Lord of the rings yn Oslo,Norwy,ar Appendix 2 o Return of the king special addition,heb angen cyfieithydd).

Sefyllfa arall ydy'r un yn Iwgoslafia,ond un hollol wleidyddol,sydd yn dosbarthu'r Groateg a'r Serbeg yn ieithoedd ar wahan,er mai Serbo-Croateg ydynt ill dwy!


Wel mae yna wahaniaeth rhwng Serbeg a Chroateg yn fod un yn defnyddio'r wyddor Rufeinaidd a'r llall y Cyrileg. Ond ar lafer, ie, yr un ydi'r ddwy.

Dewis gwleidyddol yn aml iawn ydi os mai iaith neu tafodiaeth y gelwir rhywbeth. mae Fflemeg yn 'iaith' er mai ychydig o wahaniaeth sydd rhyngddi a'r Iseldireg. Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y ddwy iaith hon a'r Almeneg a siaredir dros y ffin, ond fe'u hystyrir yn ieithoedd gwahanol. Ond wedyn ystyrir Almaeneg yn un iaith er ei bod yn amrywio'n fawr o un pen y wlad i'r llall, am y rheswm gwleidyddol mai un gwlad ydyw.

Petai Cymru, LLydaw a Chernyw wedi bod yn un gwlad, efallai mai un iaith yr ystyrid y 'Frythoneg' o hyd. A petai Cymru wedi'w rhannu yn ddwy yn wleidyddol, mae'n digon posib yr ystyrid y tafodieithoedd yn ieithoedd ar wahan.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Emrys Weil » Mer 22 Rhag 2004 9:30 pm

Mae yna broblem o hyd efo continwwm ieithyddol o geisio cael cytundeba r beth sy'n gwneud iaith wahanol. Yn aml, fel y dywed Sanddef, gwleidyddiaeth sy'n bwysig. Ys dywedodd yr hen ddihareb Jiddisch, beth yw iaith ond tafodiaith gyda byddin. Ond mae yna ddimensiwn gwleidyddol arall ar waith hefyd, sef y modd y mae'r rhai sydd a grym gwleidyddol yn cymryd arnynt mai eu dull nhw o siarad yw'r un "cywir" a'r modd y maent yn dirmygu amrywiaethau fel ffyrdd "anghywir" neu "israddol" o siarad. Ceir hyn yn aml yn y Gymraeg, lle mae 'na bobol sydd a'r iaith berta' glywsoch chi yn dishmoli eu hiaith eu hun ar y sail nad yw gystal a iaith y teledu / y capel / northwels ayyb. Mae hyn yn feicrocosm o agwedd daeog rhai Cymry Cymraeg at yr iaith o'i chymharu a Saesneg. Mater o hunan barch a balchder yw hi.

Am Scots, mae hi'n iaith a gydnabyddir yn iaith ar wahan gan lywodraeth Prydain dan gyfraith ryngwladol. Am fwy o wybodaeth, ewch yma:

linc
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan sanddef » Iau 23 Rhag 2004 10:36 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Dewis gwleidyddol yn aml iawn ydi os mai iaith neu tafodiaeth y gelwir rhywbeth. mae Fflemeg yn 'iaith' er mai ychydig o wahaniaeth sydd rhyngddi a'r Iseldireg. Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y ddwy iaith hon a'r Almeneg a siaredir dros y ffin, ond fe'u hystyrir yn ieithoedd gwahanol. Ond wedyn ystyrir Almaeneg yn un iaith er ei bod yn amrywio'n fawr o un pen y wlad i'r llall, am y rheswm gwleidyddol mai un gwlad ydyw.


Fel siaradwr Almaeneg fy hun rhaid dweud bod yr Iseldireg yn annealladwy i siaradwr Almaeneg ond yn debyg i Plat-Deutsch.

Mae tafodiaith Berlin a Brandenburg yn ddealladwy i siaradwr Almaeneg safonol (mae'n mor wahanol fel y mae Scots o Saesneg),a gellir dweud yr un am dafodieithoedd eraill yr Almaen,ac eithrio Bayerisch,tafodiaith Bafaria,sydd,fel Almaeneg y Swistir,yn annealladwy i bawb.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Nesaf

Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron