Blogs/gwefannau Gwyddeleg

Dych chi'n dysgu iaith arall? Rhannwch eich profiadau

Cymedrolwr: Gwen

Rheolau’r seiat
Cyfle i drafod ieithoedd y byd. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blogs/gwefannau Gwyddeleg

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 07 Ion 2005 12:52 am

Dwi ar hyn o bryd yn astudio (!) Gwyddeleg yn y Brifysgol... Wyndro on i os oes unrhyw un yn gwybod am wefanau da yn y Wyddeleg? Dwi wedi edrych, ond heb ddod o hyd i ddim rili. Be am flogs? Unrhyw un yn ymwybodol o rai yn yr iaith? Eto, dwi wedi edrych ond heb ddod o hyd i ddim. Mae'n rhaid bod rhywbeth mas 'na!

Diolch am eich hamster prin :)
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Rhys » Gwe 07 Ion 2005 10:26 am

Ddim wedi gweld rhai yn Wyddeleg yn unig, ond os ei di ar y blog gwych hwn: http://www.sluggerotoole.com/ ac unai dilyn y doleni at flogiau a safleodd eraill neu edrych yn is adran 'Gaelige' ar y dde, mae'n siwr y doi ar draws rhywbeth. Mae'r perchennog y blo Mick Fealty yn postio mewn Gwyddeleg weithiau, beth am anfon e-bost ato.

Hefyd gelli di holi rhywun ar y bwrdd trafod isod, beth am roi rhyw grynhodeb o flogiau Cymraeg iddynt!
http://www.daltai.com/discus/messages/board-topics.html
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Gwe 07 Ion 2005 10:49 am

Ddim yn yr iaith Wyddeleg ac efallai dwi'n euog o wyro oddi ar y testun, ond ar wefan http://www.politics.ie mae ffwrwm ac mae trafodaeth am gynnig i 'foderneiddio'r' iaith Wyddeleg i'w wneud yn haws i'w ddysgu ac i apelio'n fwy at ddysgwyr :? . Ta beth, beth sy'n ddiddorol am y'r edefyn hwn y'r ymadrodd "ramming it down our throat" :rolio:, er mae'r ymateb yn gadarnhaol. Hefyd ceir un seiat Gwyddelig o fewn y fforwm, rhywbeth sy'n dod yn fwy fwy cyffredin dwi'n meddwl ar wefannau Cymreig (Gwlad Rugby e.e.) a rhai eraill yn yr Iwerddon a'r Alban. Testun astudiaeth efallai?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Gwe 07 Ion 2005 11:46 am

Ond dydy gwefannau dwyieithog ddim yn gweithio, rili, nadyn nhw? Yn fy mhrofiad i, lle bynnag mae dewis o'r iaith mae <i>pawb</i> yn siarad, a'r iaith mae <i>lleiafrif</i> yn ei siarad, mae ochr yn lleiafrif yn troi yn geto hunan-ymwybodol.

Sori, oddi ar y pwnc braidd, ond yr unig ffordd bydd Gwyddeleg yn ffynnu ar y we yw os bydd criw o siaradwyr Gwyddeleg yn dechrau gwefannau uniaith Gwyddeleg.

Dyw e ddim yn annodd, a does dim byd yn eu stopio nhw, ond apathy a falle diffyg gwybodaeth.

Os nag oes blog Gwyddeleg yn bodoli nawr, pam nag wyt ti'n dechrau un, Siffrwd? Does dim ffordd gwell o wella dy sgiliau mewn iaith newydd (dw i'n siarad o brofiad ;-))
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 07 Ion 2005 12:30 pm

Os nag oes blog Gwyddeleg yn bodoli nawr, pam nag wyt ti'n dechrau un, Siffrwd? Does dim ffordd gwell o wella dy sgiliau mewn iaith newydd (dw i'n siarad o brofiad )


Dwi ddim hanner digon da eto! (wir!) Ond ydy mae'n syniad yn bendant unwaith bydd fy sgiliau ieithyddol yn cynyddu ychydig!!

Diolch am y gwefannau Rhys. Heb gael cyfle i edrych yn fanwl eto ond mi wnai! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Aran » Mer 12 Ion 2005 2:59 pm

nicdafis a ddywedodd:Ond dydy gwefannau dwyieithog ddim yn gweithio, rili, nadyn nhw? Yn fy mhrofiad i, lle bynnag mae dewis o'r iaith mae <i>pawb</i> yn siarad, a'r iaith mae <i>lleiafrif</i> yn ei siarad, mae ochr yn lleiafrif yn troi yn geto hunan-ymwybodol.


Cytuno'n llwyr. Roedd yn waith hir gwenieithog dygn i gael Gwlad i roi seiat Cymraeg i mewn, a phrin iawn ydy'r defnydd ohono...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Nia y Gog » Gwe 21 Ion 2005 1:06 am

Siffrwd Helyg a ddywedodd:
Os nag oes blog Gwyddeleg yn bodoli nawr, pam nag wyt ti'n dechrau un, Siffrwd? Does dim ffordd gwell o wella dy sgiliau mewn iaith newydd (dw i'n siarad o brofiad )


Dwi ddim hanner digon da eto! (wir!) Ond ydy mae'n syniad yn bendant unwaith bydd fy sgiliau ieithyddol yn cynyddu ychydig!!


Fydd raid i ni'n dwy perswadio Ian Hughes i gychwyn un :lol: Cynnig helpu bob hyn a hyn (!)
Rhithffurf defnyddiwr
Nia y Gog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 9
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 8:16 pm
Lleoliad: Llanfairfechan/Aberystwyth

Postiogan Rhys » Iau 24 Maw 2005 3:46 pm

Dwn i'm os chi'n dal i chwilio, ond dwi wedi dod ar draws hwn, sy'n hanner hanner Gwyddelig a Saesneg. Dwi wedi holi'r boi os oes blogiau Gwyddelig eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dafydd » Iau 24 Maw 2005 4:20 pm

Wnes i weithio ar wefan Bord na Gaeilge unwaith. Mae gwefan presennol y bwrdd (Foras na Gaeilge erbyn hyn) yn cynnwys cyfeiriadur o wefannau Gwyddeleg (falle ddim gymaint o rhai cymunedol neu gan unigolion) ond mae yna lot o gysylltiadau diddorol i'w canfod yna.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd


Dychwelyd i Ieithoedd Eraill

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai

cron