Ie - yr hen daith gyfnewid!
Mi fum i ar daith i Sbaen unwaith gyda'r ysgol a cefais lety 'da goth llwyr. Roedd e'n gwisgo dillad du o'i goryn i'w sawdl ac yn gwisgo crafangau metal am ei ddwylo. Y cyfan wnaeth e a fi am wythnos gyfan o'dd chware wrestling ar y playstation (dwi'n casau'r teclyn hyd heddiw!). Ro'dd 'i dad yn filiynydd a'i fam e'n edrych fel y fam ar y ffilm Matilda - Mrs Poroxide! D'odd 'i dad e'm yn gadel i fi fynd allan a'm ffrindie i a cefais i wthnos go diflas a brawychus yn Valencia a dweud y gwir. O'dd tad y bachgen yn talu am subscriptions iddo fe i gylchgronau amheus. N'ath e ddim ymdrech o gwbl i wneud i mi deimlo'n gartrefol na chynllunio gweithgareddau ar fy nghyfer. Ac yna, pan ddaeth yr amser i mi ei groesawi i Gymru fach o'dd ganddo fe'r cheek i ofyn bob nos - "What will you be doing with me tonight!" I rheina ohonoch chi sy'n deall iaith y fflamencwyr - no tuvo un buen tiempo - fue terrible!