Mynd i'r Eidal? Ar Wyliau? I wylio Pel-droed?
Mi fydd Menter Iaith Conwy yn trefnu Cwrs Eidaleg i Ddechreuwyr gyda Gwyneth Apolloni, i ddechrau ar nos Iau, Ebrill 7fed yn Swyddfa'r Fenter ar y Sgwar yn Llanrwst.
Bydd y gwersi yn mynd ymlaen am 5 wythnos, a bydd tal o £20 ar gyfer y cyfnod hwnnw.
Os oes diddordeb ganddoch, a fyddai'n bosib i chi ffonio Menter Iaith Conwy ar 01492 642357 i ddatgan eich diddordeb.